Gweithio gyda phartneriaid
Sut rydym yn gweithio gyda rheoleiddwyr ac arolygiaethau eraill.
Rydym yn gweithio’n agos gyda’r prif arolygiaethau eraill yng Nghymru:
- Estyn (Dolen allanol)
- Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (Dolen allanol)
- Archwilio Cymru. (Dolen allanol)
Mae Rhaglen Arolygu Cymru yn amlinellu ein gweithgareddau ar y cyd er mwyn gwella gwasanaethau i bobl.
Rydym hefyd yn gweithio gydag arolygiaethau eraill ledled y DU ac yn rhan o Fforwm y 4 Gwlad.
Rydym yn aelod o Fecanwaith Ataliol Cenedlaethol y DU (NPM), a sefydlwyd i gryfhau diogelwch pobl yn y carchar drwy fonitro annibynnol. Ymwelwch â gwefan yr NPM (Dolen allanol, Saesneg yn unig) am fwy o wybodaeth ynglŷn â'u gwaith.
Mae protocolau, concordatau, a memoranda y cytunwyd arnynt yn gosod sut rydym yn rhannu arfer da ac yn gweithio gyda rheoleiddwyr ac arolygiaethau eraill, a chydag awdurdodau sy’n ymwneud â gwella ansawdd gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.
Dogfennau
-
Memorandwm Cyd-Ddealltwriaeth Ofsted ac Arolygiaeth Gofal Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 862 KBPDF, Maint y ffeil:862 KB