Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Darparu adborth ar Arolygiaeth Gofal Cymru

Sut i roi adborth cadarnhaol neu gwyno amdanom ni neu aelod o'n staff.

Allwn ni ddim delio gyda pob cwyn drwy'n proses gwynion. Os nad ydych yn cytuno bod ffeithiau mewn adroddiad arolygu yn gywir, dilynwch y broses a nodir yn ein Polisi ar gyfer ymateb i adroddiadau arolygu.

Pwy gaiff gwyno?

Caiff unrhyw un, gan gynnwys plentyn neu berson ifanc sydd wedi derbyn neu a oedd â'r hawl i dderbyn gwasanaeth gennym, wneud cwyn.

Os ydych yn berson ifanc neu’n blentyn

Byddwch yn eich helpu i wneud eich cwyn, pan fo angen hynny. Cewch hefyd gysylltu â Chomisiynydd Plant Cymru a fydd efallai yn gallu eich helpu.

Os ydych am wneud cwyn ar ran rhywun arall

Cewch wneud cwyn ar ran rhywun arall os ydych yn:

  • berson arall sy'n cwyno ar ran rhywun sydd wedi marw;
  • rhiant, gwarcheidwad neu rywun arall sy’n cynrychioli plenty;
  • cwyno ar ran rhywun nad yw’n gallu gwneud hynny ei hunan (fel y diffinnir gan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (1);
  • unigolyn y gofynnwyd iddo wneud hynny gan yr unigolyn yr effeithiwyd arno.

Os ydych am wneud cwyn am wasanaeth a ddarperir gan Arolygiaeth Gofal Cymru neu aelod o staff

Os ydych yn dymuno gwneud cwyn am wasanaeth a ddarperir gan Arolygiaeth Gofal Cymru neu aelod o staff cysylltwch â ni ar 0300 7900 126. Bydd aelod o staff yn llenwi ffurflen gwynion gyda chi.

Neu gallwch lenwi ein ffurflen ar-lein. Pan fyddwn wedi derbyn eich cwyn byddwn yn ei hystyried ac yn ei throsglwyddo i aelod o staff i’w datrys.

Pryd y bydd eich cwyn yn cael ei datrys

Byddwn yn cydnabod eich cwyn o fewn 5 diwrnod gwaith a’n nod yw ei datrys o fewn 10 diwrnod gwaith. Gallai rhai cwynion cymhleth gymryd mwy o amser.

Os nad ydym yn gallu datrys eich cwyn

Os nad ydym yn gallu datrys eich cwyn, cewch gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Gallwch hefyd gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru am amrywiaeth o faterion. Ewch at wefan yr Ombwdsmon (Dolen allanol) am fanylion pellach.

Polisi cwynion Llywodraeth Cymru

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru. Dan bolisi cwynion Llywodraeth Cymru, mae’n rhaid i ni nodi a phrosesu cwynion ynglŷn â’r gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu, gan gynnwys ein staff.

Mae mwy o wybodaeth am y polisi ar gael yn adran Cwynion gwefan Llywodraeth Cymru.

Adroddiadau arolygu

Os nad ydych yn cytuno bod ffeithiau mewn adroddiad arolygu gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn gywir (gan gynnwys hysbysiadau o ddiffyg cydymffurfiad), dilynwch y broses a nodir yn ein polisi ar gyfer ymateb i adroddiadau arolygu.

Penderfyniadau am gofrestru

Os ydych yn anghytuno â’n cynnig a’n penderfyniad ynglŷn â’ch cofrestriad, mae gennych yr hawl i apelio. Mae’r wybodaeth hon wedi ei nodi yn yr hysbysiad statudol perthnasol.

Ffurflen sylwadau Cwynion am Arolygiaeth Gofal Cymru

Mae meysydd wedi’u marcio gyda * yn orfodol

Eich manylion

Ynglŷn â’ch cwyn

Trwy gyflwyno’r ffurflen hon rydych yn cytuno â’n Polisi Preifatrwydd lle y gallwch ddarllen am y ffordd rydym yn ymdrin â’ch data a’ch gwybodaeth.

CAPTCHA

Dogfennau