
Ni yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru.
Rydym yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er llesiant pobl Cymru.
Yr hyn rydym yn ei wneud
• Rydym yn cyflawni swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru er mwyn darparu sicrwydd ynghylch ansawdd a diogelwch gwasanaethau
• Rydym yn penderfynu pwy sy'n gallu darparu gwasanaethau
• Rydym yn arolygu gwasanaethau rheoleiddiedig a gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, gan lywio gwelliannau iddynt
• Rydym yn cynnal adolygiadau cenedlaethol o wasanaethau gofal cymdeithasol
• Rydym yn cymryd camau i sicrhau bod gwasanaethau'n bodloni gofynion deddfwriaethol a rheoliadol
• Rydym yn ymateb i bryderon a leisiwyd am wasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant
Ein gwerthoedd craidd
Mae ein gwerthoedd craidd yn sicrhau bod pobl wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud ac yn dyheu am fod.
• gofalgar: rydym yn drugarog ac mae'n hawdd siarad â ni
• teg: rydym yn gyson, yn ddiduedd ac yn gynhwysol
• uniondeb: rydym yn onest a dibynadwy
• proffesiynol: rydym yn fedrus, yn wybodus ac yn arloesol
• parch: rydym yn gwrando ar bobl, yn ymgysylltu â nhw ac yn eu gwerthfawrogi
Y gwasanaethau rydym yn eu rheoleiddio ac yn eu harolygu
Rydym yn rheoleiddio'r gwasanaethau canlynol:
• gwasanaethau oedolion: cartrefi gofal i oedolion, gwasanaethau cymorth cartref, cynlluniau lleoli oedolion a gwasanaethau canolfan breswyl i deuluoedd
• gwasanaethau plant: cartrefi gofal i blant, gwasanaethau maethu, gwasanaethau mabwysiadu, gwasanaethau eirioli a gwasanaethau llety diogel
• gwasanaethau gofal plant a chwarae: gwarchodwyr plant, crèches, gofal dydd llawn, gofal dydd sesiynol, gofal y tu allan i'r ysgol a darpariaeth chwarae mynediad agored
Rydym hefyd yn adolygu perfformiad awdurdodau lleol wrth iddynt gyflawni eu swyddogaethau ym maes gwasanaethau cymdeithasol. Gwnawn hyn drwy gyfuniad o weithgarwch arolygu a gwerthuso perfformiad. Rydym hefyd yn arolygu'r canlynol:
• gwasanaethau maethu a mabwysiadu awdurdodau lleol
• ysgolion preswyl
• ysgolion arbennig preswyl (trefniadau llety am lai na 295 diwrnod)
• colegau addysg bellach sy'n lletya myfyrwyr dan 18 oed
Rydym hefyd yn arolygu ysgolion preswyl, ysgolion arbennig preswyl, a cholegau addysg bellach sy'n rhoi llety i fyfyrwyr sy'n iau na 18 oed, ond nid ydym yn eu cofrestru.
Sut rydym yn cyflawni ein swyddogaethau
Rydym yn cyflawni ein swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru o dan y ddeddfwriaeth ganlynol:
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dolen allanol) sy'n rhoi pwerau i adolygu'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu swyddogaethau ym maes gwasanaethau cymdeithasol.
Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ("Deddf 2016") (dolen allanol) sy'n rhoi pwerau i gofrestru a/neu arolygu darparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Rhan 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (dolen allanol) sy'n rhoi pwerau i gofrestru a/neu arolygu gwarchodwyr plant a gofal dydd (gan gynnwys chwarae) i blant dan 12 oed.