Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Cofrestru gwasanaeth

Gwybodaeth a chanllawiau i'ch helpu i gofrestru gwasanaeth oedolion a phlant.

Gwybodaeth bwysig cyn i chi gofrestru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 [dolen allanol] a fydd yn dileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru. Cyn cyflwyno cais i gofrestru cartref gofal i blant, ewch i Dileu elw o ofal plant | Arolygiaeth Gofal Cymru i ddysgu sut y bydd hyn yn effeithio ar y ffordd y caiff rhai gwasanaethau gofal eu darparu yn y dyfodol.

Pwy sydd angen cofrestru?

  • Gwasanaethau cartrefi gofal
  • Gwasanaethau llety diogel
  • Gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd
  • Gwasanaethau cymorth cartref (gwasanaeth a all ddarparu gofal yn eich cartref eich hun, yn ogystal â chymorth cyffredinol)
  • Gwasanaethau mabwysiadu
  • Gwasanaethau maethu
  • Gwasanaethau lleoli oedolion
  • Gwasanaethau eirioli

Sut i gofrestru

Gwasanaethau sy'n cofrestru o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

I gofrestru gwasanaeth gyda ni, mae'n rhaid i chi gwblhau a chyflwyno cais i gofrestru drwy ddefnyddio AGC Ar-lein (Dolen allanol).

Cyn i chi wneud cais

Mae canllawiau ar gael drwy ddarllen y Canllawiau ar gyfer darparwyr gwasanaethau cartrefi gofal a chymorth cartref (Dolen allanol) a’n dogfen Canllaw i Gofrestru ar waelod y dudalen hon.

Mae disgwyl i ddarparwyr yng Nghymru sy'n ystyried cofrestru cartref gofal i blant adolygu ein Canllawiau ar gofrestru cartref gofal i blant.

Cyn i chi wneud cais, bydd angen y canlynol arnoch:

  • Fersiwn electronig o'r Datganiad o Ddiben ar gyfer pob gwasanaeth rydych yn gwneud cais i'w gofrestru
  • Mae'n rhaid bod gan bob Unigolyn Cyfrifol a phob ymgeisydd unigol dystysgrif DBS gyfredol – naill ai eu bod wedi cofrestru â'r gwasanaeth diweddaru ac yn gallu darparu eu manylion, neu ni all eu tystysgrif DBS fod yn hŷn na thri mis ar adeg cyflwyno'r cais
  • Copi o'r cynlluniau llawr
  • Geirda banc (nid yw hyn yn ofynnol ar gyfer awdurdodau lleol na byrddau iechyd lleol)
  • Cynllun busnes ar gyfer dwy flynedd gyntaf y gwasanaeth arfaethedig (nid yw hyn yn ofynnol ar gyfer awdurdodau lleol na byrddau iechyd lleol)
  • Llif arian parod rhagamcanol manwl (nid yw hyn yn ofynnol ar gyfer awdurdodau lleol na byrddau iechyd lleol)
  • Cyfrifon blynyddol ar gyfer y ddwy flynedd diwethaf, os oes rhai (nid yw hyn yn ofynnol ar gyfer awdurdodau lleol na byrddau iechyd lleol)
  • Cynllun strwythurol o'r sefydliad (nid yw hyn yn ofynnol ar gyfer ymgeiswyr unigol)
  • Bydd angen i Unigolion Cyfrifol gael geirda meddygol – bydd yn ofynnol i chi lanlwytho hwn gyda'ch cais