Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Sut rydym yn arolygu gwasanaethau oedolion a phlant

Gwybodaeth a chanllawiau ynglŷn â sut rydym yn arolygu gwasanaethau oedolion a phlant.

Dylid darllen cyfeiriadau at 'Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru' (AGGCC) yn y dogfennau ar y dudalen hon fel 'Arolygiaeth Gofal Cymru'.

Yr hyn rydym yn ei archwilio ac adrodd amdano

Pan fydd ein harolygwyr yn ymweld â gwasanaeth, byddant yn ystyried pedair thema graidd yn gyffredinol:

  • Lles
  • Gofal a chymorth
  • Yr amgylchedd
  • Arweinyddiaeth a rheolaeth

Pa mor aml rydym yn arolygu

Caiff pa mor aml y cynhelir ein harolygiadau ei nodi yn ein Cod Ymarfer.

Datganiad Blynyddol

Ceir rhagor o wybodaeth am gwblhau eich Datganiad Blynyddol ar ein tudalen Cyflwyno Datganiad Blynyddol.

Cymorth i ddarparwyr

Dylai darparwyr ddarllen ein cod ymarfer. Mae'n amlinellu sut rydym yn arolygu gwasanaethau sydd wedi'u cofrestru o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Dolen allanol).

O fis Ebrill 2025 ymlaen, bydd yr holl wasanaethau cymorth cartref a chartrefi gofal yn derbyn graddfeydd cyhoeddedig ar ôl arolygiad. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar ein fframwaith arolygu ar gyfer y gwasanaethau hyn a sut y byddwn yn dyfarnu graddfeydd, gan gynnwys adnoddau i gefnogi darparwyr gyda'r sgoriau to graddfeydd cyhoeddedig.

Rydym hefyd wedi cynhyrchu fframweithiau arolygu ar gyfer pob un o'r gwasanaethau oedolion a phlant nad ydynt yn dod o dan graddfeydd cyhoeddedig. Mae'r rhain yn nodi'r hyn y byddwn yn ei ystyried yn ein harolygiadau.