Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Adolygiad cenedlaethol o ddefnyddio Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) yng Nghymru 2022-23

Canfyddiadau allweddol ac argymhellion o'n hadolygiad ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC).

Ar y cyd ag AGIC, ni sy'n gyfrifol am fonitro ac adrodd ar DoLS, ac yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar y ceisiadau a dderbynnir gan Fyrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol bob blwyddyn.

Beth yw'r Trefniadau Diogelu?

Mae'r Trefniadau Diogelu yn bodoli er mwyn grymuso ac amddiffyn unigolion nad oes ganddynt alluedd meddyliol. Maent yn darparu fframwaith cyfreithiol er mwyn atal achosion o dorri'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol gan fod yn rhaid cael awdurdodiad cyn y gellir amddifadu unigolyn o'i ryddid.

Canfyddiadau Allweddol 2022-23

Darllenwch yr adroddiad llawn a'r holl ganfyddiadau allweddol isod.

  • Bu cynnydd o 18% yn nifer y ceisiadau DoLS a aseswyd gan yr awdurdodau lleol o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
  • Bu cynnydd o 32% yn nifer y ceisiadau DoLS a aseswyd gan fyrddau iechyd yn 2022-23 o gymharu â'r ffigurau a welwyd yn 2021-22.
  • Mae'r oedi hir cyn dyrannu, asesu ac awdurdodi ceisiadau yn parhau i olygu bod llawer o bobl yng Nghymru yn cael eu hamddifadu o'u rhyddid, heb fod unrhyw amddiffyniad cyfreithiol ar waith nac unrhyw gyfle i herio wrth aros i benderfyniad gael ei wneud. Rhaid i'r cyfnod o amser y mae'n ei gymryd i asesu ceisiadau wella a rhaid iddynt gael eu cwblhau o fewn y terfyn amser statudol.
  • Daw llawer o awdurdodiadau brys i ben cyn y gellir cynnal yr asesiadau DoLS gofynnol. Gallai fod o fudd i rai awdurdodau lleol a byrddau iechyd adolygu eu gweithdrefnau presennol ar gyfer awdurdodiadau brys ar y cyd â'r awdurdodau rheoli. 
  • Ni all y rhan fwyaf o awdurdodau lleol a byrddau iechyd ddyrannu nifer y ceisiadau a geir am awdurdodiadau pellach. Rhaid i bob corff goruchwylio sicrhau y caiff hawliau pobl eu hamddiffyn, ac y caiff yr asesiadau ar gyfer pob cais eu cynnal o fewn y nifer o ddiwrnodau a nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer DoLS.
  • Mae defnydd awdurdodau lleol a byrddau iechyd o amodau yn amrywio, gyda rhai rhanbarthau yn eu defnyddio'n fwy nag eraill. Dylai cyrff goruchwylio sicrhau y caiff amodau eu defnyddio lle bo angen a'u bod yn canolbwyntio ar wella canlyniadau i bobl, gan gynnwys lleihau neu roi'r gorau i'r amddifadu.
  • Caiff y rhan fwyaf o bobl eu cefnogi a'u cynrychioli mewn materion sy'n ymwneud â'u hamddifadu o'u rhyddid. Rhaid i gyrff goruchwylio barhau i sicrhau y caiff “cynrychiolydd person perthnasol” ei benodi ar gyfer pob awdurdodiad.