Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Llythyr gweithgarwch monitro awdurdod lleol: Cyngor Sir Ddinbych

Mae’r llythyr hwn yn crynhoi canfyddiadau ein harolygiad dilynol a gynhaliwyd yng ngwasanaethau plant Cyngor Sir Ddinbych rhwng 22 a 26 Tachwedd 2021.

Cynhaliodd AGC arolygiad o wasanaethau plant Cyngor Sir Ddinbych. Gwnaed hyn i geisio sicrwydd bod gwelliannau’n cael eu gwneud, yn dilyn Archwiliad Sicrwydd a gynhaliwyd rhwng 28 Mehefin a 02 Gorffennaf 2021, lle codwyd pryderon difrifol am rai agweddau ar y gwasanaethau plant.

Roedd tystiolaeth o gynnydd yn amlwg, ond mae cyflymder y cynnydd hwn wedi cael ei rwystro gan yr heriau sylweddol y mae'r awdurdod lleol wedi'u hwynebu o ran recriwtio i'w adran Gwasanaethau Cymdeithasol.

Crynodeb o'r canfyddiadau:

Llesiant – Mae plant yn derbyn ymateb diogelu cyflym, gyda phryderon yn cael eu huwchgyfeirio'n briodol i ymchwiliadau amddiffyn plant ar ôl rhoi ystyriaeth dda i beryglon a phenderfyniadau wrth y drws ffrynt. 

Pobl – llais a dewis – Mae grŵp prosiect ar y gweill i adolygu recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol ar draws y gwasanaethau cymdeithasol cyfan, gyda ffocws ar nodi sut y gall yr awdurdod lleol ddod yn fwy cystadleuol yn y farchnad recriwtio.

Partneriaethau ac integreiddio – Mae cyfathrebu a gweithio mewn partneriaeth da rhwng gwasanaethau plant a phartneriaid allanol ar lefel weithredol a strategol. Gwelsom dystiolaeth bod yr awdurdod lleol yn defnyddio’r grant trawsnewid i ddatblygu gwasanaethau newydd gyda phartneriaid i ddarparu cymorth amserol a phriodol i blant a theuluoedd.

Atal – Gwelsom enghreifftiau lle'r oedd plant yn elwa ar ymyrraeth y tîm therapiwtig, a oedd yn atal yr angen i blant ddod dan ofal yr awdurdod lleol.

Y camau nesaf

Rydym wedi tynnu sylw’r awdurdod lleol at gryfderau a meysydd i’w gwella.  Disgwyliwn i gryfderau gael eu cydnabod, eu dathlu a'u hyrwyddo ymhellach.

Bydd AGC yn monitro cynnydd drwy ei gweithgarwch gwerthuso perfformiad parhaus.