Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Llythyr gwiriad sicrwydd: Tîm Oedolion yn y Gymuned ym Mlaenau Gwent gyda ffocws ar oedolion ag anabledd dysgu

Gwnaethom adolygu'r tîm oedolion yn y gymuned sy'n gweithio gydag oedolion ag anableddau dysgu ym Mlaenau Gwent.

Gwnaethom gynnal ein gwiriad sicrwydd rhwng 26 a 28 Mawrth 2024.

Tîm oedolion yn y gymuned yw hwn, lle mae'r staff yn cefnogi oedolion dros 18 oed sy'n agored i niwed. Canolbwyntiodd y gwiriad sicrwydd hwn ar oedolion ag anabledd dysgu, ac adolygwyd perfformiad tîm Blaenau Gwent wrth gyflawni ei ddyletswyddau a'i swyddogaethau yn unol â deddfwriaeth ar gyfer y grŵp hwn o oedolion a'u gofalwyr. 

I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch yr adroddiad llawn isod.