Sut rydym yn arolygu gwasanaethau gofal plant a chwarae
Gwybodaeth a chanllawiau ynglŷn â sut rydym yn arolygu gwasanaethau gofal plant a chwarae.
Dylid darllen cyfeiriadau at 'Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru' (AGGCC) yn y dogfennau ar y dudalen hon fel 'Arolygiaeth Gofal Cymru'.
Yr hyn rydym yn ei archwilio ac adrodd amdano
Pan fydd ein harolygwyr yn ymweld â gwasanaeth gofal, byddant yn ystyried pedair thema graidd:
- Lles
- Gofal a Datblygiad
- Amgylchedd
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Pa mor aml rydym yn arolygu
Mae gennym ddau fath o arolygiad: llawn ac â phwyslais penodol.
Arolygiadau llawn
Mae'r rhan fwyaf o'n harolygiadau yn arolygiadau llawn sydd wedi'u cynllunio fel rhan o'n rhaglen arolygu. Cynhelir arolygiadau llawn tua chwe mis ar ôl i wasanaeth sydd newydd ei gofrestru ddod yn weithredol. Yn dilyn hynny, rydym yn defnyddio model amserlennu seiliedig ar wybodaeth i benderfynu pryd y caiff yr arolygiad nesaf ei gynnal.
Rydym yn disgwyl i bob darparwr roi ei brosesau sicrhau ansawdd ei hun ar waith mewn ffordd effeithiol er mwyn gwella'r canlyniadau i blant sy'n defnyddio ei wasanaeth. Yn 2024, gwnaethom gyflwyno cyfarfodydd ansawdd er mwyn helpu darparwyr i wneud gwelliannau. Gweler y wybodaeth am gyfarfodydd ansawdd isod.
Drwy ddefnyddio ein model amserlennu seiliedig ar wybodaeth, rydym yn rhoi blaenoriaeth i'r gwasanaethau y mae angen iddynt wneud y gwelliannau mwyaf ac yn trefnu arolygiad ar eu cyfer o fewn chwe mis. Ni fydd y gwasanaethau hyn yn gymwys i gael cyfarfod ansawdd hyd nes y byddwn yn hyderus eu bod wedi gwneud y gwelliannau gofynnol.
Yn ystod 2024, gwnaethom adolygu ein data ar arolygiadau ac, yn seiliedig ar ein canfyddiadau, newidiwyd y cyfnod hwyaf o amser rhwng arolygiadau i bum mlynedd. Ar gyfer y gwasanaethau y mae angen iddynt wneud y gwelliannau mwyaf, byddwn yn cynnal arolygiad yn gynharach, a'r cyfnod hwyaf o amser rhwng yr arolygiadau hyn fydd dwy flynedd. Byddwn yn cynnal cyfarfod ansawdd tua hanner ffordd rhwng yr arolygiadau a drefnwyd er mwyn helpu darparwyr i wneud gwelliannau cyn ein harolygiad nesaf.
Arolygiadau â phwyslais penodol
Mae'n bosibl y byddwn yn cynnal arolygiad â phwyslais penodol mewn ymateb i wybodaeth a ddaw i law am leoliad neu er mwyn cynnal camau dilynol mewn perthynas â meysydd o ddiffyg cydymffurfio a nodwyd mewn arolygiad blaenorol. Dim ond rhai elfennau o'r lleoliad y bydd yr arolygiadau hyn yn eu hystyried.
Nid ydym fel rheol yn dyfarnu gradd ar gyfer arolygiadau â phwyslais penodol. Byddwn yn adolygu'r radd hon os mai bwriad arolygiad â phwyslais penodol yw asesu'r camau gweithredu a gymerwyd gan y darparwr i fynd i'r afael ag achosion o ddiffyg cydymffurfio a gradd 'gwael'.
Caiff ein holl arolygiadau eu cynnal yn ddirybudd, ond byddwn yn ffonio gwarchodwyr plant a gwasanaethau chwarae mynediad agored wythnos cyn ein bod yn bwriadu eu harolygu. Mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr eu bod ar gael a'u hamseroedd gweithredu i sicrhau eu bod yn gweithredu pan fyddwn yn ymweld â nhw. Os na fyddwn wedi llwyddo i siarad â neb, cynhelir arolygiad heb drafodaeth ymlaen llaw. Fodd bynnag, cyfrifoldeb y darparwyr yw rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i'r oriau a/neu ddiwrnodau gweithredu. Byddwn yn arolygu unrhyw wasanaeth ar unrhyw adeg, yn enwedig os bydd pryderon wedi'u codi.
Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth
Bob blwyddyn, bydd yn ofynnol i ichi anfon y canlynol atom:
- Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth
- Adolygiad o ansawdd gofal y gwasanaeth
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth.
Graddau arolygiadau gofal plant a chwarae
O fis Ebrill 2019, bydd pob un o'n hadolygiadau llawn o wasanaethau gofal plant a chwarae yn cynnwys gradd ar gyfer pob un o'r pedair thema a gaiff eu hystyried yn ystod yr arolygiad. Mae hyn yn golygu y caiff gradd Rhagorol; Da; Digonol; neu Wael ei chyhoeddi mewn perthynas â themâu Llesiant; Gofal a Datblygiad; Yr amgylchedd; ac Arweinyddiaeth a Rheolaeth.
Bydd gwasanaethau sydd newydd gofrestru yn cael arolygiad llawn tua chwe mis ar ôl dod yn weithredol. Caiff y graddau a ddyfarnwyd eu cyhoeddi.
Mae ein templed ar gyfer adroddiadau arolygu wedi cael ei adolygu er mwyn dangos y graddau ym mlaen yr adroddiad arolygu ac wrth ymyl pob thema. Ein bwriad yw cyhoeddi graddau ar ein cyfeiriadur ar-lein yn y dyfodol.
Pwysig – darllenwch ein hadroddiadau yn llawn.
Rydym yn gyfrifol am reoleiddio dros 3,000 o wasanaethau gofal plant a chwarae. Mae hyn yn golygu y bydd yn cymryd sawl diwrnod i ni gyhoeddi graddau yn adroddiadau arolygu pob gwasanaeth. Mae bob amser yn syniad da darllen yr adroddiad yn llawn ni waeth p'un a yw'n cynnwys y radd ai peidio.
Cymorth i ddarparwyr
Rydym wedi paratoi canllaw arolygu ar gyfer gwarchodwyr plant a darparwyr gofal dydd a chwarae. Rydym hefyd wedi paratoi dull i ddarparwyr chwarae mynediad agored asesu cymarebau staffio.
Arolygiadau ar y cyd ag Estyn
O fis Ionawr 2019, rydym wedi cynnal arolygiadau ar y cyd o'r gofal ac addysg mewn gwasanaethau wedi'u rheoleiddio nad ydynt yn ysgolion sy'n gymwys i gael cyllid ar gyfer addysg ran-amser.
Yn ystod yr arolygiadau ar y cyd hyn, rydym yn arolygu gofal pob plentyn hyd at 12 oed ac addysg plant tair a phedair oed nad ydynt yn derbyn addysg mewn lleoliadau a gynhelir.
Bydd ein harolygiadau ar y cyd yn darparu:
- Un adroddiad arolygu sy'n cwmpasu safonau mewn gofal plant ac addysg
- Fframwaith arolygu diwygiedig sy'n cwmpasu llai o feysydd ond rhai ehangach
- Amserlenni newydd ar gyfer hyd, amlder a chyfnodau rhybudd arolygiad
Gweler isod ein canllawiau arolygu cyhoeddedig, dogfen gywirdeb ffeithiol, a dogfen ddilynol ar gyfer yr arolygiadau ar y cyd.
Cyfarfodydd ansawdd
Rydym wedi cyflwyno cyfarfodydd ansawdd rhwng arolygiadau er mwyn galluogi darparwyr i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw welliannau y maent wedi'u gwneud ers yr arolygiad diwethaf. Hoffem hefyd glywed am unrhyw welliannau sydd wedi'u cynllunio ar gyfer y dyfodol, a byddwn yn cyfeirio darparwyr at ffynonellau eraill o gyngor a chymorth a fydd, o bosibl, o help iddynt.
Canllawiau i ddarparwyr
Rydym wedi creu'r fideo canllaw isod a chanllawiau ar gyfarfodydd ansawdd i ddarparwyr er mwyn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl yn eich cyfarfod ansawdd a sut y gallwch baratoi ar ei gyfer.
Dogfennau
-
Fframwaith arolygu gofal plant , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 33 KBPDF, Maint y ffeil:33 KB
-
Arolygiadau ar y cyd ag Estyn: Llawlyfr arweiniad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 501 KBPDF, Maint y ffeil:501 KB
-
Arolygiadau ar y cyd ag Estyn: Llawlyfr arweiniad ar ddilyniant , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 402 KBPDF, Maint y ffeil:402 KB