Mae gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ynghyd ag asesu anghenion pobl am ofal a chefnogaeth ac am drefnu bod gofal a chymorth yn cael ei ddarparu. Gallant hefyd ddarparu'n uniongyrchol amrywiaeth o wasanaethau fel cymorth dydd a gwasanaethau sydd wedi'u cofrestru â ni fel cartrefi gofal.
Os oes gennych gŵyn am y ffordd y mae gwasanaeth cymdeithasol awdurdod lleol yn gweithredu, dylech gysylltu ag ef yn uniongyrchol. Ceir rhagor o wybodaeth am sut y gallwn gefnogi cwynion am wasanaethau awdurdodau lleol yn ein canllaw Darparu adborth am wasanaethau gofal yng Nghymru.
Rydym yn awyddus i glywed gan bobl am eu profiad o'r gwasanaeth a gânt gan yr awdurdod lleol.Bydd hyn yn helpu i lywio ein dealltwriaeth o ba mor dda y mae gwasanaeth cymdeithasol awdurdod lleol yn gweithredu ac i gefnogi'r bobl sy'n ei ddefnyddio.
Os ydych am godi pryder gyda ni am wasanaeth cymdeithasol awdurdod lleol, dewiswch y botwm isod.
Codi pryder am wasanaeth cymdeithasol awdurdod lleol