Adroddiad Gwerthuso Perfformiad 2014–15: Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Canfyddiadau ac argymhellion ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Mae’r gwerthusiad yn seiliedig ar:
- Wybodaeth a dderbyniwyd gan y cyngor
- Data perfformiad
- Trafodaethau mewn cyfarfodydd ymgysylltu chwarterol gydag uwch swyddogion
- Arolygiadau, adolygiadau ac ymweliadau â safleoedd
- Gwybodaeth o gwynion neu bryderon
- Gwybodaeth o arolygiaethau a rheoleiddwyr eraill
- Arolygiadau o wasanaethau a reoleiddir sydd wedi eu comisiynu gan y cyngor
Mae'r adroddiad o berfformiad ar gyfer pob cyngor wedi cael ei gymedroli i sicrhau ei fod yn gyson, tryloyw ac yn gymesur. Comisiynwyd cymedrolwr annibynnol i helpu gyda'r broses.
Bydd canlyniad y gwerthusiad a'r broses adolygu yn helpu i lywio'r gwaith rydym yn ei wneud ym mhob awdurdod ac i ddatblygu ein hadolygiadau cenedlaethol neu thematig.
Dylid darllen cyfeiriadau at 'Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru' (AGGCC) yn y dogfennau ar y dudalen hon fel 'Arolygiaeth Gofal Cymru'.