Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Llythyr gwirio gwelliant awdurdod lleol: Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Powys

Mae'r llythyr hwn yn crynhoi canfyddiadau'r gwiriad gwelliant ar wasanaethau oedolion a phlant Cyngor Sir Powys rhwng 9 a 13 Mai 2022.

Gwnaethom gynnal y gwiriad gwelliant hwn i adolygu’r cynnydd a wnaed gan yr awdurdod lleol mewn perthynas â’r meysydd i’w gwella a nodwyd gennym yn ystod ein Harolygiad Gwerthuso Perfformiad ym mis Medi 2020.

Crynodeb o'r canfyddiadau

Pobl – Canfuom fod yr awdurdod lleol wedi gweithio’n galed i ail-lunio ac ailgynllunio ei wasanaeth gan ganolbwyntio ar wella’r ddarpariaeth o wasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar.

Atal - Yn y gwasanaethau plant, er bod proses ar waith mewn perthynas â throsglwyddo plant rhwng timau a gwasanaethau, canfuom enghreifftiau lle'r oedd y cymorth i rai teuluoedd yn rhy dameidiog. Mae angen gwneud rhagor o waith i sicrhau gwasanaethau di-dor a chydgysylltiedig sy'n atal anghenion rhag gwaethygu ac sy'n sicrhau'r canlyniadau gorau i blant a theuluoedd.

Llesiant – Gwelsom enghreifftiau da o asesiadau galluedd meddyliol a dulliau gwneud penderfyniadau ar waith er budd pennaf cleifion yn unol ag egwyddorion Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a chod ymarfer cysylltiedig.

Partneriaeth - Clywsom am waith partneriaeth effeithiol gyda gweithwyr iechyd proffesiynol mewn perthynas â rhyddhau cleifion o'r ysbyty. Roedd hyn yn cynnwys cyfarfodydd ward rhithwir. Nododd un ymarferydd ei fod yn teimlo bod 'dull gweithredu gyda'n gilydd’ ar waith er gwaethaf yr heriau sy'n gysylltiedig â rhyddhau o'r ysbyty.

Y camau nesaf

Byddwn yn parhau i fonitro cynnydd drwy ein gweithgareddau monitro ac adolygu perfformiad parhaus gyda'r awdurdod lleol.