Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

LLlythyr parthed gweithgarwch monitro yn awdurdod lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Mae'r llythyr hwn yn crynhoi canfyddiadau ein gweithgarwch monitro rhwng 15 ac 19 Tachwedd 2021.

Bu inni fonitro gwasanaethau cymdeithasol plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i fynd ar drywydd canfyddiadau ein harolygiad ym mis Hydref 2020, a ganfu bod gwasanaethau yn parhau i fod yn annigonol gyda dangosyddion cynnar o welliant.  Mae hynny'n golygu bod gwasanaethau yn methu'n gyson i fodloni dyletswyddau statudol, ond nad oedd y plant heb gymorth ac nad oeddent mewn perygl uniongyrchol o niwed na chamdriniaeth.

Mae cyhoeddiad heddiw yn rhan o'n gwaith parhaus o fonitro Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac mae'n dilyn ymlaen o'n hadolygiad ym mis Ebrill 2021.

O'r dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr ymweliad monitro diweddaraf ym mis Tachwedd 2021, daethom i'r casgliad bod gwasanaethau cymdeithasol plant Wrecsam yn parhau i wneud gwelliannau.

Canfyddiadau

  • Roedd cyfarfodydd pyrth cyfreithiol a adolygwyd yn gadarnhaol, wedi'u rheoli'n dda ac yn rhoi cyngor a chanllawiau priodol i ymarferwyr.
  • Mae'r bwrdd gwella carlam yn gweithio mewn ffordd effeithiol i ysgogi gwelliannau ledled y gwasanaethau plant.
  • Roedd uwch-arweinwyr yn gallu arddangos dealltwriaeth well o'r pwysau a wynebir gan ymarferwyr gofal cymdeithasol y rheng flaen a'r arweinyddiaeth a'r rheolaeth sydd eu hangen i sicrhau bod gwasanaethau'n gweithredu i safon uchel.
  • Mae atgyfeiriadau amddiffyn plant yn sbarduno mecanweithiau diogelu mewn modd priodol ac yn cefnogi dulliau rhannu gwybodaeth berthnasol rhwng yr heddlu, maes addysg a gwasanaethau plant.

Blaenoriaethau ar gyfer gwelliant

  • Mae'n rhaid i weithwyr cymdeithasol ymgymryd ag ymweliadau â phlant o fewn amserlenni statudol. Mae'n rhaid i reolwyr fynd i'r afael ag unrhyw gamgymeriadau mewn dyletswyddau statudol mewn amser real er mwyn sicrhau y caiff risgiau eu rheoli a bod plant yn elwa ar eu goruchwyliaeth a chymorth proffesiynol.
  • Mae'n rhaid i lymder ac effaith goruchwyliaeth gan reolwyr fod yn ddigonol i sicrhau nad yw plant yn cael eu colli a bod ymyrraeth yr awdurdod lleol mewn bywyd teuluol wedi’i hymwreiddio mewn arferion da.  Mae'n rhaid i weithwyr cymdeithasol a rheolwyr weithio'n agored gyda theuluoedd fel partneriaid. Mae'n rhaid datblygu cynllun i bob plentyn ac amddiffyn plant rhag niwed rhagweledig.
  • Mae'n rhaid i reolwyr sicrhau bod pryderon cynyddol am esgeulustod plant a cham-drin domestig, y gwelir tystiolaeth ohonynt trwy atgyfeiriadau ailadroddus, yn cael eu cydnabod bob amser ac yn arwain at gynigion o gymorth ac ymyriadau effeithiol i atal niwed ac esgeulustod hirdymor.

Y camau nesaf

Rydym wedi tynnu sylw'r awdurdod lleol at ein canfyddiadau. Byddwn yn monitro cynnydd drwy weithgarwch gwerthuso perfformiad parhaus. Ein bwriad yw ymgymryd ag arolygiad dilynol pellach yn 2022.

I weld ein canfyddiadau a'n hargymhellion, darllenwch y llythyr llawn isod.