Llyfr stori ar y cyd i helpu plant i ddeall arolygu
Anfonwyd y llyfr i bob lleoliad gofal plant a chwarae nas cynhelir yng Nghymru mewn Medi 2022.
Wedi'i chyhoeddi'r wythnos hon, mae'r stori fer wedi'i chreu i esbonio beth sy'n digwydd pan fydd gwasanaeth gofal plant yn cael ei arolygu.
Darllenwyd y llyfr “Ein Meithrin Ni” (Our Nursery) yn uchel i blant Ysgol Feithrin Pont-y-pŵl gan brif arolygwyr Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru ar fore Iau, 29 Medi 2022.
Wedi’i hysgrifennu gan y nofelydd Cymraeg, Manon Steffan Ros, a’i ddarlunio gan Paul Nicholls, mae’r llyfr yn tawelu meddyliau'r plant fod yr ymweliad yn ddiwrnod arferol a bod yr arolygwyr yn gyfeillgar ac yn edrych ymlaen at siarad â nhw.
Cynhaliwyd y lansiad yn Ysgol Feithrin Pont-y-pŵl oherwydd canfuwyd bod y lleoliad yn enghraifft o arfer effeithiol yn y ffordd yr oedd yn rhoi chwarae yn yr awyr agored wrth galon y dysgu, yn ystod ei arolygiad diwethaf ym mis Mawrth.
Ynghyd â Estyn, rydym yn arolygu rhai gwasanaethau gofal plant a chwarae yng Nghymru ar y cyd, i leihau’r baich ar ddarparwyr yn ystod arolygiad. Mae hyn er mwyn cynorthwyo ymarferwyr a phlant drwy'r broses arolygu, yn ogystal â rhannu'r arferion gorau.
Dywedodd ein Prif Arolygydd Gillian Baranski:
Gellir defnyddio’r stori hyfryd, syml hon yn ystod amser cylch i ddangos i’r plant beth mae ein harolygwyr ni’n ei wneud pan fyddan nhw’n ymweld, a hefyd i annog y plant i rannu â’n harolygwyr yr hyn y maen nhw’n falch ohono. Mae gweithio gyda’n cydweithwyr yn Estyn i helpu’r dysgwyr ieuengaf oll i ddweud eu dweud am eu gofal a’u haddysg, yn un o fuddion niferus ein rhaglen arolygu ar y cyd.
Dywedodd Prif Arolygydd Estyn, Owen Evans:
Rydym ni’n falch iawn o fod wedi gweithio gydag Arolygiaeth Gofal Cymru i gyhoeddi’r llyfr stori hyfryd hwn. Mae’n adlewyrchu ein hymrwymiad, ochr yn ochr ag AGC i sicrhau ein bod yn gweithredu’n gynhwysol, yn dryloyw ac yn gyfeillgar. Rydym ni’n ymdrechu i sicrhau bod dysgwyr wrth galon ein harolygiadau, ac mae’n glir i ni nad yw hi'n byth yn rhy gynnar i gynnwys plant yn y broses arolygu. Bydd y llyfr hwn yn adnodd gwych i hybu ymwybyddiaeth o’r broses arolygu, a sbarduno sgyrsiau amdani.
Mae copi digidol o’r llyfr stori i’w weld isod.