Adolygiad o'r cymorth gofal iechyd i bobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal yng Ngogledd Cymru
Roedd hwn yn adolygiad ar y cyd rhyngom ni ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC).
Wedi'i gynnal gennym ni ac AGIC, gwnaeth y prosiect peilot hwn ystyried pa mor dda y diwallwyd anghenion gofal iechyd pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal yng Ngogledd Cymru, a sut y gallai'r ddwy arolygiaeth gydweithio ar y mater hwn.
Deilliodd hyn o adolygiad gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, “Lle i’w Alw’n Gartref?”
Canfyddiadau
Nododd yr adroddiad fod rhai materion cyffredin ym mhob gwasanaeth y mae angen mynd i'r afael â nhw er mwyn rhoi gofal di-dor o ansawdd da i bobl sy'n byw mewn cartrefi gofal.
Ymhlith y rhain roedd bod yn glir ynghylch rolau a chyfrifoldebau rhwng cartrefi gofal a'r bwrdd iechyd; cyfathrebu gwell rhwng cartrefi gofal a'r bwrdd iechyd er mwyn ei gwneud yn bosibl i adborth gael ei roi yn barhaus; a sefydliadau'n gweithio gyda'i gilydd er budd pennaf y bobl y maent yn eu cefnogi.
Meysydd i'w gwella
Gwnaeth yr adolygiad nodi meysydd i'w gwella i'r bwrdd iechyd eu datblygu, gan gynnwys y canlynol:
- Gweithio gyda chartrefi gofal i nodi hyfforddiant er mwyn cynnal hyder a chymhwysedd gweithwyr gofal i reoli anghenion iechyd arferol preswylwyr.
- Datblygu pecyn gwybodaeth sy'n nodi'r hyn sydd ar gael i bobl sy'n byw mewn cartrefi gofal a'r ffordd y gellir cael gafael arno, ynghyd â phwyntiau cyswllt penodol i gael gwybodaeth ac adborth.
- Gweithio gyda'r sector cartrefi gofal i nodi pryderon a materion sy'n ymwneud â chymorth ymataliaeth a sut yr eir i'r afael â'r rhain.
- Sicrhau bod adnoddau digonol ar gael i ddiwallu anghenion pobl â dementia mewn cartrefi gofal a bod gwasanaethau yn cael eu darparu mewn ffordd amserol a chyson ledled Gogledd Cymru.
Lawrlwytho dogfennau
- File size:961 KB