Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Hawlfraint

© Hawlfraint y Goron 2024

Caiff y rhan fwyaf o'r deunydd sy'n ymddangos ar y wefan hon ei ddiogelu gan hawlfraint y Goron.

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r wybodaeth sy'n ymddangos ar y wefan hon (ac eithrio logos) yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored. 

Mae’r Drwydded Llywodraeth Agored i'w gweld ar wefan yr Archifau Gwladol,(dolen allanol) neu gallwch ysgrifennu i’r cyfeiriad hwn: Information Policy Team, The National Archives, Kew, London TW9 4DU, neu e-bostio psi@nationalarchives.gsi.gov.uk.

Rhaid ichi atgynhyrchu ein deunydd yn gywir a pheidio â'i ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Os bydd unrhyw un o'r eitemau ar y safle hwn sydd dan hawlfraint y Goron yn cael ei hailgyhoeddi neu ei chopïo ar gyfer pobl eraill, rhaid nodi ffynhonnell y deunydd a chydnabod y statws o ran hawlfraint (er enghraifft, Y Swyddfa Eiddo Deallusol © Hawlfraint y Goron 2024).  Rydym yn eich annog hefyd i greu hyperddolenni at y wefan hon.

Nid yw'r hawl i atgynhyrchu deunydd hawlfraint y Goron yn cynnwys deunydd ar y safle hwn y nodwyd bod gan drydydd parti hawlfraint arno. Byddai angen cael caniatâd deiliaid yr hawlfraint honno i atgynhyrchu deunydd o'r fath.

Cyfyngir ar y defnydd o'n logo. Nid ydym yn caniatáu i ddarparwyr na sefydliadau ddefnyddio ein logo at ddibenion hysbysebu na chymeradwyo. Os byddwch yn gweld ein logo ar wefan neu yn rhywle arall, nid yw hynny'n golygu ein bod wedi cymeradwyo'r defnydd hwnnw. Fodd bynnag, gall darparwyr a sefydliadau sydd yn gofrestredig gyda ni arddangos ein logo drwy ein widgit arbennig ar gyfer gwefannau.

Os ydych yn newyddiadurwr, cynrychiolydd o gyhoeddiad neu bartner ni, gallwch ofyn am ganiatâd i ddefnyddio'r logo Arolygiaeth Gofal Cymru drwy e-bostio’r tîm Ymgysylltu a Chyfathrebu.