Datganiad Hunanasesu’r Gwasanaeth (SASS)
Gwybodaeth am gwblhau eich SASS.
Os ydych yn rhedeg gwasanaeth gofal plant a chwarae, mae'n ofynnol i chi gwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth gan ddefnyddio AGC Ar-lein (Dolen allanol) erbyn 15 Mawrth 2024.
Beth yw Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth?
Ffurflen ar-lein yw'r Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth y mae'n ofynnol i Bersonau Cofrestredig ac Unigolion Cyfrifol ei chwblhau. Mae'n ofyniad cyfreithiol i bob gwarchodwr plant a darparwr gofal plant a chwarae a wnaeth gofrestru â ni cyn 31 Rhagfyr 2023.
Ni fydd angen i ddarparwyr a wnaeth gofrestru â ni ar ôl 31 Rhagfyr 2023 gwblhau’r Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth eleni.
Mae'r wybodaeth y mae darparwyr yn ei rhoi i ni wrth gyflwyno eu Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth yn ein helpu i gynllunio ein harolygiadau ac i roi'r help a'r cymorth cywir i'r rhai sydd ei angen fwyaf.
Bydd y data o bob cwr o Gymru yn cael eu casglu a'u cadw'n ddienw ac yn cael eu cyhoeddi'n ddiweddarach yn 2024. Gallwch weld data'r llynedd yma.
Gwybodaeth bwysig i bob darparwr gofal plant a chwarae
Os ydych yn rhedeg gwasanaeth gofal plant a chwarae, bydd y Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth yn agor ar 31 Ionawr 2024 ac yn cau ar 15 Mawrth 2024.
Os na fyddwch yn cwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth erbyn y dyddiad hwn, bydd yn effeithio ar eich graddau yn y dyfodol.
Bydd angen cyfrif AGC Ar-lein arnoch i gwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth. Os nad oes gennych gyfrif AGC Ar-lein, bydd angen i chi weithredu ar unwaith.
- ewch i AGC Ar-lein (Dolen allanol)
- neu ffoniwch ni ar 0300 7900 126 a dewiswch opsiwn 4
Rydym wedi llunio fideo ‘sut i’ a llyfryn canllaw i esbonio sut i gwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth: Awgrymiadau defnyddiol i'ch helpu i gwblhau Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS).