Ein dulliau gorfodi
Rydym yn cymryd camau gweithredu os ydym yn nodi gofal gwael neu lle nad yw darparwyr yn cyrraedd y safonau sy'n ofynnol gan y gyfraith.
Rydym yn arolygu gwasanaethau i wirio eu bod yn darparu gofal diogel a'u bod yn bodloni gofynion y gyfraith.
Yr hyn rydym yn ei wneud os nad yw safonau'n cael eu cyrraedd
Mae ein 'polisi sicrhau gwelliant a gorfodi' yn esbonio'r hyn y byddwn yn ei wneud os nad yw gwasanaethau yn darparu gofal o ansawdd da neu os nad ydynt yn bodloni gofynion y gyfraith.
Rydym yn defnyddio ein pwerau gorfodi i sicrhau bod darparwyr yn gwneud y gwelliannau angenrheidiol, ac rydym yn gwirio bod y rhain wedi cael eu rhoi ar waith.
Yr hyn rydym yn ei wneud os nad oes gwelliant i'r gwasanaeth
Os nad yw ansawdd y gwasanaeth yn gwella, gallwn gymryd camau gweithredu pellach, gan gynnwys, lle y bo angen, gosod amodau ar gofrestriad y darparwr, cau gwasanaeth, neu ganslo cofrestriad y darparwr.
Dogfennau
-
Troseddau Deddfwriaethol a Rheoliadol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 491 KBPDF, Maint y ffeil:491 KB
-
Polisi ar Sicrhau Gwelliant a Gorfodi , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 829 KBPDF, Maint y ffeil:829 KB