Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Adroddiad ar Arolygiad seiliedig ar risg o wasanaethau plant ac Arolygiad gwerthuso perfformiad o wasanaethau oedolion: Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau ein harolygiadau o wasanaethau cymdeithasol plant a gwasanaethau cymdeithasol oedolion a gynhaliwyd rhwng 7 a 28 Hydref 2020.

Diben yr arolygiadau hyn oedd ystyried y cynnydd y mae gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi ei wneud ar eu taith tuag at wella yn dilyn cyfarfod a gynhaliwyd rhyngom ni a Phrif Swyddog Gweithredol, uwch-swyddogion a deiliaid portffolio gofal cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ym mis Ionawr 2020 i drafod methiannau sylweddol yng ngwasanaethau plant Wrecsam a cheisio eglurhad gan yr awdurdod lleol ynghylch ei gynlluniau ar unwaith ar gyfer gwella.

Trosolwg

Gwasanaethau cymdeithasol plant: arolygiad seiliedig ar risg

Pobl – llais a rheolaeth: Gwnaethom nodi arweinyddiaeth gref a hyderus gan arweinwyr ac uwch-reolwyr sy'n dangos dealltwriaeth gywir o'u gwasanaethau a'r meysydd y mae angen eu gwella. Mae angen i reolwyr ac ymarferwyr sy'n gweithio i'r awdurdod lleol sicrhau bod lleisiau a safbwyntiau plant a'u teuluoedd wrth wraidd eu hasesiadau ac yn llywio'r gwaith o gynllunio gofal a chymorth

Atal: Gwnaethom nodi bod ymyrryd yn gynnar yn unol â gofynion Deddf 2014 wedi dod yn sbardun strategol pwysig ar gyfer yr awdurdod lleol. Mae ehangu dewis ac argaeledd seibiannau byr ar gyfer plant anabl yn faes y mae'r awdurdod lleol yn ceisio ei ddatblygu. Rydym yn argymell y dylai ymarferwyr gynnal eu ffocws ar ganlyniadau ar gyfer y plentyn. Mae'n rhaid i asesiadau a chyfarfodydd cynllunio cyfreithiol fod yn amserol ac ni ddylent oedi penderfyniadau nac achosion llys.

Llesiant: Gwnaethom nodi bod partneriaid a gweithwyr proffesiynol yn gwneud atgyfeiriadau amserol a phriodol at y gwasanaethau cymdeithasol ac yn cael adborth ar y pryderon y maent yn eu codi. Mae'n rhaid i reolwyr ac ymarferwyr sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth ddigonol o'r plant y maent yn gweithio gyda nhw, gan gynnwys eu cefndir a'u sefyllfa bresennol er mwyn sicrhau parhad gwaith cynllunio, gan gynnwys cynllunio wrth gefn

Partneriaethau, integreiddio a chyd-gynhyrchu: Gwnaethom nodi bod y bwrdd gwelliant cyflym yn gweithio'n effeithiol i lywio gwelliannau ar draws gwasanaethau plant. Mae ymarferwyr yn disgrifio'r dull newydd fel taith tuag at wella gyda thîm uwch-reolwyr sy'n canolbwyntio'n fwy ar blant. Rydym yn argymell bod yn rhaid i weithwyr cymdeithasol weithio mewn partneriaeth â rhieni ar sail gyfartal. Mae'n rhaid iddynt sicrhau bod rhieni yn cael gwybod am gyfleoedd i gael rhywun o'u dewis i'w cefnogi i gymryd rhan lawn mewn asesiadau ac adolygiadau

Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion: Arolygiad Gwerthuso Perfformiad

Pobl – llais a rheolaeth: Gwnaethom nodi bod y rhan fwyaf o dimau asesu yn deall y canlyniadau y mae'r oedolion am eu cyflawni yn dda ac yn eu cofnodi. Mae'n rhaid ymgorffori dealltwriaeth o bwysigrwydd dechrau ymgysylltu ag oedolion drwy dybio eu bod yn gwybod beth sydd orau iddynt hwy eu hunain ym mhob maes gwasanaeth.

Atal: Gwnaethom nodi bod y gwasanaeth yn deall pwysigrwydd rhyddhau cleifion o'r ysbyty yn amserol ac yn parhau i roi blaenoriaeth iddo, gan gynnwys cynnig gwasanaethau cofleidiol i gefnogi pobl i ddychwelyd i'w cartrefi eu hunain. Mae'n rhaid i'r awdurdod lleol wella amseroldeb a chysondeb ymatebion y gwasanaeth. Mae'n rhaid i uwch-reolwyr ddefnyddio eu goruchwyliaeth well o ymarfer rheng flaen i gefnogi rheolwyr timau i ddeall a gwella'r llif gwaith.

Llesiant: Gwelsom gydnabyddiaeth glir o bwysigrwydd sicrhau bod pobl yn cadw rheolaeth dros eu bywydau eu hunain. Rydym yn argymell y dylai ymateb y gwasanaeth i anghenion a nodwyd ganolbwyntio ar angen, yn hytrach na bod yn seiliedig ar oedran neu ddiagnosis. Dylai rheolwyr herio achosion o osod trothwyon i eithrio pobl nad ydynt yn bodloni meini prawf y gwasanaeth ond a allai gael budd o gymorth.

Partneriaethau, integreiddio a chyd-cynhyrchu: Gwnaethom nodi bod asiantau cymunedol wedi cael eu hymestyn er budd yr awdurdod lleol cyfan. Mae cyfle pellach i ddatblygu'r prosiect hwn yn unol â Deddf 2014.

Y camau nesaf

Rydym yn disgwyl y bydd y meysydd i'w gwella a nodwyd gennym yn cael eu cynnwys yng nghynlluniau gwella'r awdurdod lleol. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch gwerthuso perfformiad parhaus gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Darllenwch yr adroddiad llawn isod i weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion.