Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Canllawiau ar gofrestru cartref gofal i blant yng Nghymru

Mae'r canllawiau cenedlaethol hyn wedi cael eu creu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, ni ein hunain a Chomisiynwyr Ifanc Consortiwm Comisiynu Cymru ar gyfer Plant.

Disgwylir i ddarparwyr yng Nghymru sy'n ystyried cofrestru cartref gofal i blant ddarllen y canllawiau cenedlaethol hyn (Dolen allanol), sydd wedi cael eu creu gan Lywodraeth Cymru, ni ein hunain a grŵp rhanddeiliaid gan gynnwys Consortiwm Comisiynu Cymru ar gyfer Plant a'u Comisiynwyr Ifanc.

Gwnaethom gomisiynu Consortiwm Comisiynu Cymru ar gyfer Plant (y cyfeirir ato gan ddefnyddio'r talfyriad Saesneg 4Cs hefyd) i gasglu safbwyntiau eu Comisiynwyr Ifanc ynghylch yr hyn sy'n gwneud cartref gofal o ansawdd rhagorol yn seiliedig ar eu profiad bywyd.

Gallwch ddarllen y canllawiau ar wefan Llywodraeth Cymru (Dolen allanol).

Wrth ystyried sefydlu cartref gofal i blant, mae hefyd yn bwysig darllen Adroddiad Adborth y Comisiynwyr Ifanc (Hydref 2023), y gallwch ddod o hyd iddo ar waelod y dudalen hon.