Dewis gwasanaeth gofal
Gwybodaeth ac awgrymiadau gan ein harolygwyr i’ch helpu pan fyddwch yn dewis gwasanaeth gofal.
Rydym yn arolygu’r holl wasanaethau sy’n cofrestru gyda ni, ac yn cyhoeddi adroddiadau arolygu a allai eich helpu i wneud penderfyniad.
Yn yr adran hon gallwch ddarllen awgrymiadau gan ein harolygwyr ynglŷn â’r hyn i chwilio amdano pan fyddwch yn dewis gwasanaeth gofal i oedolion neu blant.
Ble y gallwch gael cymorth
Mae nifer o sefydliadau ar gael a all eich helpu drwy roi gwybodaeth a chymorth ychwanegol i chi.
Y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn rhoi cyngor ac arweiniad diduedd i holl rieni a gofalwyr plant a phobl ifanc rhwng 0 ac 20 mlwydd oed ac i’r rhai sy’n gweithio gyda nhw. Ewch i wefan Llywodraeth Cymru(Dolen allanol) i gael rhestr lawn o holl fanylion cyswllt y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.
Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu gwybodaeth am ddewis gofal plant a chymorth i rieni a chymorth ariannol gyda chostau gofal plant. (Dolen allanol) Gallwch ofyn am gopi caled oddi wrth eich GGD agosaf.
CartrefiGofal.Cymru
Gan dynnu ar wybodaeth a ddarperir gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a chan ddarparwyr cartrefi gofal yn uniongyrchol, mae gwefan CartrefiGofal.Cymru yn cynnwys gwybodaeth am bob cartref gofal i oedolion yng Nghymru.
O leiaf, ar gyfer pob cartref gofal fe welwch wybodaeth am y math o ofal a ddarperir, ei leoliad a'i fanylion cyswllt, ynghyd â gwybodaeth am ei gofrestriad a dolenni i'r adroddiad arolygu diweddaraf. Yn bwysig, byddwch yn gallu gweld a oes gan y cartref unrhyw lleoedd gwag – caiff y wybodaeth hon ei diweddaru'n rheolaidd gan y cartrefi.