Ynghyd ag Estyn, rydym wedi datblygu fframwaith arolygu ar y cyd ar gyfer gwasanaethau gofal plant a chwarae.
Yr hyn rydym yn ei wneud
O fis Ionawr 2019, rydym wedi cynnal arolygiadau ar y cyd o'r gofal ac addysg mewn gwasanaethau wedi'u rheoleiddio nad ydynt yn ysgolion sy'n gymwys i gael cyllid ar gyfer addysg ran-amser.
Yn ystod yr arolygiadau ar y cyd hyn, rydym yn arolygu gofal pob plentyn hyd at 12 oed ac addysg plant tair a phedair oed nad ydynt yn derbyn addysg mewn lleoliadau a gynhelir.
Noder: Yn sgil pandemig y Coronafeirws sy'n mynd rhagddo o hyd, rydym ni, ynghyd ag Estyn, wedi penderfynu gohirio arolygiadau ar y cyd mewn lleoliadau nas cynhelir nes 31 Rhagfyr 2020. Byddwn adolygu'r sefyllfa yn ystod yr hydref ac yn ystyried yr opsiynau ar gyfer ailddechrau'r rhaglen arolygu ar y cyd yn y dyfodol. Rydym yn bwriadu rhoi o leiaf chwe wythnos o rybudd i'r sector cyn ailddechrau arolygiadau ar y cyd yn rheolaidd.
Cefndir
Yn 2015/16, gwnaethom dreialu fframwaith arolygu ar y cyd a oedd yn cynnwys llunio barn. Gwerthuswyd y peilot yn annibynnol yn ystod haf 2016 ac roedd yn rhan o'r fframwaith arolygu ar ofal plant a chwarae a gyflwynwyd gennym y flwyddyn honno.
Arolygiadau ar y cyd
Bydd ein harolygiadau ar y cyd yn darparu:
- Un adroddiad arolygu sy'n cwmpasu safonau mewn gofal plant ac addysg
- Fframwaith arolygu diwygiedig sy'n cwmpasu llai o feysydd ond rhai ehangach
- Amserlenni newydd ar gyfer hyd, amlder a chyfnodau rhybudd arolygiad
Dogfennau defnyddiol
Rydym wedi cyhoeddi canllawiau arolygu, dogfen cywirdeb ffeithiol, a dogfen ddilynol ar gyfer yr arolygiadau ar y cyd.
Lawrlwytho dogfennau
- File size:2 MB
- File size:2 MB
- File size:1 MB
- File size:1 MB