
Gwybodaeth ddiweddaraf am Coronavirus Newydd (COVID-19).
Gofal cymdeithasol neu gymunedol a gwasanaethau preswyl
Cynghorir pob gwasanaethau gofal cymdeithasol/gofal cymunedol neu ofal preswyyng Nghymru i nodi'r canllawiau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ynghylch coronafeirws i adlewyrchu'r datblygiadau presennol:
Os yw awdurdodau lleol neu Fyrddau Iechyd Lleol yn dymuno darparu gwasanaeth a fyddai fel arall angen ei gofrestru fel cartref gofal neu wasanaeth cymorth cartref, rhaid iddynt ein hysbysu o'u bwriadau ymlaen llaw, gan ddefnyddio'r ffurflen Hysbysu Gwasanaethau Eithriedig.
Adnoddau
- Gofal Cymdeithasol Cymru: Gwybodaeth ac adnoddau i'ch tywys trwy Covid-19
- Llywodraeth Cymru: Adnodd asesu risg COVID-19 ar gyfer y gweithlu
- SCIE: Coronavirus (COVID-19): cyngor ar gyfer gofal cymdeithasol
Galluogi pobl i gwrdd â theulu a ffrindiau
Yn dilyn cyhoeddiad y Cynllun Pontio Gofal Cymdeithasol(dolen allanol), Rydym yn disgwyl i bob darparwr groeso ac annog ymwelwyr mewn modd agored a hyblyg. Dylai ymweliadau dan do rheolaidd gael eu cefnogi heb gyfyngiadau pan nad oes brigiad o achosion. Nid ydym yn disgwyl bodolaeth cyfyngiadau anaddas ar niferoedd ymwelwyr, y diwrnodau y gall pobl ymweld, neu hyd ac amlder ymweliadau. Pe bai brigiad o achosion COVID yn y gwasanaeth, dylai pobl allu cael ymweliadau gan ddau ymwelydd dynodedig o hyd, ar yr un pryd os yw hynny'n well ganddynt.
Byddwn yn ystyried camau gorfodi os yw cyfyngiadau dianghenraid ar ymwelwyr yn tanseilio hawliau pobl ac yn torri rheoliadau. Mae hyn yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) Reoliadau 15, 21, 23 a 25.
Canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer ymwelwyr cartrefi gofal i'w gweld ar eu gwefan.
Gwasanaethau gofal plant a chwarae
Cynghorir pob gwasanaethau gofal plant a chwarae yng Nghymru i nodi'r canllawiau diweddaraf gan Llywodraeth Cymru ynghylch coronafeirws i adlewyrchu'r datblygiadau presennol:
- Gofal plant: Coronafeirws
- Coronafeirws (COVID-19):Addysg a gofal plant
- Coronafeirws (COVID-19): Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer gofal plant wedi’i reoleiddio
- Mesurau diogelu mewn lleoliadau gofal plant: cadw gofal plant yn ddiogel
Er bod y canllawiau wedi'u cyfeirio'n bennaf at ysgolion a gwasanaethau addysg, mae'r un peth yn wir am yr holl wasanaethau gofal plant a chwarae. Gofynnir i bob gwasanaeth o'r fath gymryd sylw o'r canllawiau hyn a gwirio gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd lle caiff y wybodaeth ddiweddaraf ei chyhoeddi'n uniongyrchol.
Os oes gennych achos o coronafeirws yn eich gwasanaeth sydd wedi'i gadarnhau, mae angen i chi ddweud wrthym. Defnyddiwch ein proses hysbysu ar gyfer clefydau heintus
Adnoddau
- Llywodraeth Cymru: Fframwaith ar gyfer adferiad gofal cymdeithasol: COVID-19
- Anabled Dysgu Cymru: adnoddau i bobl gydag anabledd dysgu a’u cefnogwyr nhw
- Busnes Cymru: COVID-19 Cymorth y Fusnes
- Senedd Ymchwil: gwybodaeth a chymorth i bobl Cymru