Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Sut rydym yn arolygu gwasanaethau oedolion a phlant

Gwybodaeth a chanllawiau ynglŷn â sut rydym yn arolygu gwasanaethau oedolion a phlant.

Dylid darllen cyfeiriadau at 'Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru' (AGGCC) yn y dogfennau ar y dudalen hon fel 'Arolygiaeth Gofal Cymru'.

Yr hyn rydym yn ei archwilio ac adrodd amdano

Pan fydd ein harolygwyr yn ymweld â gwasanaeth, byddant yn ystyried pedair thema graidd yn gyffredinol:

  • Lles
  • Gofal a chymorth
  • Yr amgylchedd
  • Arweinyddiaeth a rheolaeth

Pa mor aml rydym yn arolygu

Caiff pa mor aml y cynhelir ein harolygiadau ei nodi yn ein Cod Ymarfer.

Mae gennym ddau fath o arolygiad: llawn ac â phwyslais penodol.

Arolygiadau llawn

Maent yn arolygiadau arferol, sydd wedi'u cynllunio fel rhan o'n rhaglen arolygu.

Cynhelir arolygiadau llawn tua chwe mis ar ôl i wasanaeth sydd newydd ei gofrestru ddod yn weithredol. Yn dilyn hynny, caiff pa mor aml y cynhelir arolygiadau arferol ei nodi yn ein Cod Ymarfer.

Arolygiadau â phwyslais penodol

Fel arfer, cynhelir y rhain pan fydd pryderon yn cael eu lleisio neu i wneud gwaith dilynol ar feysydd i'w gwella a nodwyd mewn arolygiadau blaenorol. Mae'n bosibl y bydd yr arolygiadau hyn yn ystyried rhai agweddau ar y gwasanaeth yn unig.

Mae pob arolygiad o wasanaethau llety yn ddirybudd. Rhoddir rhybudd ar gyfer pob arolygiad o wasanaethau rheoleiddiedig eraill.

Datganiad Blynyddol

Ceir rhagor o wybodaeth am gwblhau eich Datganiad Blynyddol ar ein tudalen Cyflwyno Datganiad Blynyddol.

Cymorth i ddarparwyr

Dylai darparwyr ddarllen ein cod ymarfer. Mae'n amlinellu sut rydym yn arolygu gwasanaethau sydd wedi'u cofrestru o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Dolen allanol).

O dan adran 37 o Ddeddf 2016, gall Gweinidogion Cymru gyflwyno rheoliadau ar gyfer graddau y gellir eu rhoi mewn perthynas ag ansawdd y gofal a'r cymorth a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth yn dilyn arolygiad. Mae Gweinidogion Cymru yn anelu at gyflwyno'r rheoliadau hyn ym mis Ebrill 2024.

Rydym wedi cyhoeddi'r canllawiau drafft isod i ddarparwyr gwasanaethau sy’n nodi ein proses fesul cam ar gyfer cymhwyso graddau pan gynhelir arolygiadau llawn o wasanaethau cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref.

Rydym hefyd wedi llunio fframweithiau arolygu ar gyfer yr holl wasanaethau i oedolion a phlant y byddwn yn arolygu yn eu herbyn. Maent yn nodi'r hyn y byddwn yn ei ystyried yn ein harolygiadau.

Dogfennau