Cwympo mewn cartrefi gofal
Gwybodaeth ynglŷn â beth i'w wneud os yw'r person rydych yn gofalu amdano'n baglu neu'n cwympo.
Er mwyn osgoi cwympiadau mae'n bwysig datrys beth achosodd y cwymp a datrys y broblem. Mae nifer o offerynnau ar gael i bobl sy'n gofalu am oedolion i'w helpu i asesu eu risg o gwympo.
Dylid cynnig asesiadau i bobl sy'n derbyn gofal ynghyd ag adolygiadau o feddyginiaeth ac asesiadau risg neu berygl lle maent yn byw.
Adnoddau
Mae'r dolenni isod ar gyfer pobl sy'n gweithio mewn cartrefi gofal neu’n darparu gwasanaeth gofal yng nghartref rhywun. Maent yn rhoi cyngor ar beth i'w wneud os yw'r person maent yn gofalu amdano'n baglu neu'n cwympo, ac maent hefyd yn gallu helpu i atal cwympiadau.
- Cwympiadau: asesu ac atal cwympiadau ymhlith pobl hŷn - Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (Dolen allanol, Saesneg yn unig)
- Adnoddau ymwybyddiaeth o gwympiadau - Age UK (Dolen allanol, Saesneg yn unig)
- Canllawiau ar atal cwympiadau - Age UK (Dolen allanol, Saesneg yn unig)
Arweiniad a gwybodaeth ychwanegol
Mae mwy o gyngor a gwybodaeth (gan gynnwys offerynnau asesu a llwybrau) ar gael gan eich Bwrdd Iechyd Lleol ac Adran Gwasanaethau Cymdeithasol eich Awdurdod Lleol.