Er mwyn cydnabod yr effaith y mae'r pandemig yn parhau i'w chael ar y sector, rydym wedi cytuno â Llywodraeth Cymru i ohirio'r gofyniad i gyflwyno Datganiadau Blynyddol am flwyddyn ychwanegol tan fis Mai 2022.
Felly, ni fydd yn ofynnol i ddarparwyr gyflwyno datganiadau blynyddol ym mis Mai 2021.
Mae Deddf 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau gyflwyno Datganiad Blynyddol ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol y mae'r darparwr wedi'i gofrestru ynddi.
Cyflwyno
Rhaid i ddarparwyr gwasanaethau sy'n gweithredu unrhyw un o'r canlynol gyflwyno Datganiadau Blynyddol erbyn hanner nos, 26 Mai:
- Gwasanaethau Cartrefi Gofal
- Gwasanaethau Cymorth Cartref
- Gwasanaethau Llety Diogel
- Gwasanaethau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd
- Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig
- Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig
- Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig
- Gwasanaethau Lleoli Oedolion
Mae'r wybodaeth a gaiff ei chynnwys yn y datganiadau blynyddol wedi'i nodi yn Neddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017.
Paratoi
Bydd modd defnyddio'r system Datganiadau Blynyddol drwy eich cyfrif AGC Ar-lein. Caiff y system ei datblygu fel y bydd modd i unrhyw un sydd â'r mynediad angenrheidiol, gan gynnwys cynorthwywyr ar-lein, gwblhau'r wybodaeth sy'n ofynnol yn y Datganiadau Blynyddol. Gwnewch yn siŵr bod eich gweinyddwr AGC Ar-lein wedi rhoi'r caniatadau angenrheidiol i'r unigolion allweddol yn eich sefydliad i gwblhau'r Datganiadau Blynyddol.
Dim ond Unigolyn Cyfrifol y gwasanaeth y cafodd ei ddynodi ar ei gyfer a fydd yn gallu cwblhau'r datganiad o wirionedd sydd wedi'i gynnwys yn y Datganiadau Blynyddol ar gyfer y gwasanaeth hwnnw. Bydd angen i'r darparwr gwasanaeth hefyd gwblhau datganiad o wirionedd a gall unrhyw Unigolyn Cyfrifol gyflwyno Datganiadau Blynyddol cyflawn y darparwr gwasanaeth. Gwnewch yn siŵr y gall pob Unigolyn Cyfrifol dynodedig gael gafael ar eu cyfrifon AGC Ar-lein a'u bod wedi newid statws eu cyfrif i statws Unigolyn Cyfrifol.
Er mwyn sicrhau y caiff eich Datganiadau Blynyddol eu cyflwyno mewn pryd, mewngofnodwch i'ch cyfrif AGC Ar-lein cyn 1 Ebrill er mwyn gwneud yn siŵr bod manylion eich gwasanaeth yn gywir ac yn gyfredol.
Datganiad Cydymffurfio
Bydd gofyn i'r Unigolyn Cyfrifol ddarparu datganiad cydymffurfio ar gyfer y gwasanaeth y mae wedi'i ddynodi ar ei gyfer o fewn y Datganiadau Blynyddol. Dylai amlinellu sut y mae'r gwasanaeth yn cyrraedd y safonau gofal a chymorth a nodir yn y rheoliadau.
Bydd gofyn i'r Unigolyn Cyfrifol baratoi'r datganiad cydymffurfio hwn. Wrth lunio'r datganiad, rhaid i'r Unigolyn Cyfrifol ystyried canlyniad yr adolygiad diweddaraf o ansawdd y gofal.
Dyluniwyd ein templed ar gyfer adroddiadau ar adolygiadau o ansawdd y gofal er mwyn rhoi cymorth i'r Unigolyn Cyfrifol gwblhau ei ddatganiad cydymffurfio, i'w gynnwys yn y Datganiad Blynyddol.