Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Cofrestru gwasanaeth gofal plant a chwarae

Gwybodaeth a chanllawiau i'ch helpu i gofrestru gwasanaeth.

Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth ac arweiniad i'ch helpu i gofrestru gwasanaeth gofal plant neu chwarae ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Mae gwasanaethau gofal plant a chwarae yng Nghymru yn cynnwys mathau amrywiol o ddarpariaeth, fel meithrinfeydd dydd, cylchoedd chwarae, crèches a gwarchodwyr plant. Er bod y broses gofrestru yn debyg ar y cyfan, ceir rhai gwahaniaethau yn dibynnu ar y math o wasanaeth rydych yn bwriadu ei gynnig. Mae'r dudalen hon yn amlinellu'r camau a'r gofynion ar gyfer gwasanaethau gofal dydd a chwarae a gwarchodwyr plant.

Pwy sydd angen cofrestru

Nid oes rhaid i bob darparwr sy'n cynnig gofal plant, chwarae a gweithgareddau i blant gofrestru ag AGC. Mae Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (Dolen allanol) yn nodi amgylchiadau lle nad yw'n ofynnol cofrestru.

Mae'r angen i chi gofrestru yn dibynnu ar ffactorau fel y canlynol:

  • y math o ddarpariaeth
  • oriau gweithredu
  • cydberthynas â'r plentyn
  • ble mae'r gofal yn cael ei roi
  • oedran y plant

Bydd angen i chi gofrestru os byddwch yn darparu:

  • gofal dydd llawn, gan gynnwys meithrinfeydd dydd
  • gofal y tu allan i'r ysgol
  • gofal dydd sesiynol, megis cylchoedd chwarae
  • crèches
  • darpariaeth mynediad agored
  • gwasanaethau gwarchod plant

Darllenwch Cofrestru fel darparwr gofal plant: eithriadau (Dolen allanol) ar wefan Llywodraeth Cymru i weld a ydych yn gymwys i gofrestru ag AGC.

I gael rhagor o fanylion ynghylch pwy sydd angen cofrestru a'r broses gofrestru, darllenwch ein canllaw i gofrestru.

Cyn i chi wneud cais

Cyn dechrau'r broses gofrestru, dylech ystyried y camau isod yn seiliedig ar y math o wasanaeth rydych yn bwriadu ei gynnig.

Gwasanaethau gofal dydd a chwarae

Cymwysterau a hyfforddiant (gwasanaethau gofal dydd a chwarae)

Mae'r rhestr lawn o gymwysterau ac unedau hyfforddiant y mae'n rhaid i chi ddangos tystiolaeth ohonynt fel rhan o'ch cais i gofrestru ar gael gan y canlynol:

Gwarchodwyr plant

Os ydych chi'n ystyried bod yn warchodwr plant cofrestredig, mae cymorth ac arweiniad ychwanegol ar gael. Gallwch ddilyn Camau i Gofrestru Coram PACEY Cymru [Dolen allanol] i gael trosolwg llawn o'r broses.

Fel cam cyntaf, dylech fynd i sesiwn friffio. Caiff y rhain eu trefnu fel arfer gan eich gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd lleol neu Coram PACEY Cymru.

Er mwyn gwneud cais i ddod yn warchodwr plant cofrestredig, rhaid i chi fodloni'r canlynol:

Cymwysterau a hyfforddiant (Gwarchodwyr plant)

Er mwyn cofrestru fel gwarchodwr plant, rhaid i chi naill ai feddu ar gymhwyster perthnasol neu gwblhau'r ddwy uned hyfforddiant ganlynol:

  • Cyflwyniad i ofal plant yn y cartref (Uned 326)
  • Paratoi ar gyfer ymarfer gwarchod plant (Uned 327)

Gallwch gadarnhau p'un a yw eich cymhwyster cyfredol yn bodloni'r gofynion, neu gael rhagor o wybodaeth am yr unedau hyfforddiant hyn drwy fynd i dudalen we fframwaith cymwysterau ar gyfer gwarchodwyr plant Gofal Cymdeithasol Cymru.

Bydd angen hyfforddiant gorfodol arnoch hefyd yn y meysydd canlynol:

  • Cymorth cyntaf pediatrig
  • Diogelu
  • Hylendid bwyd

Cysylltwch â gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd eich awdurdod lleol (Dolen allanol) neu Coram PACEY Cymru (Dolen allanol) i gael gwybodaeth am yr hyfforddiant a'r cymorth sydd ar gael yn eich ardal.

Sut i gofrestru

Er mwyn cofrestu gwasanaeth ag AGC, mae'n rhaid i chi gyflwyno cais drwy ddefnyddio AGC Ar-lein.

Gall yr asesiad o'r cais gymryd hyd at 3 mis. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn gwneud y canlynol:

  • asesu eich dogfennaeth
  • cynnal asesiad person addas a chyfweliad
  • ymweld â'ch cartref neu eich safle i gynnal gwiriad o'r amgylchedd

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn cael tystysgrif cofrestru a gallwch ddechrau gweithredu fel gwarchodwr plant cofrestredig. 

Rheoliadau a datganiad o ddiben

Rhaid i bob gwasanaeth cofrestredig gydymffurfio â Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 fel y'u diwygiwyd yn 2016, a chyrraedd y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer gofal plant rheoleiddiedig.

Datganiad o ddiben

Rhaid i chi gyflwyno Datganiad o Ddiben fel rhan o'ch cais. Gallwch ddefnyddio'r templed yn ein Canllawiau ar gyfer Llunio Datganiad o Ddiben neu ddefnyddio eich fformat amgen eich hun, ar yr amod ei fod yn bodloni gofynion Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 ac yn cynnwys pob un o'r pwyntiau o dan Safon Ofynnol Genedlaethol 1.2.

Dolenni defnyddiol

Dyma rai adnoddau defnyddiol i'ch cefnogi drwy gydol y broses.

Coram PACEY Cymru

Gofalwn Cymru

Llywodraeth Cymru

Busnes Cymru

Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF)