Sut y gallwch gael gafael ar ein data a’i ddefnyddio.
Rydym yn dymuno bod mor dryloyw ac agored â phosibl â’r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu, yn ei dadansoddi ac yn ei storio.
Mae ein cyfeiriadur yn caniatáu i chi lawrlwytho ffeil CSV o’r gwasanaethau sydd wedi’u cofrestru gyda ni yng Nghymru.
Rydym yn datblygu partneriaethau gyda gwefannau eraill. Rydym am annog pobl i ddefnyddio ein hoffer i adeiladu eu gwasanaethau eu hunain – yn enwedig i helpu pobl i ddod i wybod am yr opsiynau o ran gwasanaethau gofal sydd ar gael iddynt.
Sut y gallwch chi ddefnyddio ein data
Mae ein gwybodaeth ar gael dan y Drwydded Llywodraeth Agored, sy’n golygu y gallwch:
- gopïo, cyhoeddi, dosbarthu a throsglwyddo’r wybodaeth, cyn belled â’ch bod yn gwneud hyn yn unol â Deddf Diogelu Data 1998 ac yn cydnabod y ffynhonnell.
- addasu’r wybodaeth, ar yr amod nad ydych yn ei chamgyfleu nac yn ei defnyddio i gamarwain pobl.
- defnyddio’r wybodaeth yn fasnachol, er enghraifft trwy ei chyfuno â gwybodaeth arall, neu drwy ei chynnwys yn eich cynnyrch neu eich cymhwysiad eich hun.
Cyn i chi ddefnyddio’r wybodaeth, dylech ddarllen telerau’r drwydded yn llawn.
Sut y dylid defnyddio ein ffeil CSV
Mae’r wybodaeth yn y ffeil ar gael dan y drwydded Llywodraeth Agored. (Dolan allanol, Saesneg yn unig)
Gellir casglu’r ffeil trwy allgludo’r data gan ddefnyddio’r ddolen ‘allforio canlyniadau’ ar y dudalen Cyfeiriadur Gofal ar ein gwefan. Mae’r ffeil yn cynnwys:
Enw (A): Dyma enw’r lleoliad sydd wedi’i gofrestru gyda ni.
Adran (B): Dyma’r maes y mae’r lleoliad wedi’i gofrestru ynddo, e.e. lleoliadau preswyl i oedolion, gwasanaethau plant.
Categori (C): Dyma’r categori y mae’r lleoliad wedi’i gofrestru ynddo, e.e. cartref gofal i oedolion/hŷn, gwarchodwr plant, crèche.
Cyfeiriad (D): Dyma gyfeiriad y lleoliad. Nid ydym yn gallu darparu cyfeiriad llawn rhai lleoliadau i amddiffyn y rhai sy’n aros yno. Os felly bydd y golofn hon yn cael ei gadael yn wag.
Tref (E): Dyma enw tref y lleoliad.
Rhanbarth (F): Mae hyn yn nodi pa un o ranbarthau Arolygiaeth Gofal Cymru y mae’r lleoliad wedi’i gofrestru ynddo.
Awdurdod (G): Dyma enw’r awdurdod lleol y mae’r lleoliad wedi’i leoli ynddo.
Ffôn (H): Dyma rif ffôn y lleoliad.
Arolygiad Diwethaf (I): Dyddiad yr arolygiad diwethaf.
Cod Adnabod Unigryw (J): Dyma ddynodwr unigryw’r lleoliad. Pan fo lleoliad yn cael ei ddadgofrestru bydd hwn yn cael ei dynnu oddi ar y safle ac ni fydd ar gael ar y ffeil.
Hydred (K): Dyma’r hydred ar gyfer safle daearyddol y lleoliad. Ar gyfer y lleoliadau hynny nad ydym yn gallu dangos eu cyfeiriad llawn bydd hwn yn wag.
Lledred (L): Dyma’r lledred ar gyfer safle daearyddol y lleoliad. Ar gyfer y lleoliadau hynny nad ydym yn gallu dangos eu cyfeiriad llawn bydd hwn yn wag.
Rhoi cydnabyddiaeth i ni
Os byddwch yn defnyddio ein ffeil CSV, dynodwch yn eglur ar eich gwefan beth yw tarddiad yr wybodaeth os gwelwch yn dda a lle y bo’n briodol defnyddiwch ein logo.
Cysylltu â ni neu anfon adborth atom
Os oes gennych gwestiynau neu adborth rhowch wybod i ni trwy’r e-bost AGC.Cyfathrebu@llyw.cymru.
Hoffech chi gael mwy o wybodaeth am ein data?
I gyflwyno ymholiadau pellach am ein data, cysylltwch â’r tîm Rheoli Gwybodaeth trwy anfon neges e-bost i AGCGwybodaeth@llyw.cymru.