Adroddiad ar Arolygiad Gwerthuso Perfformiad: Gwasanaethau oedolion Cyngor Dinas Casnewydd
Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau ein harolygiad o wasanaethau oedolion Cyngor Dinas Casnewydd a gynhaliwyd rhwng 3 Chwefror a 7 Chwefror 2025.
Cynhaliwyd yr arolygiad hwn i adolygu perfformiad yr awdurdod lleol wrth gyflawni ei ddyletswyddau a'i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn unol â'r ddeddfwriaeth, ar ran Gweinidogion Cymru.
Canolbwyntiodd yr arolygiad hwn ar effeithiolrwydd gwasanaethau a threfniadau'r awdurdod lleol i helpu pobl a'u hamddiffyn.
I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch yr adroddiad llawn isod.