Adolygiad cenedlaethol o ddefnyddio Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) yng Nghymru 2023-24
Canfyddiadau allweddol ac argymhellion ein hadolygiad ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC).
Ar y cyd ag AGIC, rydym yn gyfrifol gyda'n gilydd am fonitro ac adrodd ar y Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid, ac rydym yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar y ceisiadau a dderbynnir gan Fyrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol bob blwyddyn.
Mae'r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid yn cynnig amddiffyniadau cyfreithiol hanfodol i rai o'n dinasyddion mwyaf agored i niwed. Diben y trefniadau diogelu hyn yw amddiffyn a chynnal hawliau dynol pobl nad oes ganddynt y galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau penodol ynghylch eu gofal a'u triniaeth. Maent yn sicrhau bod pob penderfyniad yn cael ei wneud er lles pennaf yr unigolyn, gan warantu ar yr un pryd bod unrhyw gyfyngiadau ar ei ryddid yn briodol ac yn gymesur.
Mae'r trefniadau diogelu yn darparu fframwaith cyfreithiol clir i gartrefi gofal ac ysbytai ei ddilyn pan fyddant yn gofalu am oedolion 18 oed a throsodd nad ydynt yn gallu cydsynio i'w triniaeth neu eu trefniadau gofal. Mae'r fframwaith hwn yn helpu i atal achosion posibl o dorri'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
Canfyddiadau allweddol
- Cafwyd cynnydd pellach o 7% (494) yn nifer y ceisiadau a dderbyniwyd gan fyrddau iechyd yn ystod 2023-24, a chafwyd gostyngiad cyffredinol o 2% (258) yn nifer y ceisiadau i awdurdodau lleol.
- Er gwaethaf ymdrechion gorau'r awdurdodau lleol a'r byrddau iechyd, mae'r data a gyflwynwyd gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn parhau i ddangos bod nifer uchel o bobl sy'n aros am asesiad o dan y Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid yn wynebu oedi cyn i'w cais gael ei ddyrannu i aseswr. Mae hyn yn arwain at oedi cyn cwblhau asesiadau, oedi cyn cymeradwyo awdurdodiadau, ac o bosibl at gyfnodau estynedig lle caiff unigolion eu hamddifadu mewn modd anghyfreithlon.
- Mae'r oedi hir cyn dyrannu, asesu ac awdurdodi ceisiadau yn parhau i olygu bod llawer o bobl yng Nghymru yn cael eu hamddifadu o'u rhyddid heb fod unrhyw amddiffyniad cyfreithiol ar waith nac unrhyw gyfle i herio wrth aros i benderfyniad gael ei wneud.
- Cafwyd cynnydd o 41% (778) yn nifer y ceisiadau a aseswyd gan fyrddau iechyd yng Nghymru, a chafwyd gostyngiad o 5% (520) yn nifer y ceisiadau a aseswyd gan awdurdodau lleol.
- Rhaid gwella'r cyfnod o amser y mae'n ei gymryd i awdurdodau lleol a byrddau iechyd asesu'r ceisiadau, gan nad yw llawer o geisiadau yn cael eu hasesu o fewn y terfynau amser statudol.
- Mae llawer o awdurdodiadau brys yn parhau i ddod i ben cyn y gellir cwblhau'r asesiadau gofynnol o dan y Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid. Byddai o bosibl yn fuddiol i rai awdurdodau lleol adolygu eu gweithdrefnau presennol ar gyfer awdurdodiadau brys gyda'r awdurdodau rheoli.
- Fel y nodwyd mewn adroddiadau blaenorol, mae llawer o awdurdodau lleol yn ei chael hi'n anodd dyrannu nifer y ceisiadau a dderbynnir ganddynt ar gyfer awdurdodiadau pellach. Mae hyn, unwaith eto, yn cynyddu'r risg y caiff pobl eu hamddifadu o'u rhyddid heb fod y mesurau diogelu yn parhau ar waith i'w hamddiffyn. Rhaid i bob corff goruchwylio sicrhau y caiff hawliau pobl eu diogelu ac y caiff asesiadau ar gyfer pob cais eu cynnal o fewn y nifer o ddiwrnodau a nodwyd yn unol â'r Cod Ymarfer.
- Mae'r defnydd o amodau gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn amrywio, gyda rhai rhanbarthau yn eu defnyddio fwy nag eraill. Dylai Cyrff Goruchwylio barhau i sicrhau bod amodau yn cael eu defnyddio lle bo angen a'u bod yn canolbwyntio ar wella canlyniadau i bobl gan gynnwys lleihau neu ddileu'r trefniadau amddifadu.
- Mae'r rhan fwyaf o bobl yn parhau i gael eu cefnogi a'u cynrychioli mewn materion sy'n ymwneud â'u hachos amddifadu o ryddid. Rhaid i Gyrff Goruchwylio barhau i sicrhau y caiff “cynrychiolydd unigolyn perthnasol” ei benodi ar gyfer pob awdurdodiad.
- Rhaid gwella'r broses ar gyfer cofnodi ethnigrwydd, gan nad yw 22% o geisiadau i awdurdodau lleol ac 16% o geisiadau i Fyrddau Iechyd yn cofnodi ethnigrwydd yr ymgeisydd.