Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Polisi preifatrwydd

Ein Polisi preifatrwydd.

Y Rheoliad Cyffredinol ar Reoli Data

Dan y Rheoliad Cyffredinol, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn gennych chi. Rydym yn defnyddio technolegau newydd a meddalwedd amgryptio i ddiogelu eich data, ac yn cadw safonau diogelwch llym er mwyn rhwystro unrhyw fynediad heb ei awdurdodi atynt. 

Nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i unrhyw drydydd parti nag unrhyw adran arall o'r Llywodraeth. 

Eich hawliau

Dan y Rheoliad Cyffredinol, mae gennych hawliau fel unigolion ac mae modd i chi eu harfer mewn perthynas â'r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi. Y rhain yw:

  • yr hawl i gael mynediad at gopi o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn y data personol a gedwir amdanoch chi; 
  • yr hawl i wrthwynebu prosesu'r data sydd sy’n achosi niwed neu drallod neu sy’n debygol o wneud hynny; 
  • yr hawl i rwystro prosesu'r data i'w marchnata'n uniongyrchol; 
  • yr hawl i wrthwynebu gwneud penderfyniadau drwy ddull awtomatig; 
  • yr hawl mewn amgylchiadau penodol i gywiro, rhwystro, dileu neu ddinistrio unrhyw ddata personol gwallus; 
  • yr hawl i geisio am iawndal am ddifrod a achosir wrth dorri'r Ddeddf.

Gallwch ddarllen rhagor am yr hawliau hyn yma

Ymweld â'n gwefan

Pan fydd rhywun yn ymweld â gwefan arolygiaethgofal.cymru  rydym yn defnyddio'r gwasanaeth trydydd parti Google Analytics i gasglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol a manylion patrymau ymddygiad ymwelwyr. Ein bwriad wrth wneud hyn yw canfod nifer yr ymwelwyr â rhannau amrywiol y wefan, er enghraifft. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei phrosesu'n gwbl ddienw ac nid oes modd adnabod unrhyw un yn unigol. Nid ydym ni yn ceisio canfod pwy sy'n ymweld â'n gwefan, ac nid ydym yn caniatáu i Google wneud hynny chwaith. Os byddwn am gasglu gwybodaeth adnabyddadwy bersonol drwy ein gwefan, byddwn yn agored am hyn. Wrth gasglu gwybodaeth bersonol, byddwn yn nodi hynny'n glir ac yn egluro beth rydym yn bwriadu ei wneud â’r wybodaeth hon. 

Defnydd o gwcis gan Arolygiaeth Gofal Cymru

Ffeiliau testun bach yw cwcis y mae’r gwefannau rydych chi’n ymweld â nhw yn eu hanfon i’ch cyfrifiadur neu’ch dyfais symudol. Maen nhw’n helpu gwefannau i weithio’n well ac yn rhoi gwybodaeth i berchnogion gwefannau. Er enghraifft, rydym yn defnyddio cwcis iaith er mwyn gwybod ym mha iaith yr hoffech weld y wefan, rydym hefyd yn defnyddio cwcis YouTube i osod fideos ar dudalennau a chwcis Google Anaytics i olrhain ymddygiad defnyddwyr ar y wefan. Drwy ddeall sut mae pobl yn defnyddio’n gwefan, gallwn ei gwneud yn haws i'w defnyddio a chynnig cynnwys sy’n diwallu anghenion pobl yn well. Mae’r wybodaeth y mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn ei chasglu yn cynnwys cyfeiriad IP, tudalennau yr ymwelwyd â nhw, y porwr a'r system weithredu. Ni chaiff y data eu defnyddio i adnabod unrhyw ddefnyddwyr yn bersonol. Dyma’r cwcis rydym yn eu defnyddio ar ein gwefan:

Language version

Enw: langPrefWAG

Diben: Y system rheoli cynnwys sy’n creu’r cwci hwn ac mae’n hanfodol i’r wefan ddangos y wefan yn yr iaith gywir.

Dod i ben: Pan fyddwch yn cau eich porwr 

Session Tracking

Enw: JSessionID

Diben: Er mwyn olrhain sesiwn pan fo'r cwcis wedi'u diffodd. Mae hyn yn caniatáu i'r porwr gadw eich sesiwn.     

Dod i ben: Ar ddiwedd y sesiwn

GoogleAnalytics

Enw: _ga

Diben: Caiff y cwcis hyn eu defnyddio i weld sut mae ymwelwyr yn defnyddio’n gwefan. Rydyn ni’n defnyddio’r wybodaeth i’n helpu i wella’r wefan. Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth yn ddi-enw, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr â’r wefan, a ydyn nhw wedi ymweld â’r wefan o’r blaen a’r tudalennau y maen nhw’n ymweld â nhw.

Dod i ben: 2 flynedd

CookieControl

Enw: 

civicAllowCookies

civicShowCookieIcon

Diben: Mae’r cwci hwn yn cofnodi a yw defnyddiwr wedi derbyn cwcis ar ein gwefan.

Dod i ben: 10 awr

YouTube

Enw: 

VISITOR_INFO1_LIVE

PREF

Dod i ben: 8 mis

use_hitbox

Dod i ben: Ar ddiwedd y sesiwn

Diben: Mae’r cwcis hyn yn hanfodol i ddangos fideos YouTube ar ein gwefan.

Mae modd rheoli rywfaint ar gwcis drwy osodiadau eich porwr. I ddysgu mwy am gwcis a sut i’w rheoli, ewch i www.allaboutcookies.org.

Pa wybodaeth sy'n cael ei chasglu gennym?

Rydym yn monitro gweithgarwch defnyddwyr y wefan hon er mwyn gwella’r cynnwys. Mae’r wefan yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddi’r we a ddarperir gan Google Inc. ('Google'). Mae Google Analytics yn defnyddio 'cwcis' a chod JavaScript i helpu i ddadansoddi sut mae defnyddwyr yn defnyddio gwefannau. Bydd yr wybodaeth a gynhyrchir am eich defnydd o’r wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP dienw) yn cael ei throsglwyddo a’i storio ar weinyddion Google yn yr Unol Daleithiau. 

Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth hon er mwyn llunio adroddiadau am weithgaredd defnyddwyr y wefan hon. Gall Google hefyd drosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd parti pan fydd yn ofynnol i wneud yn ôl y gyfraith, neu pan fydd trydydd parti yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google. 

Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP gydag unrhyw ddata eraill a gedwir ganddo. Gallwch wrthod defnyddio cwcis drwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr, ond nodwch os gwnewch hyn efallai na fyddwch yn gallu defnyddio’r wefan hon yn llawn. Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn rhoi caniatâd i Google brosesu data amdanoch chi yn y dull ac i’r dibenion a nodwyd uchod. 
 
Darllenwch Bolisi Preifatrwydd Google  a Thelerau Gwasanaeth Google i gael yr wybodaeth fanwl. 

Eich Rhyngweithiad â'r Wefan Hon 

Rydym yn casglu dau fath o wybodaeth electronig oddi wrth y rheini sy'n ymweld â'r wefan hon; adborth a manylion tanysgrifio drwy e-bost.

Peiriant chwilio

Google Search Appliance (GSA) sy'n cynnal ein cyfleuster chwilota ar ein gwefan. Mae ymholiadau a chanlyniadau chwiliadau yn cael eu logio’n ddienw er mwyn ein helpu i wella'n gwefan a’r cyfleusterau chwilio. Nid oes unrhyw ddata penodol am ddefnyddwyr yn cael eu casglu gan  Arolygiaeth Gofal Cymru nac unrhyw drydydd parti. 

E-newyddlen 

Rydym yn defnyddio'r darparwr trydydd parti GovDelivery i anfon ein e-newyddlenni misol. Rydym yn casglu ystadegau ynghylch yr e-byst sy'n cael eu hagor a nifer y cliciau drwy ddefnyddio technolegau safonol y diwydiant, gan gynnwys GIFs clir i'n helpu i fonitro a gwella ein e-newyddlen. I gael rhagor o wybodaeth, gweler polisi GovDelivery ar y Rheoliad Cyffredinol ar Reoli Data. Mae hefyd modd gweld ei Bolisi Preifatrwydd cyffredinol yma. 

Ymgyngoriadau ac offer arolygon ar-lein

Rydym yn casglu gwybodaeth sy'n cael ei rhoi'n wirfoddol gan y cyhoedd drwy ddefnyddio offeryn arolygon ar-lein a gynhelir drwy Smart Survey, sy’n gweithredu fel prosesydd data i Arolygiaeth Gofal Cymru ac yn prosesu gwybodaeth bersonol yn unol â'n cyfarwyddiadau yn unig. Mae Smart Survey yn gweithredu o'r Unol Daleithiau, ond mae wedi rhoi sicrhad ei fod yn bodloni safonau'r Rheoliad Cyffredinol ar Reoli Data, fel y gwelir yn ei Bolisi Preifatrwydd. 

Ffurflenni ar-lein

Mae ein gwefan yn defnyddio ffurflenni Drupal er mwyn casglu gwybodaeth gan ddefnyddwyr. System rheoli cynnwys ffynhonnell agored yw Drupal – yr ydym yn ei defnyddio i reoli arolygiaethgofal.cymruGellir dod o hyd i'w Polisi Preifatrwydd yma.

Pobl sy'n cysylltu â ni drwy'r cyfryngau cymdeithasol

Rydym yn defnyddio'r darparwr trydydd parti Hootsuite i reoli ein gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol. 
Os byddwch yn anfon neges breifat neu uniongyrchol atom drwy'r cyfryngau cymdeithasol, caiff y neges ei chadw gan Hootsuite am dri mis. Ni chaiff ei rhannu ag unrhyw sefydliad arall. 

Pobl sy'n anfon e-bost atom

Rydym yn defnyddio Diogelwch Haen Cludo i amgryptio a diogelu traffig e-byst yn unol â gofynion y Llywodraeth. Os nad yw eich cyfleuster e-bost yn cefnogi Diogelwch Haen Cludo, dylech fod yn ymwybodol ei bod yn bosibl na fydd modd i’r e-byst rydym yn eu hanfon neu'n eu cael drosglwyddo’n ddiogel. 

Byddwn hefyd yn monitro unrhyw e-byst sy'n cael eu hanfon atom, gan gynnwys atodiadau, am feirysau neu feddalwedd faleisus. Dylech fod yn ymwybodol o'ch cyfrifoldeb i sicrhau bod unrhyw e-bost y byddwch yn ei anfon yn cadw at y gyfraith. 

Cofrestru

Mae rhai nodweddion ar wefannau arolygiaethgofal.cymru  yn golygu bod angen i chi gofrestru. Yr wybodaeth gofrestru sydd ei hangen arnom yw eich cyfeiriad e-bost. Caiff y data hyn eu storio yn yr Unol Daleithiau, ond mae’r ffordd y caiff y data eu trin a’u trafod yn bodloni darpariaethau’r Rheoliad Cyffredinol ar Reoli Data fel y caiff ei gadarnhau yma. Caiff yr wybodaeth hon ei storio hyn nes y byddwch yn penderfynu dileu eich cyfrif. 

Gallwch newid eich dewisiadau cofrestru, eich cyfeiriad e-bost a’ch manylion mewngofnodi drwy’r wefan ar unrhyw adeg. Os nad ydych am dderbyn cylchlythyron Arolygiaeth Gofal Cymru mwyach gallwch ddileu eich cyfrif o’r dudalen dewisiadau yn eich cyfrif. 

Cwynion neu ymholiadau

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn ceisio bodloni'r safonau uchaf wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Felly, rydym yn ymdrin ag unrhyw gŵynion a ddaw i law ynghylch hyn o ddifrif. Rydym yn annog pobl i ddwyn unrhyw fater i'n sylw lle maent yn credu ein bod yn casglu neu'n defnyddio gwybodaeth mewn modd annheg, camarweiniol neu anaddas. Byddem hefyd yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella ein gweithdrefnau. 

Cafodd y polisi preifatrwydd hwn ei ddrafftio i fod yn gryno ac yn eglur. Nid yw'n cynnwys holl fanylion pob agwedd ar y ffordd y mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn fodlon darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol neu eglurhad yn ôl yr angen. Dylid anfon unrhyw geisiadau am hyn i'r cyfeiriad isod. 

Dolenni at wefannau eraill

Nid yw'r polisi preifatrwydd hwn yn cynnwys y dolenni sy'n arwain at wefannau eraill. Rydym yn eich annog i ddarllen y datganiadau preifatrwydd ar y gwefannau eraill y byddwch yn ymweld â nhw. 

Newidiadau i'r polisi preifatrwydd hwn

Os y polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn rhoi fersiwn ddiwygiedig ar y dudalen hon. Byddwn yn adolygu’r dudalen hon yn rheolaidd er mwyn sicrhau eich bod yn ymwybodol bob amser pa wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth honno ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn yn ei rhannu â phartïon eraill. 

Cafodd y polisi preifatrwydd hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 22 Mai 2018. 

Sut i gysylltu â ni 

Os hoffech ofyn am wybodaeth am ein polisi preifatrwydd, gallwch anfon e-bost atom drwy customerhelp@llyw.cymru neu ysgrifennwch at:

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Adborth

Rydym yn croesawu eich adborth. Os byddwch yn cysylltu â ni i ofyn am wybodaeth, efallai y bydd yn rhaid i ni gysylltu ag adrannau eraill o'r Llywodraeth i gael gafael ar yr wybodaeth honno. Os yw eich cwestiwn yn dechnegol, efallai y bydd yn rhaid i ni ei anfon at ein cyflenwyr technoleg. 

Ni fyddwn yn rhoi eich gwybodaeth bersonol i unrhyw un wrth ddelio â’ch ymholiad, oni bai y byddwch wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny. Ar ôl i ni ymateb i'ch ymholiad, byddwn yn cadw cofnod o’ch neges at ddibenion archwilio. 

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych ragor o gwestiynau ynghylch sut y bydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn defnyddio'ch data, ysgrifennwch atom gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data
Arolygiaeth Gofal Cymru
Llywodraeth Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ

Email: CIWInformation@llyw.cymru