Adolygiad ar y cyd gan Arolygiaethau o Drefniadau Amddiffyn Plant (JICPA) Casnewydd, Rhagfyr 2019
Ein canfyddiadau am effeithiolrwydd gweithio mewn partneriaeth a gwaith asiantaethau unigol yng Nghasnewydd.
Ar y cyd ag Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub eu Mawrhydi HMICFRS), Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru(AGIC), Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi (HMIP) ac Estyn cynhaliwyd cyd-arolygiad o'r ymateb amlasiantaethol i gamdriniaeth ac esgeulustod yng Nghasnewydd rhwng 2 a 6 Rhagfyr 2019. Hwn oedd yr arolygiad peilot cyntaf yng Nghymru i gynnwys pum arolygiaeth yn adolygu trefniadau amddiffyn plant.
Roedd yr arolygiad hwn yn cynnwys gwerthusiad o'r modd yr oedd gwasanaethau lleol yn ymateb i achosion o gamfanteisio ar blant. Noder: gohiriwyd cyhoeddiad eleni oherwydd effaith pandemig COVID-19.
Cryfderau Allweddol
Gwelsom fod y staff a'r gweithwyr proffesiynol yn dangos dealltwriaeth dda o natur y gwaith mewn perthynas â phlant a theuluoedd sy'n wynebu risg neu gamfanteisio.
Nododd yr arolygwyr fod yr heddlu a'r awdurdod lleol, Cyngor Dinas Casnewydd, wedi cydweithio i gydleoli personél yn yr hwb diogelu, sy'n hwyluso'r gwaith o wneud penderfyniadau gwell a mwy amserol.
Gwelsom fod yr heddlu wedi buddsoddi'n sylweddol i wneud yn siŵr bod y tîm sy'n gyfrifol am ymchwilio i gam-drin plant wedi'i staffio'n llawn. Mae swyddogion, a'u goruchwylwyr, wedi cael hyfforddiant ymchwilio i gam-drin plant arbenigol.
Roedd cydweithio effeithiol rhwng arweinwyr ysgolion drwy grwpiau sefydledig megis y grŵp ‘symudiadau wedi'u rheoli’, ac yn fwy diweddar, cynnwys arweinwyr amlasiantaeth y grŵp ‘Partneriaid Gwahardd a Chamfanteisio Ysgolion’ a'r grŵp ‘Troseddau Cyfundrefnol Difrifol’
Mae gan y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid wybodaeth dda am y gwasanaeth y mae'n ei ddarparu ac mae'r rheolwr gwybodaeth yn rhoi gwybodaeth i'r bwrdd a rheolwyr timau er mwyn helpu i gynllunio'r gwasanaeth a ddarperir.
Meysydd i'w datblygu
- Mae angen gwneud mwy o waith er mwyn sicrhau bod pob asiantaeth yn cael ei chynrychioli yn yr hwb diogelu.
- Mae angen i'r heddlu wneud mwy i gadarnhau bod penderfyniadau sy'n cael eu gwneud am blant yn unol â'u disgwyliadau.
- Mae dull gweithredu amlasiantaeth Casnewydd o gefnogi a diogelu disgyblion sy'n agored i niwed sy'n cael eu haddysg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn rhy adweithiol – mae angen defnyddio dull cyson o ran y cymorth sydd ar gael i ddisgyblion darpariaeth cyfrwng Cymraeg a Saesneg.
- Mae rôl y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn gweithio yn unol â'r Protocol ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal. Mae angen adolygu'r protocol hwn a'r rôl hon er mwyn sicrhau dull cyson o gofnodi achosion.
Y camau nesaf
Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol baratoi datganiad ysgrifenedig o gamau gweithredu arfaethedig yn ymateb i'r canfyddiadau a nodir yn yr arolygiad hwn. Dylai hyn fod yn ymateb amlasiantaeth yn cynnwys y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Ymddiriedolaeth Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Heddlu Gwent.
Darllenwch y llythyr llawn isod i weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion.