Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Codi pryder am wasanaethau gofal

Sut i godi pryder am wasanaeth gofal yng Nghymru.

Mae pryderon yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth sy'n ein galluogi i lywio ein prosesau arolygu a gorfodi.

Os ydych am wneud cwyn neu godi pryder am wasanaeth gofal cofrestredig, mae gennych yr hawl i wneud cwyn i'r gwasanaeth cofrestredig yn uniongyrchol. Yn ôl y gyfraith, mae’n ofynnol i bob gwasanaeth cofrestredig gael ei weithdrefn gwyno hawdd ei defnyddio ei hun ac mae’n rhaid dilyn y weithdrefn honno. I ddechrau, dylech wneud cwyn i'r gwasanaeth cofrestredig yn uniongyrchol er mwyn rhoi'r cyfle iddo ddatrys eich pryderon.

Ni allwn godi eich cwyn na mynd i'r afael â hi ar eich rhan. Nid ydym yn ymchwilio i gwynion unigol nac yn datrys anghytundebau rhwng pobl a'u darparwyr gwasanaethau.

Os hoffech wneud cwyn i'r gwasanaeth cofrestredig, dylech ofyn am gael gweld ei weithdrefn gwyno hefyd. Os byddwch yn gwneud cwyn am ofal a/neu gymorth gwael, rydym am gael gwybod amdani hefyd gan y bydd yn llywio ein proses o gynllunio arolygiadau.

Os ydych am godi pryder gyda ni am wasanaeth cofrestredig, dewiswch y botwm isod.

Codi pryder am wasanaeth gofal cofrestredig

Os oes gennych bryderon am blentyn a all fod yn cael ei niweidio, ei gam-drin neu ei esgeuluso

Os ydych chi'n poeni y gall plentyn neu oedolyn sy'n byw yn eich teulu neu eich cymuned fod mewn perygl o niwed, camdriniaeth neu esgeulustod, dylech gysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol yn eich ardal i roi gwybod am bryder mewn perthynas â diogelu. Ewch i wefan Llywodraeth Cymru (dolen allanol) i gael y manylion cyswllt.

Os yw’r unigolyn y mae gennych bryderon amdano mewn perygl o niwed, camdriniaeth neu esgeulustod a’i fod yn derbyn gofal a/neu gymorth gan wasanaeth gofal cofrestredig, dylech gysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol yn eich ardal i roi gwybod am bryder diogelu, ond rydym am i chi ddweud wrthym ni hefyd.

Os ydych am wneud cwyn neu fynegi pryder am wasanaeth cymdeithasol awdurdod lleol

Gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol sy'n gyfrifol am ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth yn ogystal ag asesu anghenion pobl am ofal a chymorth a threfnu i ofal a chymorth i gael eu darparu. Gallant hefyd ddarparu amrywiaeth o wasanaethau megis cymorth dydd yn ogystal â gwasanaethau sydd wedi'u cofrestru â ni megis cartrefi gofal.

Os oes cwyn gennych am y ffordd y mae gwasanaeth cymdeithasol awdurdod lleol yn gweithredu, dylech gysylltu ag ef yn uniongyrchol. Mae ganddo ei broses gwyno a'i wybodaeth ei hun a gallwch ofyn amdanynt.

Ni allwn godi eich cwyn na mynd i'r afael â hi ar eich rhan.  Nid ydym yn ymchwilio i gwynion unigol nac yn datrys anghytundebau rhwng pobl a'u hawdurdod lleol.

Mae diddordeb gennym mewn clywed gan bobl am eu profiadau o wasanaeth y maent yn ei dderbyn gan yr awdurdod lleol. Bydd hyn yn helpu i ddeall pa mor dda y mae gwasanaeth cymdeithasol yr awdurdod lleol yn gweithredu ac yn cefnogi’r bobl sy’n ei ddefnyddio.

Os ydych am godi pryder gyda ni am wasanaeth cymdeithasol awdurdod lleol, dewiswch y botwm isod.

Codi pryder am wasanaeth cymdeithasol awdurdod lleol

Os nad ydych yn hapus gyda chanlyniad eich cwyn gyda'r gwasanaeth cofrestredig neu wasanaeth cymdeithasol yr awdurdod lleol

Os ydych yn dal i fod yn anhapus gyda'r canlyniad ar ôl i'ch cwyn gael ei datrys gyda'r gwasanaeth cofrestredig neu wasanaeth cymdeithasol yr awdurdod lleol, dylech gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gan fod pwerau ganddo i ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus a darparwyr gofal yng Nghymru. Ewch i wefan yr Ombwdsmon (External link) i gael manylion pellach.

Gallwch hefyd roi gwybod i ni os ydych yn dal i fod yn anhapus gyda chanlyniad y gŵyn y gwnaethoch ei chodi gyda'r gwasanaeth cofrestredig neu wasanaeth cymdeithasol awdurdod lleol. Byddwn yn ystyried eich pryder ac yn ystyried y camau priodol i'w cymryd mewn ymateb iddi.

Gwneud datgeliad am gyflogwr

Os ydych yn cael eich cyflogi gan wasanaeth cofrestredig neu wasanaeth cymdeithasol awdurdod lleol a bod profiad gennych o arfer gwael neu gamymddwyn yn y gweithle, neu ymwybyddiaeth ohono, rhowch wybod i ni.

Cyflwynwyd Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 (External link), a ddiwygiodd Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996, i amddiffyn gweithwyr sydd â phryderon ynghylch arferion gwael neu gamymddwyn yn eu gweithle ac sy'n dymuno ‘chwythu'r chwiban’.  Enw arall ar hyn yw ‘gwneud datgeliad’. 

Os ydych yn gweithio i wasanaeth cofrestredig neu wasanaeth cymdeithasol awdurdod lleol, ac yn gwneud datgeliad i ni yn unol â meini prawf penodol, gellir ei ystyried yn ‘ddatgeliad gwarchodedig’ ac mae gennych yr hawl i beidio â chael eich diswyddo na phrofi effaith andwyol ar eich cyflogaeth o ganlyniad i hynny. Os bydd datgeliad yn cael effaith andwyol arnoch e.e. yn methu â chael dyrchafiad neu gael eich diswyddo, mae hawl gennych i fynd â'ch cyflogwr i dribiwnlys cyflogwr.

Mae cyngor pellach ar wneud datgeliad yn ein Canllawiau ar ddarparu adborth ar wasanaethau gofal yng Nghymru’.

Rhoi gwybod i ni am wasanaeth yr amheuir ei fod yn gweithredu heb gael ei gofrestru

Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn nodi'r math o wasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant a chwarae y mae'n rhaid iddynt gael eu rheoleiddio gennym. Yn eu plith mae'r canlynol:

  • gwasanaethau oedolion: gwasanaethau cartrefi gofal i oedolion, gwasanaethau cymorth cartref, gwasanaethau lleoli oedolion a gwasanaethau canolfan breswyl i deuluoedd
  • gwasanaethau plant: gwasanaethau cartrefi gofal i blant, gwasanaethau maethu, gwasanaethau mabwysiadu, gwasanaethau eirioli a gwasanaethau llety diogel
  • gwasanaethau gofal plant a chwarae: gwarchodwyr plant, crèches, gofal dydd llawn, gofal dydd sesiynol, gofal y tu allan i'r ysgol a darpariaeth gwaith chwarae mynediad agored

Rhaid i bob darparwr sy'n rhedeg gwasanaeth o'r fath yng Nghymru gofrestru â ni. Mae'n anghyfreithlon i ddarparwr weithredu gwasanaeth rheoleiddiedig heb gofrestriad.

Mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni os ydych yn credu neu'n amau bod gwasanaeth rydych chi, neu eraill yn ymwybodol ohono'n gweithredu heb gofrestriad.

Os hoffech roi gwybod am wasanaeth rydych yn amau ei fod yn gweithredu heb gofrestriad, dylech gwblhau a chyflwyno ein ffurflen bryderon ar y we. 

Mae gwybodaeth bellach am wasanaethau sy'n gweithredu heb gofrestriad yn ein Canllawiau ar ddarparu adborth ar wasanaethau gofal yng Nghymru’.