Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Adroddiad Trosolwg: Arolygiad ar y Cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant 2019 – 2024

Aeth yr adolygiad ati i ystyried yr ymateb amlasiantaethol i achosion o gam-drin ac esgeuluso plant yn ardaloedd chwe bwrdd diogelu rhanbarthol Cymru rhwng 2019 a 2024.

Gwaith trawsarolygiaeth oedd yr Arolygiadau hyn ar y cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant, a wnaed gennym ni, Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS), Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Estyn. 

Cynhaliwyd arolygiadau yng Nghasnewydd (2019), Castell-nedd Port Talbot (2021), Sir Ddinbych (2023), Pen-y-bont ar Ogwr (2023), Powys (2023) a Chaerdydd (2024).

Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu'r prif ganfyddiadau am effeithiolrwydd trefniadau gweithio mewn partneriaeth a gwaith asiantaethau unigol ledled Cymru. 

I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch yr adroddiad llawn isod.