
Y safonau gwasanaeth y gellwch ei disgwyl gennym ni.
Rhoi gwasanaeth da i chi, pwy bynnag yr ydych – aelod unigol o’r cyhoedd, rhywun sy’n defnyddio’r gwasanaeth, darparwr gofal, neu un o’n llu o gydweithwyr – mae hynny’n hollbwysig i ni.
Ein hegwyddorion gwasanaeth cwsmeriaid
Sut bynnag y byddwch yn ymwneud â ni, ar y ffôn, trwy lythyr, wyneb yn wyneb, neu trwy weithio gyda ni, gellwch ddisgwyl inni ddilyn yr egwyddorion gwasanaeth cwsmeriaid hyn.
Proffesiynol
Dylech ddisgwyl inni wrando arnoch a bod yn wybodus a chymwynasgar. Os na allwn ni eich helpu, byddwn yn ceisio dod o hyd i rywun sy’n gallu.
Parch
Byddwn yn eich trin gydag urddas â parch. Gwyddom y byddwch chithau’n trin ein staff ni yn yr un modd.
Ymatebol
Byddwn yn ateb eich ymholiad mor gyflym ag y gallwn.
Hygyrch
Ein bwriad yw ei gwneud yn hawdd i chi gael mynediad i’n gwasanaethau, yn y ffordd sydd hwylusaf i chi.
Cyfathrebu
Gellwch gyfathrebu gyda ni yn Gymraeg neu yn Saesneg. Os bydd arnoch angen cyfathrebu mewn iaith arall, byddwn yn ceisio’n gorau i’ch bodloni.
Adborth
Dywedwch wrthym beth yw eich barn am ein gwasanaeth.