Mwy na geiriau
Fframwaith strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yw ‘Mwy na geiriau' a gyhoeddwyd yn 2016.
Cafodd ‘Mwy na geiriau: Fframwaith Strategol ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol’ ei gyhoeddi yn 2016 gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cafodd gwerthusiad annibynnol o fframwaith Mwy na geiriau (Dolen allanol) ei gyhoeddi yn 2021 a chafodd fersiwn wedi'i diweddaru o gynllun gweithredu Mwy na geiriau (Dolen allanol) ei llunio.
Mae cael gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhan hanfodol o ofal o ansawdd da sy'n seiliedig ar hawliau ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn. Dylai camau i fabwysiadu Mwy na geiriau a'i roi ar waith mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant helpu i wella ansawdd y gofal a'r canlyniadau ar gyfer pobl sy'n byw mewn gwlad ddwyieithog. Nod Mwy na geiriau yw creu lefel uwch o gydnabyddiaeth ymhlith darparwyr gwasanaethau bod defnyddio'r Gymraeg nid yn unig yn fater o ddewis ond hefyd yn fater o angen i lawer o bobl. Mae gan ddarparwyr gwasanaethau, felly, gyfrifoldeb i ddiwallu'r anghenion hyn.
Hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru: Gwneud ‘Cynnig Rhagweithiol’
Un o nodau craidd y fframwaith yw sicrhau bod pobl y mae angen gwasanaethau cyfrwng Cymraeg arnynt yn cael ‘Cynnig Rhagweithiol’. Hynny yw, bod gwasanaeth yn cael ei ddarparu drwy gyfrwng y Gymraeg heb fod angen i rywun ofyn am hynny. Mae’n golygu bod darparwyr yn naturiol yn rhagweld anghenion siaradwyr Cymraeg a hefyd yn hyrwyddo diwylliant Cymreig yn ogystal â’r iaith. Nid ydynt yn aros i rywun ofyn am wasanaeth yn Gymraeg ond yn hytrach maent yn ymgorffori ac yn hyrwyddo'r gred bod yn rhaid ystyried y gallu i ddefnyddio'r Gymraeg, os ydych yn siaradwr Cymraeg, fel elfen greiddiol o'ch gofal ac nid fel opsiwn ychwanegol.
Mae darparu ‘Cynnig Rhagweithiol’ yn golygu creu'r amgylchedd cywir lle mae plant/pobl yn teimlo eu bod wedi'u grymuso ac yn hyderus y caiff eu hanghenion eu diwallu. Mae’n gyfrifoldeb ar bawb sy’n darparu gwasanaethau gofal i bobl a’u teuluoedd ledled Cymru i hyrwyddo’r Gymraeg a’i diwylliant, gan roi’r person wrth wraidd gwasanaethau.
Gall pawb sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant wneud gwahaniaeth drwy ofyn iddyn nhw eu hunain “beth galla i ei wneud er mwyn helpu i wella'r ddarpariaeth Gymraeg ac er mwyn hyrwyddo diwylliant Cymru?”
Gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr.
Nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid i bawb fod yn rhugl yn y Gymraeg. Mae'r gallu i ddweud tipyn bach yn Gymraeg yn bwysig – gan gynnwys geiriau o gysur neu gynnig “paned”. Nid faint o eiriau Cymraeg rydych chi'n eu gwybod sy'n bwysig, ond eich bod yn eu defnyddio. Hyd yn oed os nad ydych yn siarad Cymraeg, gall rhywfaint o ddealltwriaeth o anghenion siaradwyr Cymraeg fod yn werthfawr iawn.
Rôl AGC wrth hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru
Ar y cam cofrestru
Dylai pob darparwr gofal gynnwys gwybodaeth am y gwasanaethau y gellir eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ei Ddatganiad o Ddiben.
Yn ystod y cyfweliad person addas â'r Unigolion / Personau Cyfrifol, byddwn am wybod fel arweinwyr sut y maent yn bwriadu hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru yn y gwasanaeth.
Wrth adolygu perfformiad awdurdodau lleol
Fel rhan o bob arolygiad a gwiriad sicrwydd, byddwn yn adolygu'r ‘Cynnig Rhagweithiol’. Mae hyn yn golygu y byddwn yn ystyried y dystiolaeth a gasglwyd yn ystod arolygiadau er mwyn llunio barn yn yr adroddiad neu'r llythyr yn nodi i ba raddau y mae awdurdodau lleol yn hyrwyddo'r ‘Cynnig Rhagweithiol’ ar gyfer y Gymraeg. Byddwn hefyd yn ystyried y ‘Cynnig Rhagweithiol’ fel rhan o'n gweithgarwch perfformiad ac adolygu parhaus (e.e mewn cyfarfodydd ag uwch-reolwyr ac arweinwyr).
Wrth arolygu gwasanaeth rheoleiddiedig
Mae ein fframweithiau arolygu yn cynnwys yr angen i adrodd ar b'un a yw gwasanaeth yn hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru.
Byddwn yn ystyried amrywiaeth o ffynonellau tystiolaeth. Er enghraifft, arsylwadau, trafodaethau â phlant/pobl, teuluoedd a staff ac adolygiadau o gynlluniau personol.
Dylai pob darparwr gofal gynnwys gwybodaeth am y gwasanaethau y gellir eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ei Ddatganiad o Ddiben.
Yn ogystal â'r enghreifftiau isod, cyfeiriwch hefyd at Mwy na geiriau – Gwireddu'r Cynnig Rhagweithiol – Pecyn Gwybodaeth (Dolen allanol) sy'n cynnwys enghreifftiau o ‘Sut mae gweithredu'r Cynnig Rhagweithiol yn edrych?’.
Gellir hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru mewn sawl gwahanol ffordd a does dim angen iddo fod yn gostus. Dyma rai enghreifftiau:
Mae'n bwysig cydnabod ymdrechion darparwyr ac ystyried amgylchiadau lleol. Mae angen i ni fod yn gymesur ac yn rhesymol.
Enghreifftiau ar gyfer y themâu
Llesiant
- Mae'r plant yn ymgysylltu'n hawdd â'u ffrindiau a'r ymarferwyr yn Gymraeg ac yn Saesneg
- Er mai lleoliad Saesneg yw'r gwasanaeth, caiff y bobl y mae'r Gymraeg yn famiaith iddynt eu hannog a'u cefnogi i siarad Cymraeg
- Roedd llesiant y bobl yn well am fod eu hanghenion Cymraeg yn cael eu deall a'u diwallu
- Gall y bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n hyrwyddo diwylliant Cymru ac mae adnoddau Cymraeg, fel llyfrau, ar gael ac yn hawdd cael gafael arnynt
Gofal a Datblygiad/Cymorth
- Mae'r bobl/y plant yn cael gofal gan staff a all ddiwallu eu hanghenion Cymraeg.
- Mae'r wybodaeth am y gwasanaeth, yr asesiadau a'r ddogfennaeth gofal, ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg.
Arweinyddiaeth a Rheolaeth
- Mae'r bobl/y plant yn derbyn gwasanaethau lle mae'r bobl sy'n rhedeg y lleoliad/uwch-reolwyr yn hyrwyddo ac yn cefnogi'r Gymraeg a diwylliant Cymru
- Caiff anghenion o ran y Gymraeg a diwylliant Cymru eu hadolygu'n rheolaidd ac fel rhan o'r adolygiad blynyddol o ansawdd y gofal.
- Mae prosesau recriwtio, cyfleoedd dysgu a datblygu, strwythurau staffio a rotas yn ystyried sgiliau Cymraeg y staff.
- Mae arweinyddiaeth gadarn er mwyn sicrhau bod y bobl yn cael gwasanaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Yr Amgylchedd
- Mae'r bobl yn byw mewn amgylchedd sy'n ystyried eu hanghenion Cymraeg. Mae arwyddion Cymraeg a Saesneg o amgylch y safle.
- Mae cyfarpar a deunyddiau ar gael i'r bobl/y plant sy'n briodol i'w hanghenion Cymraeg.
Byddwn yn cofnodi ein canfyddiadau yn ein hadroddiadau arolygu, a byddwn yn nodi a yw'r gwasanaeth yn darparu neu'n gweithio tuag at hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru neu'n nodi nad yw'n gwneud ymdrech sylweddol i wneud hynny.
Mae'r canllawiau ymarfer isod yn nodi ein dull o ystyried pa mor dda y mae'r Gymraeg a'r diwylliant Cymreig yn cael ei hyrwyddo mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant.