Cod Ymarfer ar gyfer Arolygu Gwasanaethau Rheoleiddiedig i Oedolion a Phlant
Ein dull gweithredu mewn perthynas ag arolygu'r gwasanaethau hynny a gaiff eu rheoleiddio o dan Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) Deddf 2016
Efallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch
1. Cyflwyniad
Amdanom ni
- Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant. Rydym yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er llesiant pobl Cymru.
1.2 Ein nod yw:
- rhoi sicrwydd annibynnol ynghylch ansawdd gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac ymhle a phryd mae ar gael;
- diogelu oedolion a phlant, gan sicrhau bod eu hawliau'n cael eu hamddiffyn;
- gwella gofal drwy annog a hybu gwelliannau o ran diogelwch ac ansawdd gwasanaethau gofal cymdeithasol;
- cyfrannu at bolisi a safonau, a darparu cyngor proffesiynol annibynnol i'r bobl sy'n datblygu polisi, y cyhoedd a'r sector gofal cymdeithasol.
1.3 Rydym yn cyflawni hyn drwy wneud y canlynol:
- cyflawni swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru;
- penderfynu pwy sy'n gallu darparu gwasanaethau;
- arolygu a llywio gwelliannau mewn gwasanaethau rheoleiddiedig a gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol;
- cynnal adolygiadau thematig o wasanaethau gofal cymdeithasol;
- cymryd camau i sicrhau bod gwasanaethau'n bodloni gofynion deddfwriaethol a rheoliadol;
- gwneud gwaith dilynol ar bryderon a godir ynghylch gwasanaethau rheoleiddiedig.
1.4 Rydym yn cyflawni ein swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru o dan y ddeddfwriaeth ganlynol:
- Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Deddf 2016) (Dolen allanol). Mewnosododd Deddf 2016 ddarpariaethau yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Deddf 2014), sy'n ymdrin â'r broses o reoleiddio awdurdodau lleol wrth iddynt arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal a phlant sy'n cael eu lletya. Mae hefyd yn cynnwys Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024 (Dolen allanol).
- Mae Deddf 2016 yn gosod ansawdd gwasanaethau ac ymdrechion i wella gwasanaethau wrth wraidd trefniadau rheoleiddio, gan atgyfnerthu prosesau amddiffyn ar gyfer y rhai hynny sydd eu hangen, ac yn sicrhau bod gwasanaethau yn darparu gofal a chymorth o ansawdd uchel. Mae hyn yn cefnogi nodau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Dolen allanol) sy'n ymgorffori hawliau pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru yn y gyfraith.
Mae deddfwriaeth ychwanegol yn cynnwys:
- Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Deddf 2003) (Dolen allanol) sy'n rhoi pwerau i adolygu'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol;
- Deddf Safonau Gofal 2000 (Deddf 2000) (Dolen allanol);
- Deddf Plant 1989 (fel y'i diwygiwyd)(Dolen allanol);
- Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Dolen allanol);
- Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Dolen allanol) sy'n rhoi pwerau i gofrestru ac arolygu darparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru;
- Rheoliadau Arolygu Ysgolion a Cholegau Preswyl (Pwerau a Ffioedd) (Cymru) 2002 (Dolen allanol).
1.5 Ein prif nod yw sicrhau y caiff pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gymorth i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl ac na chânt eu rhoi mewn perygl neu na fyddant yn cael niwed. Er mwyn cyflawni hyn:
- mae gennym broses gofrestru gadarn, er mwyn sicrhau mai dim ond darparwyr gwasanaethau sydd wedi rhoi sicrwydd i ni y byddant yn cydymffurfio â'r rheoliadau a gaiff eu cofrestru gennym;
- rydym yn cynnal arolygiadau;
- mae gennym lwybr clir, blaengar a chymesur ar gyfer sicrhau gwelliant a gorfodi.
2. Y Cod Ymarfer
Diben y Cod Ymarfer
2.1 Mae'r Cod Ymarfer hwn (y Cod) yn ofynnol o dan Adran 33 o Ddeddf 2016. Mae'n disgrifio ein dull gweithredu mewn perthynas ag arolygu'r gwasanaethau hynny a gaiff eu rheoleiddio o dan Ddeddf 2016, gan gynnwys pa mor aml yr arolygir y gwasanaethau hyn. Mae hefyd yn nodi'r egwyddorion sy'n sail i'n gwaith arolygu. Mae'n ofynnol i arolygwyr ystyried y canllawiau yn y Cod a gallu egluro sut maent wedi eu hystyried wrth gynnal arolygiad.
2.2 Mae'r Cod yn rhoi gwybodaeth i bawb am y ffordd y caiff gwasanaethau gofal a chymorth eu harolygu yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys pobl sy'n defnyddio gwasanaethau, eu teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr, yn ogystal â darparwyr gwasanaethau gofal a chymorth, comisiynwyr y gwasanaethau hynny ac aelodau o'r cyhoedd.
Pa wasanaethau y mae'r Cod yn berthnasol iddynt?
Mae'r Cod Ymarfer yn berthnasol i'r gwasanaethau a reoleiddir gennym fel y'u nodir yn 1.4, sef:
- cartrefi gofal (oedolion/plant)
- llety diogel
- canolfannau preswyl i deuluoedd
- cymorth cartref
- mabwysiadu*
- maethu*
- lleoli oedolion
- eiriolaeth
- gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig
Mae AGC hefyd yn arolygu ysgolion preswyl (sy'n gweithredu am 295 o ddiwrnodau neu lai) a Cholegau Addysg Bellach (i fyfyrwyr dan 18 oed yn unig). Nid oes gan AGC bwerau gorfodi dros y gwasanaethau hyn.
*Caiff gwasanaethau maethu a mabwysiadu awdurdodau lleol eu harolygu o dan ein pwerau o dan adran 149B(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 er mwyn adolygu sut y caiff swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdodau lleol eu harfer, ac adran 161 o'r un Ddeddf sy'n caniatáu i AGC arolygu awdurdodau lleol lle bo hynny'n angenrheidiol neu'n fuddiol at ddibenion yr adolygiad.
3. Dull arolygu sy'n seiliedig ar hawliau
3.1 Rydym yn sicrhau bod parch, amrywiaeth, hyrwyddo cydraddoldeb a chynnal hawliau pobl yn rhan annatod o'n gwaith. Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 (Dolen allanol), Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dolen allanol), Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) (Dolen allanol), Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (Dolen allanol), Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn a Fframwaith Gweithredu ar gyfer Byw'n Annibynnol Llywodraeth Cymru yn cael eu hadlewyrchu yn ein fframweithiau arolygu. Rydym yn ystyried sut mae darparwyr gwasanaethau yn hyrwyddo hawliau pobl drwy ystyried sut mae gwasanaethau'n sicrhau'r canlynol:
- bod pobl yn cael dewis a rheolaeth;
- bod pobl yn ddiogel;
- bod pobl yn cael eu trin â pharch;
- bod gan bobl lais;
- bod pobl yn cael cymorth i ddatblygu i'w llawn botensial.
3.2 Rhoddir rhagor o wybodaeth am ein hymrwymiad i hybu a chynnal hawliau pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth yn ein dogfen ganllaw Hawliau Dynol (Dolen allanol).
3.3 Rydym yn cadw'r holl fframweithiau statudol perthnasol a Gweithdrefnau Diogelu Cymru mewn cof wrth ystyried a yw'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn ddiogel. Yn ystod y broses arolygu, os byddwn yn gweld arferion gofal sy'n golygu nad yw'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn ddiogel neu'n cael eu hamddiffyn rhag niwed, byddwn yn cymryd camau gorfodi yn ogystal â gwneud atgyfeiriad diogelu at yr awdurdod lleol. Byddwn yn sicrhau bod mesurau yn cael eu rhoi ar waith i ddiogelu'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth.
3.4 Pan na fydd gan y bobl ddigon o alluedd, byddwn yn ystyried i ba raddau y mae darparwyr gwasanaethau yn cadw at egwyddorion Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Dolen allanol) a'r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) (Dolen allanol).
3.5 Mae Safonau'r Gymraeg (Dolen allanol) yn ein cefnogi ymhellach i roi dull seiliedig ar hawliau ar waith. Rydym yn defnyddio egwyddorion y Safonau yn ystod ein harolygiadau. Mae hyn yn ein helpu i sicrhau bod gan bobl hawl i gael gwasanaeth yn Gymraeg, os byddant yn dymuno gwneud hynny. Mae'r Safonau yn helpu pobl sy'n siarad Cymraeg i gael gwasanaethau wedi'u darparu yn Gymraeg, pan fydd eu hangen arnynt, heb iddynt orfod gofyn amdanynt. Mae'r Safonau wedi'u cefnogi gan Mwy na Geiriau. (Dolen allanol).
Gallai rhai enghreifftiau gynnwys y canlynol:
- Cydnabod pwysigrwydd hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru a chymryd camau i wneud hynny
- staff sy'n siarad Cymraeg yn cefnogi pobl sy'n siarad Cymraeg;
- arwyddion Cymraeg i helpu i ddangos y ffordd i siaradwyr Cymraeg; neu
- gwybodaeth am y gwasanaeth a ddarperir yn Gymraeg i'r rhai sy'n dymuno ei chael.
Ochr yn ochr ag adolygu'r ffordd y mae gwasanaethau yn rhoi Safonau'r Gymraeg ar waith, mae gennym gynnig rhagweithiol, sy'n cynnwys darparu arolygwyr sy'n siarad Cymraeg i wasanaethau lle mai'r Gymraeg yw'r brif iaith o ddewis.
4. Y broses arolygu
Pam ein bod yn arolygu
4.1 Mae arolygu yn un o weithgareddau craidd AGC ac mae'n helpu i sicrhau bod pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth yn ddiogel, bod eu llesiant yn cael ei hyrwyddo, a bod eu hawliau'n cael eu cynnal. Drwy hyn, rydym yn ysgogi gwelliant parhaus yn y sector gofal cymdeithasol ac yn cadarnhau bod darparwyr gwasanaethau yn cyflawni eu dyletswyddau statudol.
Yr egwyddorion sy'n llywio ein gwaith
4.2 Caiff ein gwaith ei lywio gan yr egwyddorion canlynol:
- rhoi pobl yn gyntaf: mae llais a llesiant pobl wrth wraidd ein gwaith, a ategir gan ddull seiliedig ar hawliau
- gweithredu ar sail gwybodaeth: caiff ein gwaith ei lywio gan ddata a gwybodaeth
- bod yn ymatebol ac yn seiliedig ar risg: rydym yn gweithio mewn ffordd amserol a chymesur wedi'i chynllunio ac yn seiliedig ar risg
- cydweithio: rydym yn gwrando, yn rhannu gwybodaeth ac yn cydweithio
- cefnogi gwelliannau ac arloesi: rydym yn defnyddio ein gwybodaeth a'n pwerau i gefnogi gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant i wella ac annog ffyrdd newydd o weithio
- myfyrio a dysgu: rydym yn neilltuo amser i fyfyrio ar bob agwedd ar ein gwaith a dysgu ohoni, ac i addasu ein dull gweithredu lle bo angen
Sut rydym yn arolygu
4.3 Mae arolygiadau yn cynnwys pedwar cam allweddol, gan gynnwys:
- cynllunio/paratoi'r arolygiad
- yr ymweliad arolygu
- adborth
- cyflwyno adroddiadau
4.4 Rydym yn cadw llawer o wybodaeth am wasanaethau drwy ein prosesau cofrestru ac arolygu, yn ogystal â chael gwybodaeth o ffynonellau eraill. Mae hyn yn ein helpu i benderfynu pa fath o arolygiad sydd ei angen ar gyfer gwasanaeth penodol a pha mor aml y dylid ei arolygu. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i gynllunio a llywio'r hyn rydym am ganolbwyntio arno pan fyddwn yn ymweld â'r gwasanaeth ac unrhyw fesurau penodol y mae angen i ni eu hystyried wrth ymgysylltu â'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth neu'r staff. Er enghraifft, pan fydd gan unigolion anghenion cyfathrebu, gall yr arolygydd ystyried sut y bydd yn ymgysylltu â'r bobl.
4.5 Yn ystod ymweliad arolygu, bydd arolygwyr yn chwilio am dri math bras o dystiolaeth.
- Yr hyn a ddywedir – mae arolygwyr yn ymgysylltu â'r bobl sy'n defnyddio gwasanaethau ac yn gwrando arnynt, ynghyd â'u perthnasau, eu ffrindiau a'u gofalwyr, ac yn trafod eu profiad gofal â nhw. Rydym hefyd yn siarad â darparwyr, gweithwyr proffesiynol perthnasol a staff sy'n gweithio yn y gwasanaeth. Lle na fydd y bobl yn gallu cyfathrebu'n uniongyrchol â ni, mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio adnodd arolygu arbenigol (SOFI), lle y bo'n briodol gwneud hynny, i arsylwi ar y ffordd y caiff unigolion eu cefnogi ac i ddod i gasgliadau.
- Yr hyn a welir – mae arolygwyr yn arsylwi ar y rhyngweithio rhwng y bobl sy'n rhoi gofal a chymorth a'r bobl sy'n derbyn gofal a chymorth yn ystod yr ymweliad. Rydym hefyd yn arsylwi ar yr amgylchedd ffisegol y darperir gofal a chymorth ynddo ac yn asesu i ba raddau y mae'n ddiogel ac yn addas at y diben a fwriadwyd.
- Yr hyn a ddarllenir – mae arolygwyr yn edrych ar gofnodion ysgrifenedig, dogfennau polisi a deunyddiau eraill, gan geisio cadarnhau eu bod yn gynhwysfawr ac yn gyfredol, a'u bod yn dangos bod prosesau addas yn cael eu rhoi ar waith.
4.6 Mae arolygwyr yn gwneud nodiadau yn ystod yr arolygiad, sy'n llywio ein hadroddiadau arolygu. Gallant hefyd ofyn am gopïau o ddogfennau, gofyn am i wybodaeth gael ei hanfon atynt neu fynd â chofnodion o'r lleoliad pan fo angen. Pan fyddwn yn mynd â chopïau gwreiddiol o gofnodion gofal unigol o'r lleoliad a bod angen y wybodaeth o hyd er mwyn rhoi gwybod i'r staff sut i gefnogi'r bobl, rhoddir copïau o'r wybodaeth i'r gwasanaeth er mwyn sicrhau parhad a diogelwch.
4.7 Os bydd yr ymweliad arolygu yn digwydd o ganlyniad i gamau gorfodi a bod angen i'r arolygydd gymryd meddiant o wybodaeth o dan Ddeddf 2016, byddwn yn rhoi gwybod i ddarparwr y gwasanaeth am hyn a beth mae'n ei olygu. Os bydd arolygydd yn cymryd meddiant o dystiolaeth ac yn mynd â hi o'r lleoliad, bydd yn gwneud hynny yn unol â Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (Dolen allanol) (PACE).
Sut y caiff gwybodaeth ei hystyried drwy gydol y broses arolygu
4.10 Mae'r canlynol yn dangos pa wybodaeth a ddefnyddir drwy gydol y broses arolygu a beth rydym yn ei wneud â'r wybodaeth honno.
Gwybodaeth a ddefnyddir gan AGC drwy gydol y broses arolygu.
- Gwybodaeth gan y darparwr gwasanaeth
- Gwybodaeth a gyflwynwyd trwy gofrestru
- Datganiad o ddiben
- Datganiadau blynyddol
- Adroddiad ansawdd gofal blynyddol
- Hysbysiadau sy’n rhoi gwybodaeth i AGC am y gwasanaeth, e e. derbyniadau i’r ysbyty, marwolaethau, camgymeriadau meddyginiaeth, cwympiadau, absenoldeb rheolwr, ac ati
- Gwybodaeth arall a gedwir gan AGC
- Adroddiadau cofrestru
- Adroddiadau arolygu blaenorol
- Gwybodaeth a gedwir gennym o dan ein proses orfodi
- Gwybodaeth sydd gennym am wasanaethau eraill sydd ar waith gan y darparwr
- Pryderon, hysbysiadau ac atgyfeiriadau diogelu
Gwybodaeth a ddarperir gan eraill
Pryderon neu wybodaeth gan y canlynol:
- Pobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth
- Perthnasau/ffrindiau pobl
- Aelodau o’r staff
- Gweithwyr proffesiynol
- Rheoleiddwyr eraill
- Aelodau o’r cyhoedd
Atgyfeiriadau diogelu gan yr awdurdod lleol.
Pan ddaw gwybodaeth i law sy’n ymwneud â materion sydd y tu hwnt i gwmpas swyddogaethau AGC, bydd yn cael ei hatgyfeirio at gorff mwy addas.
2. Paratoi a chynllunio arolygiad
Caiff gwybodaeth ei chasglu a’i hystyried er mwyn pennu pa fath o arolygiad i’w gynnal a pha mor aml y dylid ei gynnal ac er mwyn nodi’r themâu y canolbwyntir arnynt.
3. Ymweliad arolygu
- Cofnodi’r hyn a welsom, yr hyn a ddywedwyd wrthym, a’r hyn y gwnaethom ei ddarllen.
- Darparu adborth i’r darparwr gwasanaeth.
Diogelu
Os byddwn yn gweld neu’n cael ein hysbysu o bryderon diogelu yn ystod ein harolygiad, byddwn yn bwydo hyn yn ôl i’r darparwr cyn gynted â phosibl er mwyn iddo gymryd camau gweithredu. Efallai y bydd angen i ni atgyfeirio at asiantaethau eraill hefyd fel rhan o’n dyletswydd statudol i ddiogelu pobl.
Pan fydd gwendidau’n cael eu nodi, gallai hyn arwain at:
- Argymhellion ar gyfer gwella
- Cyflwyno hysbysiad o ddiffyg cydymffurfio
- Camau gorfodi eraill, fel hysbysiadau gwella a chosbi
Camau dilynol/arolygu.
Adroddiad arolygu
Bydd canfyddiadau’r arolygiad yn cael eu cyhoeddi.
Camau dilynol/arolygu.
Pryd y caiff gwasanaethau eu harolygu?
4.11 Mae ein pwerau yn caniatáu i ni arolygu gwasanaethau rheoleiddiedig ar unrhyw amser ac ar unrhyw ddiwrnod. Nodir amlder arolygiadau ar gyfer gwahanol fathau o wasanaethau yn adran 6.
4.12 Fel arfer, arolygiadau dirybudd fydd ein harolygiadau, ond ar gyfer rhai mathau o wasanaethau e.e. gwasanaethau cymorth cartref, gwasanaethau maethu, gwasanaethau mabwysiadu, ysgolion preswyl, ysgolion preswyl arbennig a gwasanaethau eirioli, mae'n bosibl y byddwn yn rhoi rhybudd byr i'r darparwr lle y bo'n briodol gwneud hynny. Mae hyn oherwydd bod safbwyntiau'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn rhan hanfodol o'n harolygiadau a bod angen i ni gynllunio ymweliadau ymlaen llaw ar gyfer y mathau hyn o wasanaethau.
Ffocws arolygiadau
4.13 Er mwyn deall profiadau pobl o ofal, mae ein harolygiadau yn canolbwyntio ar ansawdd a diogelwch gwasanaethau a'r canlyniadau i'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau. Felly, rydym yn ystyried y themâu canlynol yn ystod arolygiadau
Llesiant: llesiant unigolion sy'n derbyn gofal a chymorth.
- Mae arolygwyr yn gwerthuso i ba raddau y mae canlyniadau yn cael eu cyflawni.
Gofal a chymorth: ansawdd y gofal a'r cymorth y mae'r staff yn eu darparu.
- Mae arolygwyr yn gwerthuso i ba raddau y mae'r bobl yn derbyn gwasanaeth o ansawdd uchel sy'n adlewyrchu arfer gorau, sydd wedi'i ddarparu gan aelodau o staff sy'n meddu ar wybodaeth a sgiliau priodol ac sy'n helpu'r bobl i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl.
Yr amgylchedd: y lleoliad ffisegol lle y darperir y gofal a'r cymorth. Nid yw'r thema hon yn berthnasol i fathau o wasanaethau rheoleiddiedig nad ydynt yn darparu llety.
- Mae arolygwyr yn gwerthuso i ba raddau y caiff y canlyniadau i'r bobl eu cefnogi gan amgylchedd sy'n ddiogel, yn lân, yn hygyrch, yn gyfforddus, yn groesawgar, wedi'i gynnal a'i gadw'n dda, yn ysgogol ac yn cynnwys cyfarpar a dodrefn addas.
Arwain a rheoli: trefniadau'r sefydliad ar gyfer darparu gofal a chymorth.
- Mae arolygwyr yn gwerthuso i ba raddau y mae trefniadau'r sefydliad yn rhoi sicrwydd y caiff gwasanaethau o ansawdd uchel eu darparu, gan staff sydd wedi'u cymell o fewn gwasanaeth a gaiff ei arwain a'i reoli'n dda.
4.14 Bydd nifer y themâu a gaiff eu hystyried yn dibynnu ar y math o arolygiad a gynhelir, fel y disgrifir yn adran 5. Er mwyn cefnogi dull cyson o fynd i'r afael â'r broses arolygu, rydym wedi datblygu canllawiau ymarfer ar gyfer mathau penodol o wasanaethau rheoleiddiedig sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.
Graddau
4.14 O dan adran 37 o Ddeddf 2016, gall Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau ar gyfer graddau y gellir eu rhoi mewn perthynas ag ansawdd y gofal a'r cymorth a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth yn dilyn arolygiad. Daeth Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Graddau Arolygu) (Cymru) 2025 i rym ar 31 Mawrth 2025.
4.15 Bydd AGC yn dyfarnu gradd i bob cartref gofal a phob gwasanaeth cymorth cartref mewn perthynas â phob thema berthnasol a nodir yn 4.13. Nid ydym yn dyfarnu gradd gyffredinol i'r darparwr ond rydym yn dyfarnu graddau yn erbyn pob un o'r pedair thema arolygu gan ddefnyddio graddfa pedwar pwynt.
- Rhagorol
- Da
- Rhaid gwella
- Rhaid gwella'n sylweddol
Ceir rhagor o fanylion yn Fframwaith Arolygu AGC.
5. Mathau o arolygiadau
5.1 Rhaid i bob darparwr sy'n cael ei reoleiddio o dan Ddeddf 2016 gofrestru unrhyw wasanaeth(au) y mae'n ei ddarparu (eu darparu) yng Nghymru fel rhan o gofrestriad unigol. O dan amgylchiadau arferol, byddwn yn arolygu gwasanaeth(au) unigol ond gallwn hefyd arolygu nifer o wasanaethau sydd wedi'u cofrestru o dan gofrestriad unigol fel rhan o'r un arolygiad neu arolygu darparwr y gwasanaethau yn gyffredinol.
Disgrifir y gwahanol fathau o arolygiadau isod.
Arolygu gwasanaeth
5.2 Mae arolygiadau yn rhoi ystyriaeth fanwl i'r pedair thema. Yn achos gwasanaethau nad ydynt yn darparu llety, ni chaiff yr amgylchedd ei ystyried.
5.3 Caiff pryd i gynnal yr arolygiad cyntaf ei nodi adeg cofrestru.
5.4 Mae'n cynnig cyfle i arolygwyr sicrhau bod darparwyr yn cefnogi'r bobl i gyflawni eu canlyniadau llesiant drwy gyrraedd y safonau ar gyfer darparu gwasanaethau a nodir yn y rheoliadau ac i sicrhau eu bod yn bodloni amodau eu cofrestriad. Ar ôl yr arolygiad cyntaf, bydd gwasanaethau yn cael arolygiadau pellach yn unol â'r amlder a nodir yn adran 6.
Arolygu darparwr
5.5 Pan fydd darparwr gwasanaeth yn darparu gwasanaethau rheoleiddiedig mewn nifer o fannau neu o nifer o fannau, byddwn yn goruchwylio'r holl wasanaethau a ddarperir gan y darparwr. Os byddwn yn nodi patrymau neu nifer uchel o achosion o ddiffyg cydymffurfio, pryderon neu faterion diogelu mewn nifer o wasanaethau, gall hyn arwain at gynnal arolygiad o'r darparwr.
5.6 Bydd arolygiadau o ddarparwyr yn edrych yn benodol ar drefniadau llywodraethu a rheoli corfforaethol darparwr y gwasanaethau. Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, gall hyn hefyd gynnwys arolygiad o'r holl wasanaethau sy'n rhan o bortffolio'r darparwr, gan ganolbwyntio ar feysydd pryder penodol.
Arolygiadau thematig
5.7 Mae arolygiadau thematig yn canolbwyntio ar feysydd ymarfer penodol ar draws y sector gofal cymdeithasol. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys adolygu arferion gofal mewn cartrefi preswyl i unigolion ag anabledd dysgu, arferion meddyginiaeth mewn cartrefi gofal neu ofal dementia. Mae hyn yn ein galluogi i feithrin dealltwriaeth o arferion gofal penodol ledled Cymru, i gyflwyno adroddiadau arnynt ac i wneud argymhellion mewn perthynas â nhw.
Hyd arolygiadau
5.8 Bydd maint neu gymhlethdod y gwasanaeth yn pennu pa mor hir y dylai'r arolygiad fod a nifer yr arolygwyr a fydd yn bresennol. Fel arfer, caiff gwasanaeth bach nad oes unrhyw bryderon yn ei gylch ei arolygu gan un arolygydd dros gyfnod o ddiwrnod. Gallai fod angen mwy nag un arolygydd i gynnal arolygiad o wasanaeth mawr a/neu wasanaeth sy'n wynebu materion cymhleth a/neu gallai gymryd mwy na diwrnod. Fel rhan o'r arolygiad, rydym yn cynnal trafodaethau â phobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth, eu cynrychiolwyr a'r staff. Mae'n bosibl y byddwn yn gwneud hyn ar wahân i'r ymweliad safle, er enghraifft, pan fyddwn yn ymweld â phobl sy'n cael gwasanaethau cymorth cartref.
6. Trefnu arolygiadau
6.1 Caiff gwasanaethau eu monitro drwy raglen dreigl o arolygiadau wedi'u trefnu. Caiff y wybodaeth a geir rhwng arolygiadau wedi'u trefnu ei monitro er mwyn i ni gael gwybod am berfformiad y gwasanaeth(au) a phryd y dylid trefnu arolygiad dilynol.
6.2 Rydym yn defnyddio dull seiliedig ar dystiolaeth i benderfynu sut y byddwn yn rheoleiddio gwasanaethau. Mae ein dull ar gyfer trefnu arolygiad yn seiliedig ar y math o wasanaeth a'n gwybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn gweithredu.
6.3 Mae amrywiaeth o ffactorau a gaiff eu hystyried wrth drefnu arolygiadau gan gynnwys y canlynol, ymhlith eraill:
- a yw'r gwasanaeth yn un sydd newydd ei gofrestru – gall rhai gwasanaethau sydd newydd eu sefydlu beri mwy o risg yn ystod y cyfnod sefydlu cychwynnol
- a ydym wedi nodi meysydd i'w gwella neu wedi cyhoeddi hysbysiad gweithredu â blaenoriaeth
- a fu'r gwasanaeth yn gweithredu heb Unigolyn Cyfrifol am gyfnod o fwy na chwe mis oherwydd gallai hyn effeithio ar allu'r gwasanaeth i weithredu'n ddiogel
- a yw'r gwasanaeth wedi bod yn destun llwybr gorfodi AGC yn ddiwddar
6.4 Er mwyn pennu amlder arolygiadau, rydym wedi datblygu model trefnu sy'n pwyso a mesur y ffactorau a restrir uchod. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth sydd ar gael er mwyn nodi a oes angen cynnal arolygiad arferol, arolygiad cynnar neu arolygiad â blaenoriaeth o wasanaeth. Defnyddir y model hwn at ddiben penodol trefnu arolygiad er mwyn pennu ansawdd y gwasanaeth yn ystod yr arolygiad hwnnw.
6.5 Mae'r rhestr isod yn nodi sut y trefnir arolygiadau ar gyfer mathau gwahanol o wasanaethau a'r cyfnodau rhwng arolygiadau y gellid eu disgwyl os nodir bod angen arolygiad arferol, arolygiad cynnar neu arolygiad â blaenoriaeth ar wasanaeth.
Cyfnodau arolygu yn ôl y math o wasanaeth
- Cartrefi Gofal gan gynnwys cartrefi gofal i blant a chartrefi gofal sy'n darparu gofal nyrsio a llety diogel
Y cyfnod hiraf rhwng arolygiadau- Amserlen Arferol: 18 mis
- Cynnar: 12 mis
- Â blaenoriaeth: 6 mis
- Cymorth cartref
Y cyfnod hiraf rhwng arolygiadau- Amserlen Arferol: 18 mis
- Cynnar: 12 mis
- Â blaenoriaeth: 6 mis
- Lleoliadau oedolion
Y cyfnod hiraf rhwng arolygiadau- Amserlen Arferol: 48 mis
- Cynnar: 12 mis
- Â blaenoriaeth: 6 mis
- Canolfannau preswyl i deuluoedd
Y cyfnod hiraf rhwng arolygiadau- Amserlen Arferol: 18 mis
- Cynnar: 12 mis
- Â blaenoriaeth: 6 mis
- Eiriolaeth
Y cyfnod hiraf rhwng arolygiadau- Amserlen Arferol: 48 mis
- Cynnar: 12 mis
- Â blaenoriaeth: 6 mis
- Mabwysiadu
Y cyfnod hiraf rhwng arolygiadau- Amserlen Arferol: 48 mis
- Cynnar: 12 mis
- Â blaenoriaeth: 6 mis
- Maethu
Y cyfnod hiraf rhwng arolygiadau- Amserlen Arferol: 48 mis
- Cynnar: 12 mis
- Â blaenoriaeth: 6 mis
- Gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig
Y cyfnod hiraf rhwng arolygiadau- Amserlen Arferol: 18 mis
- Cynnar: 12 mis
- Â blaenoriaeth: 6 mis
- Ysgolion preswyl a cholegau Addysg Bellach
Y cyfnod hiraf rhwng arolygiadau- Amserlen Arferol: 48 mis
- Cynnar: 12 mis
- Â blaenoriaeth: 6 mis
6.6 Y Tîm Cofrestru fydd yn penderfynu pryd y dylid cynnal yr arolygiad cyntaf o wasanaeth newydd ei gofrestru.
6.7 Mae'n bwysig nodi y gallwn gynnal arolygiad unrhyw bryd mewn ymateb i bryderon, hysbysiadau ac atgyfeiriadau diogelu a ddaw i law.
7. Ymddygiad yn ystod arolygiad
7.1 Byddwn yn foesgar ac yn gwrtais wrth ymdrin â chi. Mae arolygwyr a gyflogir gan AGC wedi dod o amrywiaeth o gefndiroedd proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol; mae llawer wedi gweithio fel nyrsys, gweithwyr cymdeithasol, athrawon neu reolwyr gwasanaethau gofal yn flaenorol. Fodd bynnag, mae pob arolygydd yn was sifil a rhaid i'r unigolion hyn gyrraedd y safonau proffesiynol a nodir yng Nghod y Gwasanaeth Sifil - GOV.UK (Dolen allanol)
Fel gyda gweithwyr gofal cymdeithasol, bydd arolygwyr hefyd yn gweithio yn unol â’r Cod Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol (Dolen allanol). Mae hyn yn golygu y disgwylir y bydd arolygwyr yn gwneud y canlynol:
- gwneud eu gwaith â gofal, uniondeb, cwrteisi, sensitifrwydd a phroffesiynoldeb
- gwerthuso'r gwasanaethau a ddarperir yn wrthrychol, gan sicrhau y caiff tystiolaeth ei thriongli a'i phwysoli'n briodol
- adrodd ar yr arolygiad mewn modd gonest, teg a diduedd
- cyfathrebu'n glir ac yn agored er mwyn hyrwyddo iechyd, diogelwch a llesiant y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal
- ymddwyn er lles pennaf y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau
- parchu cyfrinachedd gwybodaeth
- bod yn atebol a chymryd cyfrifoldeb am ansawdd eu gwaith
- hyrwyddo, cynnal a pharchu preifatrwydd, urddas, hawliau, iechyd a llesiant pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal neu a gyflogir ganddynt
Sut y gall darparwyr gwasanaethau a staff gefnogi'r broses arolygu
7.2 Byddwn bob amser yn ceisio lleihau'r effaith y gall ymweliad arolygu ei chael ar y gwasanaeth, ei staff a'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth. Er mwyn helpu arolygwyr i gyflawni'r nod hwnnw, gall darparwyr gwasanaethau a'u staff gefnogi'r arolygiad yn y ffyrdd canlynol:
- siarad â'r arolygydd
- rhoi gwybod i'r arolygydd am unrhyw risgiau posibl
- rhoi gwybod i'r arolygydd os bydd ei bresenoldeb yn peri gofid i'r bobl
- gwneud yr hyn y byddech yn ei wneud fel arfer (rydym am weld pa fath o wasanaeth mae'r bobl yn ei gael fel arfer)
- caniatáu i'r arolygydd gerdded o gwmpas ardaloedd cymunedol, ar yr amod ei bod yn ddiogel iddo wneud hynny
- rhoi ardal breifat i'r arolygwyr siarad â'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth, y staff ac ymwelwyr
- yn ystod yr adborth, os byddwch yn anghytuno ag unrhyw beth y bydd yr arolygydd yn ei ddweud, dywedwch wrtho ac eglurwch eich rhesymau dros hynny
- os bydd gennych unrhyw bryderon am y ffordd y mae'r arolygiad yn cael ei gynnal, codwch hyn â'r arolygydd neu ei reolwr ar unwaith
7.3 Rydym yn disgwyl i chi fod yn foesgar ac yn gwrtais wrth ymdrin â ni. Fodd bynnag, ni fyddwn yn goddef unrhyw ymddygiad afresymol, ymosodol na sarhaus, gofynion afresymol na thaerni afresymol. Rydym o'r farn bod unrhyw ddigwyddiad o'r natur hon yn ddifrifol a byddwn yn cymryd camau gweithredu yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru i ddiogelu ein staff pan fo angen.
8. Adborth arolygiad ac adrodd arno
Adborth
8.1 Caiff adborth cychwynnol ei roi drwy gydol yr ymweliad arolygu a rhoddir crynodeb ohono ar ddiwedd yr ymweliad i'r unigolion hynny sy'n gyfrifol am y gwasanaeth ar y diwrnod. Bydd hyn ar ffurf trosolwg o'r canfyddiadau gan y bydd angen i ni wneud rhagor o waith dadansoddi o bosibl cyn y gellir llunio casgliadau pendant. Mae hyn yn cynnig cyfle i'r rheolwr a / neu'r Unigolyn Cyfrifol gywiro unrhyw wybodaeth anghywir a darparu unrhyw dystiolaeth na chafodd o bosibl ei hystyried yn eu barn nhw.
8.2 Pan fydd arolygydd o'r farn bod y canlyniadau i'r bobl yn wael a bod angen gwelliant sylweddol a'i fod yn ystyried neu'n bwriadu cyhoeddi hysbysiad gweithredu â blaenoriaeth neu gymryd camau gorfodi eraill, bydd y darparwr yn cael ei hysbysu'n glir o hynny.
8.3 Bydd yr arolygydd yn rhoi adborth manwl i'r Unigolyn Cyfrifol cyn gynted ag y bydd yn gyfleus i'r ddwy ochr ar ôl cwblhau'r gweithgaredd arolygu diwethaf. Caiff yr adborth ei strwythuro ar sail y themâu asesu a dylai ganolbwyntio ar gryfderau a'r meysydd y mae angen eu gwella.
Adroddiad arolygu
8.4 Mae profiad pobl o wasanaethau wrth wraidd ein hadroddiadau, gan gynnwys effaith y gwasanaethau hynny ar eu llesiant. Er bod darparwyr a
gweithwyr proffesiynol yn darllen ein hadroddiadau, cânt eu hysgrifennu ar gyfer y cyhoedd. Mae hyn yn galluogi'r bobl sy'n defnyddio gwasanaethau ac yn dewis gwasanaethau a'u perthnasau i
ddeall ansawdd y gofal a ddarperir.
8.5 Rhaid i arolygwyr seilio eu hadroddiadau ar y dystiolaeth y byddant yn ei chasglu cyn, yn ystod ac ar ôl yr ymweliad arolygu. Bydd yr arolygydd yn ystyried amrywiaeth o dystiolaeth i ategu ei ganfyddiadau yn ei adroddiad. Rhoddir ystyriaeth i'r hyn a ddywedir, yr hyn a welir a'r hyn a ddarllenir er mwyn llywio ein canfyddiadau a'n barnau cyffredinol.
Pryd y caiff yr adroddiad arolygu ei gyhoeddi?
8.6. Nodir ein dull ar gyfer drafftio, llunio fersiynau terfynol a chyhoeddi adroddiadau arolygu yn ein polisi ar gyfer Cyhoeddi adroddiadau arolygu.
8.7 Er mwyn sicrhau tegwch a thryloywder, rydym yn derbyn bod hawl gan Bersonau Cofrestredig, Unigolion Cyfrifol neu unigolion perthnasol i ofyn cwestiynau ynghylch ein hadroddiadau pan fyddant o'r farn eu bod yn anghywir neu nad ydynt wedi ystyried tystiolaeth bwysig. Mae hyn yn rhoi'r cyfle i ni gywiro unrhyw wallau ac ystyried gwybodaeth ychwanegol cyn i adroddiad arolygu gael ei ryddhau'n gyhoeddus. Ceir rhagor o wybodaeth am y broses hon yn Gwneud cais am adolygiad o dystiolaeth a chanfyddiadau adroddiadau arolygu (gan gynnwys graddau)
9. Gwella ansawdd gwasanaethau
9.1 Rydym am i bob gwasanaeth anelu at wella'n barhaus. Mae sicrhau gwelliant a chymryd camau gorfodi yn rhan greiddiol o'n gwaith. Caiff hyn ei nodi'n fanwl yn ein Polisi ar Sicrhau Gwelliant a Gorfodi. Lle byddwn yn nodi materion sy'n effeithio ar ganlyniadau'r bobl neu sy'n peri risg iddynt gan nad yw'r safonau gwasanaeth fel y'u nodir yn y rheoliadau yn cael eu cyrraedd, byddwn yn cymryd camau cymesur a graddedig.
9.2 Mae'r mathau o gamau gweithredu rydym yn eu cymryd yn cynnwys y canlynol:
Lle byddwn yn nodi potensial i wella'r canlyniadau i'r bobl ond nad oes fawr ddim effaith ar eu llesiant, byddwn yn trafod hyn â'r darparwr wrth roi adborth ar yr arolygiad. Mae'n bosibl y byddwn yn ystyried hyn yn yr arolygiad nesaf a gaiff ei drefnu.
- Lle byddwn yn nodi meysydd i'w gwella, byddwn yn hysbysu'r darparwr ac yn disgwyl iddo weithredu i ymdrin â'r materion a nodwyd. Caiff hyn ei gofnodi yn yr adroddiad arolygu a byddwn yn ei ystyried yn ystod yr arolygiad cynnar nesaf.
- Lle bydd angen gwella'r canlyniadau i'r bobl yn sylweddol, byddwn yn cyhoeddi hysbysiad gweithredu â blaenoriaeth, sef cam cyntaf ein proses gorfodi. Yn yr achosion hyn, byddwn yn cynnal arolygiad dilynol â blaenoriaeth i brofi a yw'r darparwr wedi gwneud y gwelliannau gofynnol
- O dan rai amgylchiadau penodol, lle byddwn o'r farn bod y risg i'r bobl mor sylweddol, mae'n bosibl y byddwn yn cymryd camau brys i osod cyfyngiadau ar gofrestriad y darparwr neu i ganslo ei gofrestriad. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, gyhoeddi Hysbysiad Gwella, yn atal y gwasanaeth rhag derbyn mwy o unigolion neu'n cau'r gwasanaeth.
9.3 Yn achos y gwasanaethau hynny nad ydynt wedi'u cofrestru gan AGC, nid oes gennym bwerau gorfodi drostynt ond byddwn yn tynnu sylw'r darparwr at feysydd i'w gwella neu feysydd gweithredu â blaenoriaeth ac yn ystyried y meysydd hyn yn ystod yr arolygiad nesaf, gan weithio gyda phartneriaid perthnasol fel comisiynwyr neu arolygiaethau eraill.
Gwneud cwyn am arolygiad
9.4 Rydym yn cymryd cwynion o ddifrif ac yn ymrwymedig i fyfyrio ar faterion sy'n deillio ohonynt ac i ddysgu gwersi ohonynt.
9.5 Os bydd darparwr y gwasanaeth, unigolyn sy'n defnyddio'r gwasanaeth neu aelod o'r cyhoedd am gwyno am ymddygiad neu agwedd arolygydd, neu unrhyw aelod o staff AGC, mae gennym Bolisi Cwyno y dylid ei ddilyn.
9.6 Mae'r polisi cwyno ar wahân i'r broses ar gyfer ymateb i adroddiad arolygu a ddisgrifir ym mharagraffau 8.7 i 8.8. Fel arfer, ni fydd cwyn a wneir am ymddygiad arolygydd yn arwain at oedi cyn cyhoeddi adroddiad arolygu
10. Gwybodaeth
10.1 Y ddealltwriaeth a'r wybodaeth sydd gennym yw un o'n hasedau pwysicaf. Mae'n sicrhau bod y penderfyniadau a wnawn a'r cyngor a roddwn yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn.
10.2 Drwy ein prosesau cofrestru ac arolygu, rydym yn casglu ac yn cadw gwybodaeth am ddarparwyr, gan gynnwys gwybodaeth a gafwyd gan ffynonellau gwybodaeth eraill. Mae'r wybodaeth werthfawr hon yn ein helpu i asesu a yw darparwr cofrestredig a/neu unigolion cyfrifol dynodedig (yn dibynnu ar y ddeddfwriaeth) yn darparu gwasanaeth diogel o ansawdd uchel.
10.3 Weithiau, mae'n bosibl y byddwn yn cael ceisiadau i ryddhau gwybodaeth sy'n ymwneud ag achos neu wasanaeth unigol. Mae gan unrhyw unigolyn yr hawl i wneud cais am wybodaeth a gofnodwyd gennym, ac, yn amodol ar ofynion statudol deddfwriaeth ynghylch trin gwybodaeth, i gael copi o'r wybodaeth hon.
10.4 Er mwyn sicrhau bod y wybodaeth gywir ar gael ar yr adeg gywir, a'n bod yn bodloni'r gofynion statudol perthnasol, rydym yn gwneud y canlynol:
- Diogelu'r wybodaeth sydd gennym, yn unol â gweithdrefnau Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau safonau uchel o ran diogelu gwybodaeth a data.
- Storio ein gwybodaeth yn y ffordd gywir, gan ddilyn egwyddorion rheoli gwybodaeth Llywodraeth Cymru (Dolen allanol).
- Ymateb i geisiadau am wybodaeth yn unol â'r prosesau a'r amserlenni a sefydlwyd sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith. (Mae pedair cyfraith yn rheoli ein dull o ymdrin â cheisiadau am wybodaeth, sef Deddf Diogelu Data 2018, Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU), Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004)
- Rhannu gwybodaeth yn briodol ac mewn modd cyfreithlon, er mwyn gwella ac ailddefnyddio ein gwybodaeth, gweithio ar y cyd a lleihau achosion o ddyblygu.
10.5 Mae ein Hysbysiad Preifatrwydd yn crynhoi'r ffordd rydym yn ymdrin â phob math o wybodaeth bersonol a gasglwn. Mae hyn yn cynnwys y sail gyfreithiol ar gyfer casglu'r wybodaeth hon, y ffordd y caiff y wybodaeth ei phrosesu, am ba hyd y caiff ei chadw, pwy y gellir ei rhannu â nhw, beth yw eich hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth a'r cysylltiadau perthnasol y gallai fod eu hangen arnoch.
10.6 Mewn rhai achosion, gall AGC gynnal neu gymryd rhan mewn arolygiad ar y cyd â chyrff neu asiantaethau rheoleiddio eraill, fel yr Heddlu, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu Estyn, lle y bo'n berthnasol. Mae'n hanfodol y caiff gwybodaeth ei rhannu â'r asiantaethau neu'r cyrff rheoleiddio hyn er mwyn sicrhau y caiff gwybodaeth ac adnoddau eu defnyddio'n effeithiol. Yn y sefyllfaoedd hyn, rydym yn rhannu gwybodaeth yn unol â'r gofynion statudol sydd arnom.
11. Y derminoleg a ddefnyddir yn y Cod hwn
Gofal a chymorth. Mae gofal yn cyfeirio at dasgau ac anghenion corfforol a meddyliol y person sy'n derbyn gofal, ac mae cymorth yn cyfeirio at y gwasanaethau cwnsela, cyngor neu help arall a roddir fel rhan o gynllun a gaiff ei baratoi ar gyfer y person sy'n derbyn cymorth.
Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant. Rydym yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er llesiant pobl Cymru.
Cod Ymarfer ar gyfer Arolygu. Disgrifiad lefel uchel o'r modd y cynhelir arolygiadau o wasanaethau i oedolion a phlant, yn unol â gofynion y Ddeddf a rheoliadau cysylltiedig.
Pryderon. Mater y rhoddwyd gwybod i AGC amdano sy'n ymwneud â diogelwch, llesiant neu hawliau'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth.
Fframwaith arolygu. Dull gweithredu strwythuredig er mwyn helpu AGC i sicrhau ffocws ei gweithgarwch arolygu drwy gydol y broses arolygu.
Rheoleiddiwr. Sefydliad a sefydlwyd gan y llywodraeth i oruchwylio maes o weithgarwch masnachol neu gymdeithasol, drwy reolau a rheoliadau.
Diogelu. Term cyffredinol ar gyfer camau gweithredu a gymerir er mwyn hybu lles plant ac oedolion sy'n agored i niwed a'u hamddiffyn rhag cael eu hesgeuluso, eu cam-drin a rhag achosion o gam-fanteisio arnynt.
Gwasanaeth(au) Mae hwn yn cyfeirio at wasanaeth unigol ym mhortffolio'r darparwr. Ar gyfer cartrefi gofal, gwasanaeth cartref gofal fyddai hwn, a ddarperir mewn lleoliad penodol. Ar gyfer gwasanaethau cymorth cartref, gwasanaeth unigol fyddai hwn, a ddarperir mewn ardal benodol.
Llesiant. Mae'n cyfeirio'n eang at gyflwr person sy'n iach, yn hapus, yn ddiogel ac yn fodlon ei fyd.
12. Cyfeiriadau
- Cynnig Rhagweithiol - Mwy na Geiriau | Arolygiaeth Gofal Cymru
- Cod y Gwasanaeth Sifil (Dolen allanol)
- Codau Ymarfer Proffesiynol a chanllawiau Gofal Cymdeithasol Cymru (Dolen allanol)
- Deddf Hawliau Dynol 1998 (Dolen allanol)
- Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Dolen allanol)
- Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE) (Dolen allanol)
- Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Dolen allanol)
- Polisi ar gyfer cyhoeddi adroddiadau arolygu (HTML dogfennu) | Arolygiaeth Gofal Cymru
- Gwneud cais am adolygiad o dystiolaeth a chanfyddiadau adroddiadau arolygu (gan gynnwys graddau)
- Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) (Dolen allanol)