Arolygiad o Wasanaethau Oedolion Hŷn: Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Ein canfyddiadau a'n hargymhellion ar gyfer Gwasanaethau Oedolion Hŷn yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
Gwnaethom gynnal arolygiad ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) (Dolen allanol), gan ystyried pa mor dda y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn hybu annibyniaeth ac yn atal anghenion oedolion hŷn rhag gwaethygu.
Canfyddiadau Allweddol
Cryfderau
Llesiant – gwelsom y gall pobl ag anghenion cymhleth ddisgwyl cael eu cefnogi i fyw gartref am gyhyd â phosibl gan ganolbwyntio ar hyrwyddo eu hannibyniaeth a sicrhau eu bod yn cael y gwasanaeth cywir ar yr adeg gywir.
Pobl – llais a dewis – gwelsom fod y rhan fwyaf o'r asesiadau o alluedd meddyliol wedi cael eu cynnal i safon dda ac yn dangos cofnod gair am air o'r cwestiynau a ofynnwyd i'r bobl, a'u hymatebion.
Partneriaethau, integreiddio a chydweithredu – gwelsom fod ymarferwyr sydd wedi'u cyd-leoli yn cyfathrebu ac yn cydweithio'n dda er mwyn sicrhau nad oes angen i bobl ailadrodd eu gwybodaeth.
Atal ac ymyrraeth gynnar – daethom i'r casgliad bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi darparu amrywiaeth o wasanaethau i bobl i'w helpu i ddychwelyd adref o'r ysbyty a chynnal eu hannibyniaeth, gan gynnwys mân addasiadau gan yr adran Gofal a Thrwsio a gwasanaethau cymorth gan Age Connect.
Meysydd i'w gwella
Llesiant – gwnaethom nodi bod yn rhaid i reolwyr sicrhau bod sgyrsiau am 'yr hyn sy'n bwysig' yn cael eu hymgorffori'n llawn mewn ymarfer er mwyn sicrhau bod y canlyniadau personol penodol y mae pobl am eu cyflawni bob amser yn cael eu nodi a'u cofnodi.
Pobl – llais a dewis – gwnaethom nodi bod angen i'r awdurdod lleol sicrhau eiriolaeth ffurfiol ddigonol i gyflawni dyletswyddau statudol a bodloni ei hun bod yr ymarferwyr yn hyderus i hyrwyddo'r gwasanaeth.
Partneriaethau, integreiddio a chydweithredu – argymhellwn y dylid cryfhau'r cysylltiadau rhwng yr awdurdod lleol, sefydliadau'r trydydd sector, cydgysylltwyr cymunedol a gweithwyr cymorth meddygon teulu, er mwyn gwella canlyniadau i bobl.
Atal ac ymyrraeth gynnar – gwnaethom nodi bod angen i'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd sicrhau bod gwasanaethau cymorth, cyngor a gwybodaeth yn fwy effeithiol ac yn cydymffurfio â Rhan 2 o'r Cod Ymarfer (swyddogaethau cyffredinol).
Y camau nesaf
Mae AGC ac AGIC yn disgwyl i'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd roi sylw i'r meysydd i'w gwella yn yr adroddiad. Bydd AGC yn monitro cynnydd drwy ei gweithgarwch gwerthuso perfformiad parhaus gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
Darllenwch yr adroddiad llawn isod i weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion.