Rydym wedi bod yn cynllunio ein gwasanaethau ar-lein, sef 'AGC Ar-lein' er mwyn cefnogi ein gwaith a'i gwneud yn haws i ddarparwyr a phobl gysylltu â ni a gweithio gyda ni.
Yr hyn y gallwch ei wneud ar-lein
Rydym wedi bod yn cyflwyno ein gwasanaethau ar-lein yn raddol.
Unigolion Cyfrifol Gwasanaethau Oedolion a Phlant
Rhaid i Unigolion Cyfrifol gwasanaethau oedolion a phlant gynnal eu holl fusnes â ni yn awr gan ddefnyddio AGC Ar-lein (Dolen allanol).
Rhaid i wasanaethau newydd sydd am gofrestru o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 gyflwyno cais i gofrestru gan ddefnyddio AGC Ar-lein (Dolen allanol).
Darparwyr gofal plant a chwarae
Rhaid gwasanaethau gofal plant a chwarae wasanaethau gynnal eu holl fusnes â ni yn awr gan ddefnyddio AGC Ar-lein (Dolen allanol).
Rhaid i wasanaethau newydd sydd am gofrestru i gofrestru gan ddefnyddio AGC Ar-lein (Dolen allanol).
Hysbysiadau ac Amrywiadau
Rhaid i ddarparwyr sydd wedi cofrestru â ni gyflwyno hysbysiadau ac amrywiadau ar-lein i wneud newidiadau i'w gwasanaeth cofrestredig. Bydd darparwyr gofal plant a chwarae yn gallu cyflwyno hysbysiadau ac amrywiadau ar-lein o 6 Ionawr 2020.
Bydd yr holl wasanaethau ar-lein ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Sut ydw i'n defnyddio AGC Ar-lein?
Gall y bobl ganlynol ddefnyddio AGC Ar-lein (Dolen allanol):
- Darparwyr gofal plant a chwarae;
- Gwasanaeth cartref gofal
- Gwasanaeth llety diogel
- Gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd
- Gwasanaethau cymorth cartref
- Gwasanaethau mabwysiadu
- Gwasanaethau maethu
- Gwasanaethau lleoli oedolion
- Gwasanaethau eirioli
- Gwasanaethau gofal a chwarae dydd
- Gwarchodwyr plant
Creu cyfrif AGC Ar-lein
- Ewch i AGC Ar-lein (Dolen allanol)
- Dewiswch 'creu cyfrif newydd'
- Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin
- Er mwyn actifadu cyfrif newydd, bydd angen i chi ein ffonio fel y gallwn ddilysu eich manylion adnabod. Os caiff eich manylion adnabod eu cadarnhau yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn PIN actifadu. Mae'r PIN hwn yn rhoi mynediad llawn i chi i'n gwasanaethau ar-lein.
Cymorth ar-lein
Os bydd angen help arnoch wrth ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein neu os bydd gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost atom yn ciw@gov.wales neu ffoniwch 0300 7900126