Sut byddwn yn helpu i weithredu 'Mwy na Geiriau: cynllun gweithredu'.
'Mwy na geiriau/More than just words: Cyhoeddwyd Fframwaith Strategol ar gyfer Hyrwyddo'r Iaith Gymraeg ym maes Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol yn 2016, gan y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol.
Bwriad y fframwaith oedd sicrhau bod sefydliadau yn cydnabod bod iaith yn rhan gynhenid o ofal, a bod pobl sydd angen gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu cynnig. Gelwir hyn y 'Cynnig Gweithredol'.
Bwriad y Mwy na geiriau: cynllun gweithredu yw adeiladu ar y strategaeth flaenorol, yn ogystal ag adlewyrchu newidiadau yn y cyd-destun gwleidyddol a deddfwriaethol.
Rydym yn destun i Safonau Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru.
Beth mae’r 'Cynnig Gweithredol' yn ei olygu?
Mae’r ‘Cynnig Gweithredol’ yn golygu bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu trwy gyfrwng y Gymraeg heb i rywun orfod gofyn amdano.
Cyfrifoldeb pawb sy'n darparu gwasanaethau gofal i bobl a'u teuluoedd ledled Cymru yw darparu'r 'Cynnig Gweithredol'.
Yr hyn y byddwn yn ei wneud
Rydym wedi derbyn y dasg o brif ffrydio’r gwaith o arolygu cynlluniau, darpariaeth a phrofiad o wasanaethau iaith Gymraeg erbyn mis Mawrth 2019.
Byddwn yn cynnwys amcanion y fframwaith strategol wrth i ni ddatblygu methodoleg, prosesau ac adroddiadau arolygu newydd. Fel rhan o'n harolygiadau byddwn yn edrych ar y ‘Cynnig Gweithredol’, ac yn nodi a yw’n cael ei wneud ar gyfer pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth.
Enghreifftiau o wasanaeth gofal sy'n darparu 'Cynnig Gweithredol'
- mae'r system gweithiwr allweddol yn sicrhau bod aelodau o staff ‘a enwir’ yn cael eu 'paru’ â phlant ac oedolion sy'n siarad Cymraeg
- mae arwyddion yn y gwasanaeth yn helpu i gyfeiriadu defnyddwyr sy'n siarad Cymraeg
- Mae llyfrau, papurau newydd ac adnoddau Cymraeg eraill ar gael, neu gallant fod ar gael, i blant neu oedolion sy'n siarad Cymraeg.
Cymorth ar gyfer staff i gyflwyno 'Cynnig Gweithredol'
Mae'n bwysig bod staff yn cynnig gwasanaethau Cymraeg ar gyfer y bobl hynny sy'n defnyddio'r gwasanaeth, yn hytrach na disgwyl iddynt ofyn amdanynt. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu pecyn (Dolen allanol) i helpu staff i wneud 'Cynnig Gweithredol'.