Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Cymerwch ran

Staff with children at nursery

Sut y gallwch gymryd rhan yn ein gwaith.

Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod barn a phrofiad pobl yn helpu i lywio ein gwaith.

Sut y gallwch gymryd rhan

Bwrdd Cynghori Cenedlaethol

Rydym wedi sefydlu Bwrdd Cynghori Cenedlaethol i’n helpu i wella’r gwasanaethau yr ydym yn eu harolygu a rhoi llais i bobl yn y ffordd y mae’r gwasanaethau yr ydym yn eu rheoleiddio a’u hadolygu yn cael eu rhedeg.

Ein harolygiadau

Yn ystod arolygiadau, mae ein harolygwyr yn treulio amser yn gwrando ar bobl ac yn siarad â nhw er mwyn cael eu sylwadau a’u barn. Fel rhan o’r broses arolygu, dylai pobl a’u teuluoedd gael y cyfle i lenwi holiadur. Bydd y darparwyr gwasanaeth yn rhoi’r rhain i chi ar ein rhan.
Gallwch hefyd roi eich sylwadau i ni ar berfformiad unrhyw wasanaeth.

Ein hadolygiadau

Pan fyddwn yn cynnal adolygiadau, rydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn siarad ac yn gweithio gyda phobl sy’n derbyn y gwasanaethau. 

Ymgynghoriadau ac arolygon

Rydym yn cynnal ymgynghoriadau neu arolygon pan fyddwn eisiau sylwadau gan bobl ar bwnc penodol. Os ydych wedi cofrestru i dderbyn gwybodaeth gennym, byddwch yn cael gwybod yn awtomatig.

Mynnwch ein newyddion diweddaraf

Diweddariad misol am ein gweithgareddau a’n gwybodaeth yw ein newyddion diweddaraf.