Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Iaith Gymraeg

Polisi Cyhoeddi Arolygiaeth Gofal Cymru (ar gyfer cyhoeddiadau allanol).

1.    Ffurflenni a Dogfennau Canllaw Arolygiaeth Gofal Cymru

  • Bydd yr holl ffurflenni a'r dogfennau canllaw yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg.

2.    Cyhoeddiadau Arolygiaeth Gofal Cymru, adroddiadau arolygu ac adolygu Awdurdodau Lleol, ac adolygiadau cenedlaethol a thematig

  • Bydd yr holl adroddiadau yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg.
  • Bydd yr holl gyhoeddiadau yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg.

3.    Adroddiadau arolygu gwasanaethau a reoleiddir

O 30 Mawrth 2016, yn unol â Safon 40 o Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015, caiff Arolygiaeth Gofal Cymru ei heithrio rhag gorfod cyhoeddi pob adroddiad arolygu rheoleiddiol yn Gymraeg.  Byddwn yn cyhoeddi'r adroddiadau hyn yn ddwyieithog dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Ar gyfer gwasanaethau sy'n gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.
  • Lle rydym wedi canfod y byddai hyn yn adlewyrchu dewis iaith y gwasanaeth. Byddwn yn cadarnhau dewis iaith gwasanaeth adeg ei gofrestru, ac yn gwirio drwy'r ymarfer casglu data blynyddol.
  • Pan fydd yr adroddiad yn ymwneud â lleoliad gofal penodol lle bo mwyafrif y cwsmeriaid yn siaradwyr Cymraeg, a bod Arolygwyr o’r farn y bydd defnyddwyr y gwasanaeth neu eu teuluoedd am gael adroddiad Cymraeg o bosibl.
  • Gall y cyhoedd wneud cais rhesymol a chymesur i weld unrhyw o adroddiadau arolygu Arolygiaeth Gofal Cymru yn y Gymraeg.  Ar gyfer ceisiadau o'r fath, bydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn ystyried p'un a yw'r pwnc neu'r gynulleidfa ddisgwyliedig yn awgrymu y dylai'r adroddiad fod ar gael yn Gymraeg, yn unol â Safon 47 Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015.  

Dylai ceisiadau gan y cyhoedd cael ei anfon at agc@llyw.cymru.

4.    Adroddiadau arolygu gwasanaethau a reoleiddir nad ydym yn eu cyhoeddi

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cartrefi plant
  • Canolfannau preswyl i deuluoedd

Mae hyn gan amlaf er mwyn diogelu preifatrwydd plant neu bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth hwnnw. Mae'r adroddiadau ar gael ar gais.