Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Ein strategaeth a'n prosiectau

Beth rydym yn awyddus i’w gyflawni a sut rydym yn bwriadu ei wneud dros y pum mlynedd nesaf.

Ein cynllun strategol ar gyfer 2025-2030

Yr hyn rydym am ei gyflawni a sut rydym yn bwriadu ei wneud dros y pum mlynedd nesaf.

Croeso i'n Cynllun Strategol ar gyfer 2025-2030. 

Mae'r cynllun pum mlynedd hwn yn amlinellu ein hymrwymiad i wella diogelwch ac ansawdd gwasanaethau ledled Cymru drwy ein tri philer allweddol: 

  • sicrhau ansawdd drwy reoleiddio cadarn
  • llywio gwelliant ystyrlon ar bob lefel
  • ehangu ein dylanwad cadarnhaol drwy bartneriaeth

Edrychwch ar y cynllun llawn er mwyn gweld sut y byddwn yn cydweithio i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ledled Cymru. 

Ein cynllun ymgysylltu ar gyfer 2020-2025

Mae ein cynllun ymgysylltu yn amlinellu ein blaenoriaethau a'n huchelgeisiau ar gyfer sicrhau bod pobl yn ymgysylltu â'n gwaith dros y pum blynedd nesaf.

Ein huchelgais yw meithrin cydberthnasau cadarn ac ymddiriedus â phobl, gan siarad â chynifer o bobl ag y gallwn. Bydd canolbwyntio ar brofiadau pobl a deall sut mae gwasanaethau yn effeithio ar eu bywydau yn ein helpu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl Cymru.

Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • sut y byddwn yn sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r gwaith rydym yn ei wneud, ac yn deall ein rôl
  • sut y byddwn yn cymryd camau i wella'r ffordd rydym yn sicrhau bod pobl yn ymgysylltu â'n gwaith
  • sut y byddwn yn rhannu ein gwybodaeth a'n canfyddiadau er mwyn cefnogi gwelliannau

Byddwn yn gwerthuso ein cynnydd o ran gweithredu'r cynllun hwn bob blwyddyn, gan weithio gyda'r grŵp o bobl a wnaeth ein helpu i'w ddatblygu a'n Bwrdd Cynghori Cenedlaethol.