Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Cofrestru gwasanaeth gofal plant a chwarae

Gwybodaeth a chanllawiau i'ch helpu i gofrestru gwasanaeth.

Pwy sydd angen cofrestru?

  • Gwasanaethau gofal a chwarae dydd:
    • gofal dydd llawn, gan gynnwys meithrinfeydd dydd
    • gofal y tu allan i'r ysgol
    • gofal dydd sesiynol, megis cylchoedd chwarae
    • crèches
    • darpariaeth mynediad agored
  • Gwarchodwyr plant

Sut i gofrestru

I gofrestru gwasanaeth gyda ni, mae'n rhaid i chi gwblhau a chyflwyno cais i gofrestru drwy ddefnyddio AGC Ar-lein (Dolen allanol).

Mae gofyn i chi feddu ar dystysgrif gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) fel rhan o'r broses hon. Heb dystysgrif gan y DBS, ni fyddwch yn gallu cyflwyno eich cais Gofal Plant a Chwarae. Os nad oes gennych dystysgrif, gallwch ddysgu mwy am sut i wneud cais am wiriad gan y DBS yn yr adran o'n gwefan sy'n trafod gwiriadau gan y DBS.

Cyn i chi wneud cais

Cyn i chi ddechrau'r broses gofrestru, dylech ddilyn y camau isod:

Gwasanaethau gofal a chwarae dydd:

Gwarchodwyr plant:

Cymwysterau

Mae'r rhestr lawn o unedau / cymwysterau sydd eu hangen arnoch fel rhan o'ch cais i gofrestru ar gael ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru (Dolen allanol) neu Chwarae Cymru (Dolen allanol) 

Gofal plant di-dreth

Y prif bethau y dylech eu gwybod gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) am Ofal plant di-dreth. (Dolen allanol).

Datganiad o Ddiben

Mae'r templed Datganiad o Ddiben a'r Canllawiau sydd wedi'u hatodi isod ar gael i'ch helpu wrth lunio eich Datganiad o Ddiben. Os byddwch yn defnyddio fformat amgen, mae'n rhaid iddo gydymffurfio â Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 ac, fel gofyniad sylfaenol, gynnwys gwybodaeth am yr holl bwyntiau o dan Safon Ofynnol Genedlaethol 1.2 o Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir 2010.