Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Codi pryder am wasanaeth gofal

Cyn i ni ddechrau

Darllenwch ein canllaw ar roi adborth ar wasanaethau gofal cyn i chi godi pryder.

Os ydych chi'n poeni y gall fod rhywun yn wynebu risg o niwed, camdriniaeth neu esgeulustod, dylech gysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol yn eich ardal i roi gwybod am bryder mewn perthynas â diogelu. Ewch i wefan Llywodraeth Cymru (dolen allanol) i gael y manylion cyswllt.

Os ydych chi'n rhoi gwybod am bryder mewn perthynas â diogelu mewn gwasanaeth gofal, hoffem ni gael gwybod amdano hefyd.

Mae'r ffurflen yr ydych ar fin ei chyrchu ar gyfer codi pryder am wasanaeth gofal, h.y. pryder a allai fod gennych am y ddarpariaeth uniongyrchol o ofal a/neu'r cymorth a ddarperir gan wasanaeth gofal. Os yw eich pryder yn ymwneud â'r trefniadau cyngor, asesu, contractio neu gomisiynu a ddarperir gan yr awdurdod lleol, yna dylech godi pryder am awdurdod lleol.

Fel arall, os byddai'n well gennych siarad â ni yn uniongyrchol am eich pryderon, dylech gysylltu â Thîm Cyswllt AGC dros y ffôn ar 0300 7900 126 a siarad ag aelod o'n staff.

Os yw eich pryder yn ymwneud â phryder blaenorol a godwyd gyda ni, cysylltwch â'n Tîm Cyswllt AGC i'w drafod.

Parhau