Yr hyn y dylech ei wneud os ydych chi'n weithiwr gofal cymdeithasol a’ch bod yn dymuno hysbysu am weithredoedd anghyfreithlon neu anghywir yn y gwaith.
Beth yw chwythu’r-chwiban?
Caiff gweithiwr hysbysu am bethau nad ydynt yn iawn, neu sy'n anghyfreithlon, neu os oes unrhyw un yn y gwaith yn esgeuluso ei ddyletswyddau, gan gynnwys:
- Bod iechyd a diogelwch rhywun mewn perygl
- Niwed i’r amgylchedd
- Trosedd
- Y cwmni’n torri’r gyfraith (e.e. dim yswiriant priodol)
- Rhywun yn ceisio cuddio gweithred anghywir
Mae angen i bobl fod yn ddewr i godi pryder am y lle y maent yn gweithio ynddo. O 25 Mehefin 2013 ymlaen, mae’r gyfraith yn nodi y dylai'r rhai sy’n chwythu’r chwiban gredu bod eu datgeliad er lles y cyhoedd.
Pwy a ddiogelir?
- Cyflogai
- Gweithwyr asiantaeth
- Pobl sy’n hyfforddi gyda chyflogwr, ond nid wedi'u cyflogi.
- Gweithwyr hunangyflogedig, os ydynt yn cael eu goruchwylio neu’n gweithio oddi ar y safle
Bydd gweithiwr yn gymwys i gael ei ddiogelu os yw’n credu’n onest bod yr hyn y mae'n hysbysu amdano yn wir a’i fod o’r farn ei fod yn dweud wrth y person cywir.
Y ffordd y byddwn yn ymdrin â’ch cyfrinachedd
Byddwn yn ymdrin â’r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni mewn modd cyfrinachol, gallwch hefyd godi pryderon yn ddienw.
Os ydych yn dymuno codi pryder fel ‘chwythwr-chwiban’
Cyn cysylltu â ni, efallai y byddwch yn dymuno:
- Gofyn am gyngor gan eich undeb llafur neu gorff proffesiynol, os ydych yn aelod
- Siarad â’ch rheolwr llinell neu uwch aelod o staff am eich pryderon
- Darllen polisi chwythu’r chwiban eich cyflogwr; bydd hwn yn rhoi gwybodaeth am yr hyn y dylech ei wneud nesaf
Yr hyn y byddwn ni'n ei wneud
Pan fydd pryder wedi ei godi byddwn yn penderfynu o fewn 7 diwrnod ar y camau i'w cymryd.
Yn dibynnu ar natur y wybodaeth yr ydym yn ei derbyn, byddwn o bosibl yn gwneud un o’r canlynol:
- Atgyfeirio’r pryder i’r tîm diogelu plant neu oedolion lleol
- Atgyfeirio’r pryder i asiantaeth arall, fel yr awdurdod lleol neu'r bwrdd iechyd a gomisiynodd y gwasanaeth
- Arolygu’r cartref gofal neu ddarparwr y gwasanaeth
- Cyfarfod ag uwch reolwyr y sefydliad
- Cynnal ymchwiliad i'r cartref neu ddarparwr y gwasanaeth
- Cadw'r wybodaeth mewn cof ar adeg yr arolygiad nesaf
- Peidio â chymryd unrhyw gamau pellach