
Gwybodaeth am sut i gyflwyno cais am archwiliadau gan y Gwasanaeth Datgelu.
Rydym eisiau sicrhau bod pobl sy'n derbyn gwasanaethau yn ddiogel.
Mae'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn gyfrifol am y canlynol:
- Prosesu ceisiadau am wiriadau o gofnodion troseddol
- Penderfynu a yw'n briodol rhoi unigolyn ar restr wahardd neu ei dynnu oddi arni
- Ychwanegu neu dynnu pobl oddi ar restr wahardd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer plant ac oedolion yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.
Mae'n ofynnol i ni rannu gwybodaeth â'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd pan fo angen.
Newidiadau o ran sut y gallwch wneud cais am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Rydym wedi newid y ffordd yr ydym yn prosesu gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Os ydych yn cofrestru gyda ni am y tro cyntaf neu rydych eisoes wedi’ch cofrestru gyda ni, ond bod angen i chi adnewyddu eich gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac rydych yn gymwys, mae'n rhaid i chi wneud cais drwy ddilyn y broses newydd.
Pwysig: Nid ydym bellach yn darparu ffurflenni papur ar gyfer ceisiadau i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae'n rhaid i chi ddefnyddio ein gwasanaeth ar lein i gael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Pwy sy'n gorfod gwneud cais am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Mae'n rhaid i'r holl weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru feddu ar dystysgrif gyfredol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd sy'n cynnwys gwiriad 'Manylach â Rhestr Wahardd' ar gyfer y gweithlu perthnasol. Gall y rhan fwyaf o bobl gael eu gwiriad drwy eu cyflogwr neu gorff ymbarél.
Os nad yw hyn yn bosibl ac rydych yn dymuno cyflwyno cais i gofrestru gyda ni, neu os ydych yn adnewyddu eich tystysgrif, gallwn eich helpu chi gyda'ch gwiriad.
Gallwch wneud cais am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd drwy ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein os ydych yn gwneud un o'r swyddi canlynol neu os ydych yn un o'r canlynol:
- Unigolyn cofrestredig
- Unigolyn cyfrifol
- Gwarchodwr plant
- Cynorthwyydd Gwarchodwr Plant
- Aelod o'r cartref (gwarchodwr plant)
- Unigolyn sy'n byw 'ar y safle' neu mewn rhandy cyffiniol neu fflat.
Sut i wneud cais am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
- Mae'n rhaid i chi gysylltu ag un o'n swyddfeydd er mwyn gofyn am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
- Byddwn yn cadarnhau os ydych yn gymwys am wiriad ac os nad yw'n bosibl i chi gwblhau eich gwiriad drwy eich cyflogwr
- Unwaith i ni gadarnhau hyn byddwn yn eich cyfeirio at ein darparwr trydydd parti
- Byddwch yn cael e-bost cadarnhau gan ein cyflenwr trydydd parti a fydd yn cynnwys y manylion mewngofnodi y bydd arnoch eu hangen er mwyn cwblhau eich cais ar-lein i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
- Mae'n rhaid i chi ddefnyddio'r manylion hyn i fewngofnodi i'n gwasanaeth ar-lein a chwblhau eich cais am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
- Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich cais i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, rhoddir manylion i chi ynglŷn â sut y gallwch wneud cais yn un o'n swyddfeydd er mwyn caniatáu i ni wirio eich hunaniaeth (gwiriad adnabod)
- Mae'n rhaid i chi fynychu eich apwyntiad er mwyn gwirio eich dogfennau adnabod lle y byddwn yn gwirio eich hunaniaeth
- Yn ystod argyfwng COVID-19, cynhelir gwiriadau prawf adnabod drwy gyswllt fideo, sef Skype for business (nid oes modd defnyddio apiau megis WhatsApp a Zoom)
- Unwaith i ni sicrhau eich hunaniaeth, byddwn yn cadarnhau hyn gyda'n darparwr trydydd parti
- Bydd ein darparwr trydydd parti'n cydlofnodi eich cais i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac yn ei anfon at y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd er mwyn ei brosesu
- Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cynnal ei wiriadau ac yn cyflwyno eich tystysgrif Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd i chi. Byddant hefyd yn rhoi gwybod i ni pan fydd eich gwiriad wedi cael ei gwblhau, a'r canlyniad
- Os yw tystysgrif yn cynnwys gwybodaeth 'gadarnhaol' er enghraifft, euogfarnau, neu restrau gwahardd, wedyn byddwn yn ystyried hyn ymhellach.
A oes modd i mi ddefnyddio fy nhystysgrif bresennol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd pan fyddaf yn gwneud cais i gofrestru?
Ar gyfer y rhan fwyaf o wasanaethau (ar wahân i'r rheini sydd wedi'u cofrestru o dan y Ddeddf Safonau Gofal 2000) (Dolen allanol) caniateir i chi ddefnyddio eich tystysgrif Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gyfredol i gefnogi eich cais i gofrestru yn yr achosion canlynol:
- Nid yw'n fwy na thri mis ers y dyddiad cyhoeddi gwreiddiol
- Mae ar gyfer gwiriad manylach gyda'r rhestr wahardd ac yn ymwneud â'r gweithlu yr ydych yn gwneud cais amdano
- Rydym wedi gweld eich tystysgrif wreiddiol
Os nad ydych yn gallu bodloni'r gofynion uchod, bydd angen i chi wneud cais newydd i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Cofrestru gyda Gwasanaeth Diweddaru'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Mae Gwasanaeth Diweddaru'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn eich galluogi i gadw eich tystysgrif Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Saesneg yn unig, Dolen allanol) yn gyfredol er mwyn caniatáu i chi fynd â hi gyda chi pan fyddwch yn newid swydd neu rôl o fewn yr un gweithlu.
Mae cofrestru gyda Gwasanaeth Diweddaru'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn golygu na fydd angen i chi adnewyddu'ch tystysgrif cyhyd â'ch bod yn cynnal eich tanysgrifiad blynyddol ac mae eich tystysgrif yn parhau i fod yn 'gyfredol' – hynny yw, nid oes unrhyw wybodaeth newydd yn cael ei datgelu.
Gallwch gofrestru ar gyfer Gwasanaeth Diweddaru'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wrth i chi gwblhau eich ffurflen gais ar-lein.
Os ydych yn dewis tanysgrifio i'r Gwasanaeth Diweddaru yn ystod y cyfnod cyn Ebrill 1 2019, bydd Llywodraeth Cymru yn talu eich ffi o £13 drwy ein gwasanaeth ar-lein. Os ydych yn tanysgrifio, bydd angen i ni weld y dystysgrif wreiddiol a ddefnyddiwyd gennych i danysgrifio i'r gwasanaeth (os yw'n cynnwys gwybodaeth) a chael caniatâd gennych i gynnal gwiriadau cyfnodol o statws eich tystysgrif ar-lein.
Gweithredir y Gwasanaeth Diweddaru gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar ei wefan. (Saesneg yn unig, Dolen allanol)
Lawrlwytho dogfennau
- File size:466 KB
- File size:518 KB