Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Graddau ar gyfer cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref

Bwriedir cyflwyno graddau cyhoeddedig ar gyfer y mathau hyn o wasanaethau o fis Ebrill 2025.

Er mwyn paratoi ar gyfer hyn, gwnaethom gynnal cynllun peilot graddau mud neu raddau heb eu cyhoeddi ar gyfer y cartrefi gofal a'r gwasanaethau cymorth cartref hynny a arolygwyd yn ystod ail hanner 2023. 

Rhoddwyd cyfanswm o bedair gradd arolygu, sy'n adlewyrchu categorïau arweinyddiaeth a rheolaeth; yr amgylchedd; gofal a chymorth; a llesiant i ddarparwyr ar lafar, ond ni chawsant eu cyhoeddi yn eu hadroddiad arolygu. 

Er mwyn i ni ddeall yr hyn a oedd wedi gweithio'n dda a pha feysydd roedd angen eu datblygu ymhellach, gwnaethom ofyn i gwmni annibynnol, Practice Solutions Ltd (Dolen allanol), werthuso ein dull gweithredu.

Rydym wedi cyhoeddi ei ganfyddiadau bellach – gallwch ddarllen yr adroddiad drwy glicio ar y ddolen ar waelod y dudalen hon.

Beth sydd nesaf?

Rydym yn parhau'n ymrwymedig i weithio gyda'r sector er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y gofal a'r cymorth gorau posibl ac mae'r adroddiad gwerthuso yn rhoi cyfle gwerthfawr i fynd ati ymhellach i ymdrin â'r materion sydd wedi dod i'r golwg hyd yma. 

Rydym yn ystyried yr argymhellion yn ofalus a byddwn yn cyhoeddi cynllun gweithredu yn ymateb i’r argymhellion yn ddiweddarach yn yr haf. Bydd y cynllun gweithredu yn cynnwys rhagor o fanylion am y camau y byddwn yn eu cymryd i baratoi ar gyfer cyhoeddi graddau o fis Ebrill 2025. Yn y mis nesaf bydd Llywodraeth Cymru yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar reoliadau drafft a fydd yn darparu'r sail gyfreithiol ar gyfer graddau arolygu a gyhoeddir.

Wrth i ni barhau i baratoi ar gyfer y broses o gyhoeddi graddau, bydd ein harolygwyr yn dyfarnu graddau mud i gartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref pan fyddant yn cael eu harolygu o hyd. Diben hyn yw helpu i baratoi darparwyr ar gyfer y broses o gyhoeddi graddau a rhoi'r cyfle gorau i'n harolygwyr ymgyfarwyddo â'r graddau fel rhan o'u methodoleg arolygu.