Gwybodaeth a chanllawiau ynglŷn â sut rydym yn arolygu gwasanaethau plant.
Dylid darllen cyfeiriadau at 'Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru' (AGGCC) yn y dogfennau ar y dudalen hon fel 'Arolygiaeth Gofal Cymru'.
Yr hyn rydym yn ei archwilio ac adrodd amdano
Pan fydd ein harolygwyr yn ymweld â gwasanaeth gofal, byddant yn ystyried pedair thema graidd:
- Lles
- Gofal a chymorth
- Yr amgylchedd
- Arweinyddiaeth a rheolaeth
Pa mor aml rydym yn arolygu
Rydym yn arolygu cartrefi plant bob blwyddyn fel rhan o'n rhaglen dreigl ni.
Mae gennym ddau fath o arolygiad: llawn ac â phwyslais penodol.
Arolygiadau llawn
Mae'r rhain yn arolygiadau rheolaidd, wedi eu trefnu fel rhan o'n hamserlen arolygu ni. Mae arolygiadau llawn yn cael eu cynnal tua chwe mis ar ôl i wasanaeth sydd newydd gael ei gofrestru ddechrau gweithredu. Ar ôl hynny, rydym yn arolygu unwaith y flwyddyn.
Arolygiadau â phwyslais penodol
Fel arfer, mae'r rhain yn cael eu cynnal pan fydd pryderon yn cael eu cynnal neu i wneud gwaith dilynol ynglŷn â meysydd i'w gwella a nodwyd mewn arolygiadau blaenorol. Mae'n bosibl y bydd yr arolygiadau hyn yn ystyried rhai agweddau ar y gwasanaeth yn unig.
Mae ein holl arolygiadau yn ddirybudd, er y gallem mewn amgylchiadau eithriadol ffonio diwrnod neu ddau ymlaen llaw i leihau unrhyw amhariad neu ofid ac i wirio pa ddyddiau ac amserau fyddai orau i ni ymweld.
Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth
Mae rhagor o wybodaeth am gwblhau eich SASS ar gael ar ein tudalen 'Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth'.
Cymorth i ddarparwyr
Dylai darparwyr ddarllen ein cod ymarfer. Mae'n amlinellu sut rydym yn arolygu gwasanaethau sydd wedi'u cofrestru o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Dolen allanol).
Rydym hefyd wedi cynhyrchu llawlyfr arolygu ar gyfer gwasanaethau cartrefi i oedolion a phlant a fframweithiau o'r hyn y byddwn yn arolygu yn ei erbyn.
- File size:2 MB
- File size:847 KB
- File size:2 MB
- File size:1 MB
- File size:1 MB
- File size:1 MB