Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Adroddiad Gwerthuso Perfformiad 2014–15: Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ddinbych

Canfyddiadau ac argymhellion ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ddinbych.

Mae’r gwerthusiad yn seiliedig ar:

  • Wybodaeth a dderbyniwyd gan y cyngor
  • Data perfformiad
  • Trafodaethau mewn cyfarfodydd ymgysylltu chwarterol gydag uwch swyddogion
  • Arolygiadau, adolygiadau ac ymweliadau â safleoedd
  • Gwybodaeth o gwynion neu bryderon
  • Gwybodaeth o arolygiaethau a rheoleiddwyr eraill
  • Arolygiadau o wasanaethau a reoleiddir sydd wedi eu comisiynu gan y cyngor

Mae'r adroddiad o berfformiad ar gyfer pob cyngor wedi cael ei gymedroli i sicrhau ei fod yn gyson, tryloyw ac yn gymesur. Comisiynwyd cymedrolwr annibynnol i helpu gyda'r broses.

Bydd canlyniad y gwerthusiad a'r broses adolygu yn helpu i lywio'r gwaith rydym yn ei wneud ym mhob awdurdod ac i ddatblygu ein hadolygiadau cenedlaethol neu thematig.

Dylid darllen cyfeiriadau at 'Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru' (AGGCC) yn y dogfennau ar y dudalen hon fel 'Arolygiaeth Gofal Cymru'.